Exhibitions

Ffair Sînau

Posted on October 22, 2021

Ar Ddydd Sadwrn 30 Hydref rydym yn cynnal Ffair Sînau yng Ngwesty Westgate yng Nghasnewydd.

Ond, fel mae pobl wedi’i ofyn sawl tro, beth yw Sînau?

Maen nhw’n gallu bod yn bethau anodd eu diffinio. … Fel arfer maen nhw’n gyhoeddiadau, gyda dosbarthiad bach, o destunau a delweddau gwreiddiol neu benodol berthnasol. Yn ehangach, mae’r term yn cynnwys unrhyw waith unigryw wedi ei hunan-gyhoeddi y mae lleiafrif yn ymddiddori ynddo, ac sydd wedi ei ailgynhyrchu ar lungopïwr fel arfer.

Rydym wedi gwahodd artistiaid, ffotograffwyr, grwpiau cymunedol ac unrhyw un y gallwn ni feddwl amdanynt sy’n cynhyrchu sînau bach, cylchgronau llawn, llyfrau
ffotograffau neu lyfrau wedi eu hunan-gynhyrchu, llyfrynnau gwybodaeth a phamffledi, i ymuno â ni a rhannu eu creadigaethau gyda gweddill Casnewydd! Rydym yn bwriadu cael amrywiaeth gyfan o gyhoeddiadau ar bob math o bynciau ymhob math o arddulliau, Byddwn hefyd yn cynnal rhai gweithdai gwneud sînau a byddem yn annog pawb i fynd ati i greu eu cyhoeddiad personol ac unigryw eu hunain!

Felly ymunwch â ni yn safle hanesyddol Gwesty Westgate i ganfod cynnwys a chreadigaethau unigryw! Ac os hoffech gynhyrchu eich sînau eich hun i’w gwerthu yn y digwyddiad, yna cofiwch gysylltu!

Workshop 1: Zine Making with Jude Wall 11am - 12pm

Workshop 2: Zine Making with Snap Shop 1 - 2pm

Continue reading

Gŵyl Diffusion 2021 Parti Cloi

Posted on October 21, 2021

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym eich gwahodd i’n parti cloi ar gyfer Trobwynt: Gŵyl Diffusion 2021 yng Ngwesty Westgate, Casnewydd, 8-11.30pm ar Ddydd Sadwrn 30 Hydref.

Edrychwn ymlaen at ddathlu gyda chi yn yr ystafell ddawnsio hanesyddol, a diolch i bawb sydd wedi cyfranogi yn y gwaith o gynhyrchu’r digwyddiad rhagorol hwn.

Bydd bar, bwyd, cerddoriaeth a hyd yn oed set byw gan yr ardderchog Jo-jo And The Teeth!

Os oes gan unrhyw un ofynion mynediad, anfonwch e-bost at [email protected]

Continue reading

The Betrayal Cycle

Posted on October 20, 2021

Mae’r Gylchred Frad yn gyfres newydd sbon o ymyriadau ar y dirwedd sydd wedi eu dogfennu i ddatgelu gweithredoedd brad dynolryw.

Wedi eu hysbrydoli gan gamau adfer trawma a galar, mae’r Gylchred Frad wedi ei rhannu’n naratif strwythuredig sydd yn rhoi llwyfan i faterion amgylcheddol fel cyfeiriad awgrymog at berthnasau personol ac agos, gan gwestiynu gweithredoedd ymddygiad llygredig dynol, a’u heffaith hirdymor ar y dirwedd.

Continue reading

Tirweddau i’r dyfodol? Trafodaeth panel ddigidol, Cadeirydd Jamie Owen

Posted on October 20, 2021

Allwn ni ail-ddychmygu dyfodol carbon isel lle gall cymunedau gwledig a natur ffynnu? Yn ei arddangosfa ffotograffig Tir/Môr, mae Mike Perry yn cwestiynu sut mae Prydain yn rheoli ei thirweddau gwarchodedig ar gyfer yr hinsawdd a bioamrywiaeth ar hyn o bryd. Gan gyd-daro â COP26, bydd Jamie Owen yn ymuno â’r artist Mike Perry, Dr Sarah Beynon, cadwraethwr a sylfaenydd Bug Farm Tyddewi, Ian Rickman, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Dr Rosie Plummer. Cewch glywed yr arbenigwyr hyn yn trafod yr heriau sydd o’n blaenau, y newidiadau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth, a sut gallwn ni elwa o adfer byd natur.

Continue reading

Nik Roche Talk and Tour

Posted on October 03, 2021

Mae It's Hard to Report a Stolen Bike, Stolen yn ail bennod sy’n dilyn The Budgie Died Instantly a gyhoeddwyd yn 2020. Yn wreiddiol, fe ddechreuodd y corff yma o waith fel ymateb i brofiadau bywyd ac atgofion plentyndod; ond yna, drwy gyfres o gyfarfyddiadau ar hap fe ddatblygodd i fod yn archwiliad o gyfeillgarwch, gwrthdaro, hiwmor a dynoliaeth. Mae’n edrych ar berthnasoedd, cydnabod a derbyn, ac ymddiriedaeth mewn cymuned glos a thynn. Mae dyheadau iwtopaidd yn bodoli yn y lle hwn – yn y ffenestri wedi’u haddurno â blodau, a thu ôl i ddrysau caeëdig mewn mannau gwaharddedig sy’n llawn balchder ymddangosiadol lle mae pwysau diniweidrwydd coll a breuddwydion sy’n pylu yn drwm.

Bydd cyfle i chi siarad â’r artist a chanfod rhagor am y gwaith ar ddydd Sadwrn 9 Hydref, 3 – 5pm! Ymunwch â Nik Roche i gael taith o amgylch ei arddangosfa, yn ogystal ag archebu sesiwn lofnodi a holi ac ateb.

Continue reading

Bee Day

Posted on September 29, 2021

Dewch i ymuno â ni i fwynhau diwrnod o hwyl i ddathlu’r gwenyn! Mae Ffotogallery wedi ymuno â Pharmabees a’r Ink Collective i gynnal diwrnod o weithgareddau a gweithdai sydd wedi eu llunio i’n helpu i achub y gwenyn. Rhowch gynnig ar adeiladu cwch gwenyn, ail blannu dalwyr planhigion Cathay’s, gwneud gardd addas i wenyn, ac ymuno â’r gemau gwenyn, helfa lluniau a’r llwybr trysorau.

Gallwch ddod i gyfarfod pawb am 11am wrth Eglwys St Andrew a St Teilo, Woodville Road, CF24 4DX i weithio ar y dalwyr planhigion cymunedol awyr agored, neu dewch draw i Ffotogallery o ganol dydd i fwynhau ein gweithgareddau hwyliog i deuluoedd.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb!

Continue reading

The Moving Image

Posted on September 26, 2021

Mae The Moving Image yn arddangosfa o ffotograffau sy’n dogfennu’r matresi gwely a gafodd eu taflu allan yng Nghasnewydd yn ystod y cyfnod clo. Bydd yr arddangosfa’n ‘mynd am dro’ ar hyd Commercial Street yng nghanol y dre. Wir yr.

Continue reading

Mynd â Matres Am Dro

Posted on September 26, 2021

Bydd y daith yn dechrau yng ngorsaf fysiau Casnewydd. Yno, bydd Sgwadron
Kajagoogoo yn camu ar fwrdd bws rhif 30 gyda matres ddwbl. Ar ôl cyrraedd Caerdydd, fe fyddan nhw’n troi rownd a cherdded yr holl ffordd yn ôl i Gasnewydd - gan ddilyn llwybr taith bws rhif 30, a llusgo’r fatres gyda nhw.

Continue reading

Black Mantis

Posted on September 26, 2021

Electronica Jazz a delweddau i ymgolli ynddynt

Mae Black Mantis yn berfformiad cerddoriaeth byw i ymgolli ynddo a ddatblygwyd rhwng 4Pi Productions a Deri Roberts. Yn dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Diffusion, mae Black Mantis yn brosiect newydd gan y cynhyrchydd o Dde Cymru, Deri Roberts, sydd efallai’n fwyaf adnabyddus am fod yn un o dri aelod Slowly Rolling Camera. Yn ei albwm diweddaraf, Devil's Flower, mae’n plymio i mewn i’w ochr electronig dywyllach gan uno ei gariad at gerflunwaith sain, electronica a jazz at ei gilydd a chreu byd sain cyffrous newydd sy’n newid drwy’r amser gyda sgôr gweledol wedi ei gynhyrchu gan y stiwdio greadigol arobryn 4Pi.

Deri Roberts: Electroneg fyw

Ben Waghorn: Sacsoffon

Mark Sambell: Allweddellau

Jon Goode: Bas

Elliot Bennett: Drymiau

Elfennau gweledol: 4Pi Productions

Continue reading

Pop-up Portrait Studio Exhibition

Posted on September 26, 2021

Ym mis Medi 2021, cynhaliodd Ffotogallery ddau sesiwn dros dro i dynnu lluniau portread am ddim yng nghanol Pilgwenlli yng Nghasnewydd. Man Perfformio Phyllis Maud oedd ein stiwdio ffotograffig, a gosodwyd goleuadau a chefnluniau yn arbennig i aelodau’r cyhoedd gael tynnu eu lluniau gan un o’n ffotograffwyr proffesiynol (sydd hefyd wedi eu seilio yng Nghasnewydd) Rhys Webber a Fez Miah. Mae’r lluniau a dynnwyd yn adlewyrchu’r amrywiaeth ddiwylliannol ymysg
trigolion Pilgwenlli ac maen nhw’n dathlu profiadau unigol ac ar y cyd y bobl hyn ac yn dangos y cynhesrwydd a’r cyfeillgarwch a ddangoswyd i ni gan bawb a ddaeth yn fodelau i ni. Treuliodd Rhys a Fez amser yn dod i adnabod y bobl fyddai yn eu lluniau ac mae’r berthynas newydd rhwng y ffotograffwyr a phynciau’r lluniau’n glir yn wynebau pobl ragorol Pill.

Cyn hyn, roedd Man Perfformio Phyllis Maud yn doiled a adeiladwyd i ddynion yn unig ym mlynyddoedd hwyr yr 1800au, ac yna bu’r adeilad rhestredig graddfa II hwn yn gwasanaethu gweithwyr y rheilffordd (roedd rheilffyrdd y tu ôl i Phyllis Maud) a docwyr Casnewydd. Pan aeth yn adfeilion a dechreuodd fod yn beryglus, rhoddwyd bywyd newydd i’r perl hwn gan ei berchennog presennol, Janet Martin. Y gobaith yw y bydd yn sefyll yn falch am gyfnod hir i ddod er anrhydedd i’r ddiweddar Phyllis Maud Neels, ac yn rhoi pleser i bobl Casnewydd a thu hwnt.

Continue reading

Niam/Faith/Hynniewtrep

Posted on September 26, 2021

Mae India yn cael ei llunio o’r newydd. A hithau wedi ei dathlu gynt fel llwyddiant amryfath o adeiladu cenedl wedi dadwladychu, mae llawer o’i meincnodau ôl-drefedigaethol yn prysur gael eu hail-weithio, eu dileu, eu gosod o’r neilltu. Ond pe baech chi wedi gwylio India o Fryniau Khasi-Jaintia yng Ngogledd-ddwyrain y wlad, mi fyddech chi wedi gweld stori ogoneddus India ar ogwydd gwahanol.

Am y tair blynedd ar ddeg diwethaf, rwyf wedi bod yn ceisio gwneud synnwyr o’r syniad o ffydd a hunaniaeth a dadleuon o amgylch y cwestiwn o ffydd a chreu cenedl ymysg pobl Khasi Jaintia. Pedair blynedd ar ddeg, am i ddiwygiad ysgubo drwy’r bryniau yma yn 2006, gan droi plant yn broffwydi. Teithio’r bryniau ac astudio Archifau Cenhadol Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn Aberystwyth gan archwilio’r wleidyddiaeth sydd ynghlwm wrth greu hunaniaeth.

Continue reading

Out of Breath

Posted on September 26, 2021

Hyd yn oed gyda system o gymalau cadw wedi ei sefydlu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n cael eu hachosi gan y system gast, mae’r llunwyr polisi a’r biwrocratiaid yn dod gan fwyaf o’r cast uwch, gan ei gwneud hi’n haws i adael i’r gweithgareddau annynol barhau hyd yn oed hyd heddiw, neu adael iddynt ddigwydd heb i neb sylwi arnynt na’u cwestiynu. Drwy ddogfennu’r straeon yma, rwyf wedi gallu taflu goleuni hanfodol ar y testun brwnt yma o sborioni â llaw. Rwyf wedi canolbwyntio gan fwyaf ar y marwolaethau sy’n digwydd wrth wneud y gwaith yma, a hefyd ar fywydau’r plant yn y teuluoedd sydd wedi eu dal yn y cythrwfl yma.

Continue reading

Ôl Gwaed

Posted on September 26, 2021

Wedi’r rhaniad, hyd yn oed os yw dinas Calcutta wedi adfer, mae’r ymdeimlad o
wahaniaethu yn parhau, gan hollti gwahanol gymunedau, neu rai sectorau swyddi.
Mae’r rhaniad yn dal i fodoli. Ers annibyniaeth bu llu o derfysgoedd, ond y diweddaraf yw’r gwrthdaro dros y Ddeddf Dinasyddiaeth (diwygio) a ddigwyddodd yn ninas Delhi yn 2020. Oherwydd y sefyllfa gyda Covid-19, pan ofynnwyd i gleifion
hunanynysu, gwelwyd gwrthdaro enfawr yn Telinipara, Chandan Nagar, Gorllewin
Bengal, gyda phobl yn gwrthod aros gyda phobl o gymunedau eraill. Mae India eisoes yn mynd trwy ddirwasgiad economaidd oherwydd Covid-19, ac mae hyn yn anochel yn mynd i arwain at newyn, a gyda’r gwrthdaro yma, mae amodau yn mynd i waethygu fwy fyth.

Continue reading

Meet Photographer: Paul Adrian Davies

Posted on September 26, 2021

Devotees of Rock is an exhibition of portraits of rock and roll fans from the U.K. and the U.S.A. The fans were photographed waiting to get into venues, at outdoor shows or during random street encounters. The common thread is their devotion to rock music and more often than not to a particular band or artist. Mae Devotees of Rock yn arddangosfa o bortreadau o gefnogwyr roc a rôl o’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau. Cafodd y cefnogwyr dynnu eu lluniau yn aros i fynd i mewn i safleoedd, mewn sioeau awyr agored neu wrth ddigwydd cyfarfod ar y stryd. Yr edau sy’n gwau drwy’r cwbl yw eu hymroddiad i gerddoriaeth roc ac, yn amlach na pheidio, i fand neu artist arbennig.

Maen nhw’n gallu dweud wrthych ymhle a phryd y prynon nhw’r crys-t maen nhw’n ei gwisgo a sawl gwaith y maen nhw wedi gweld eu hoff fand. Mae rhai o’r cefnogwyr mwyaf ymroddedig wedi gweld eu hoff fand yn chwarae’n fyw gannoedd o weithiau yn llythrennol.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu roc a rôl felly gwisgwch eich crys roc clasurol gorau i’r achlysur. Byddwn hefyd yn anrhydeddu yr hyn a fyddai’n ben-blwydd John Lennon yn wyth deg. Un o’r rocwyr gorau a fu erioed.

Bydd lluniaeth a danteithion ar gael i’w mwynhau. Toiled a mynediad i’r anabl. Mynediad am ddim. Croeso i bawb!

Continue reading

Parade

Posted on September 26, 2021

Arddangosfa o waith o osodwaith ymdrwythol aml-gyfrwng gwreiddiol, a gomisiynwyd gan Lyfrgell y Maendy, a Chyngor Celfyddydau Cymru.

“Yng nghanol y ddinas y mae’r henebion ond, gan mwyaf, nid dyna ble mae bob yn byw eu bywydau…” Guido Guidi.

Mae fy ngwaith creadigol wedi ei ysbrydoli gan leisiau pobl Cymru. Rwyf wedi canolbwyntio ar natur felodig, a gweadau gwahanol dafodieithoedd ac ieithoedd; yn enwedig ein tafodieithoedd Cymreig ac Eingl-gymreig brodorol, a sut y cânt eu hadlewyrchu yn ein hamgylchedd, a’u diffinio ganddi.

Treuliais amser yn y Maendy, Casnewydd, yn cyfarfod a gwrando ar straeon pobl, ochr yn ochr â’r ffilmiwr a ffotograffydd Huw Talfryn Walters. Wedi dod i adnabod llawer o’r bobl hynny oedd yn byw, gweithio ac addoli yno, a chipio oriau o ffilm, cyfweliadau, ac ymateb i’w synau, cyflwynais y deunydd vérité yma, yn osodwaith ymdrwythol safle-benodol: profiad ar y cyd wedi ei leoli yn y gymuned; a phorth ar-lein; perthynas ‘un-wrth-un’ mwy agos atoch.

Mae’r gwirioneddau a’r realiti ddaw i’r golwg, o’u gweld ar y cyd, yn mynegi ymdeimlad cryf o le, ac o’r hyn mae’n ei olygu i berthyn, a realiti byw yn Ne-ddwyrain Cymru drefol. Mae’n giplun o fywyd yn y Maendy, fel y gwelsom ni ef yn 2019.

Gan ddefnyddio dull cinéma vérité¸a ddylanwadwyd gan y gwneuthurwr ffilmiau dogfen, Pierre Perrault, mae’r gwaith yn ymwneud â goblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol yr hyn sy’n cael ei ddal ar ffilm.

Continue reading

Maryam Wahid and Coffee & Laughs Portraits

Posted on September 25, 2021

​Mae Maryam Wahid (g. 1995) yn artist gwobrwyol. Gan ddefnyddio celfyddyd ffotograffiaeth mae gwaith Wahid yn fywgraffiadol ac yn archwilio ei hunaniaeth fel menyw Fwslimaidd Pacistanaidd Brydeinig.

Mae hi’n mynegi gwreiddiau’r gymuned Bacistanaidd yn ei thref enedigol, Birmingham (DU) drwy archwilio ei hanes teuluol ei hun sydd â gwreiddiau dwfn; ac integreiddiad torfol mewnfudwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae ei chefndir academaidd mewn Celf, Ffotograffiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ochr yn ochr â’i diddordeb mewn gwybyddiaeth ddiwylliannol ac ideolegau crefyddol yn dylanwadu fwyfwy ar ei gwaith. Mae ei gwaith yn archwilio benywdod, hanes cymuned De Asia ym Mhrydain a’r syniad o gartref a pherthyn.

Daeth Maryam ar draws merched Coffee and Laughs y tro cyntaf pan ddaethant i weld ei harddangosfa solo yn Ffotogallery, Caerdydd. Mi wnaethon nhw rannu straeon ac archwilio hanesion unigol a chyfunol wrth i Maryam ddod i’w hadnabod yn well a, ynghyd â Maryam, fe aethant ymlaen i gynllunio eu portreadau eu hunain: beth oeddent am wisgo, os oeddent am gynnwys ffotograffau o’r teulu a sut hoffant gael eu cynrychioli, eu gweld a’u cofio. Yna trefnodd Maryam y sesiynau tynnu llun gyda’r grŵp i osod a chipio’r portreadau yr oedden nhw wedi eu cynllunio.

Mae’r portreadau a grëwyd yn helpu i adrodd hanes y menywod: eu cefndiroedd, teuluoedd, llwyddiannau a phrofiadau. Maent yn bersonol ac yn ddadlennol gan gynnig mewnwelediad i sut mae’r menywod yma am gael eu gweld gan y bobl o’u hamgylch. Wrth weithio ar y prosiect lluniwyd sawl cyfeillgarwch, ac roedd hi’n fraint i bawb gymerodd ran gael gwrando ar y straeon a rannwyd.

Continue reading

Antonia Osuji and Coffee & Laughs Portraits

Posted on September 25, 2021

Mae Antonia Osuji (g. 1998) yn ffotograffydd dogfennol o’r DU, sy’n byw yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio cwrs BA Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ei diddordebau a’i gwaith yn gorwedd mewn anthropoleg ddiwylliannol a chynwysoldeb. Mae prosiectau yn y gorffennol megis Commonalitŷ a Family Portraits (Between Two Fires) yn canolbwyntio ar wahaniaethau diwylliannol ac ar gynnwys pob hil a chefndir ethnig.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar interniaeth gyda RCC (Race Council Cymru). Gweithiodd Antonia gyda menywod grŵp Coffee and Laughs Tŷ Cymunedol Casnewydd i archwilio a datblygu technegau ffotograffiaeth. Gan ddechrau gydag ymweliad ag awyrgylch hardd Gerddi Dyffryn, defnyddiodd y menywod gamerâu digidol i greu gwahanol effeithiau gyda’u delweddau, a chwarae gyda gludwaith o bapur a blodau. Rhoddodd y grŵp hyd yn oed gynnig ar greu camerâu twll pin, a chipio delweddau oedd bron yn haniaethol o’r Ardd Heddwch yng nghanolfan Tŷ Cymunedol.

Yna casglwyd holl ddelweddau’r grŵp at ei gilydd mewn ffolder cydweithredol, gan ddethol rhai ar gyfer arddangosfa. Defnyddiwyd y ffotograffau yma hefyd i greu byntin trawiadol gyda ffotograffau ar bob triongl bychan i addurno Tŷ Cymunedol ar gyfer gŵyl Maendy.

Continue reading

Tripping Through Newport Underbelly

Posted on September 22, 2021

Taith Ar Draws ac O Dan y Llwybrau Tanddaearol, yr is-ffyrdd a rhai o’r mannau sy’n eu cysylltu nhw yng Nghasnewydd – lleoedd sy’n dal i fod heb y camerâu goruchwylio sydd i’w cael ym mhob man. Mannau sy’n cael eu hanwybyddu’n aml iawn; ‘Mannau Negyddol’ sydd ddim yn gwahodd pobl i sefyllian neu ymdroi. Mannau y byddwn ni’n symud drwyddyn nhw yn hytrach nag aros ynddyn nhw. Mannau sy’n gartref i rai, ac sy’n lleoedd i eraill ollwng eu sbwriel.

Continue reading

The Oddfellows Pigeon Club

Posted on September 21, 2021

Cafodd Clwb Colomennod yr Oddfellows ei sefydlu’n ôl yn y chwedegau. Byddai aelodau’r clwb yn cwrdd yn nhafarn yr Oddfellows Arms ym Maendy yng Nghasnewydd. Yn fwy penodol, byddent yn cwrdd mewn adeilad haearn crychiog mawr â tho cromen yng ngardd gefn y dafarn – i ddangos eu colomennod. Ar un adeg roedd gan y clwb dros naw deg o aelodau, ond erbyn 2016 roedd yr aelodaeth wedi dirywio’n sylweddol i ddim ond rhyw ddeg neu bymtheg ar gyfartaledd. Gan mai nifer fach iawn o aelodau oedd yn mynychu’r cyfarfodydd, roeddynt yn gwario llai a llai o arian yn y bar.

Ac felly, nid oedd cefnogi’r clwb yn gwneud synnwyr economaidd i’r dafarn. Yn y pendraw, penderfynodd y landlord y byddai’n well defnyddio’r adeilad yng ngardd gefn y dafarn at bwrpasau eraill. Erbyn 2017, gwaetha’r modd, nid oedd y clwb yn bodoli.

Tyfodd cadw colomennod rasio yn hobi poblogaidd iawn ymysg dynion dosbarth gweithiol yn bennaf; ac roedd diwylliant rasio colomennod yn ei anterth yn ystod diwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau. Dirywiodd ei boblogrwydd law yn llaw â dirywiad dramatig y diwydiannau trwm.

Yn ei anterth, roedd dros ugain o glybiau bridwyr colomennod yng Nghasnewydd; ond dim ond llond dwrn sydd wedi goroesi. Gan fod cyn lleied o bobl ifanc yn ymddiddori mewn rasio colomennod, cyn bo hir bydd yn ddiwylliant sy’n perthyn i’r gorffennol yn unig.

Ond, wedi’r pandemig, mae landledi newydd y tu ôl i’r bar: Mae Jo Harridence wedi bod yn un o selogion y dafarn ers dros dri deg o flynyddoedd, a bellach mae hi wedi ail-sefydlu’r clwb colomennod. Mae’n ymddangos y bydd yr hobi’n goroesi am beth amser eto.

Continue reading

Give me your best shot

Posted on September 20, 2021

Mae Give Us Your Best Shot yn cael ei gyflwyno gan UCAN Productions sydd wedi ymuno â Ffotogallery i roi llwyfan i ffotograffwyr ifanc Dall a Rhannol Ddall o Gymru i arddangos eu gwaith yng Ngŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Diffusion yng Nghaerdydd ym mis Hydref.

Enwau’r artistiaid ifanc a gafodd eu dethol drwy alwad agored i gyflwyno eu gwaith yn yr arddangosfa yma yw: Megan Price, Emily Burton, Amy Gifford, Kyla Smith, Hannah Matthews, a Marcus Strait.

Maen nhw’n gobeithio y bydd eu gwaith gwych yn herio canfyddiadau cymdeithas am yr hyn y gallant ei gyflawni!

Continue reading

See Differently

Posted on September 17, 2021

Mae RNIB Cymru a Sight Life wedi ymuno â Ffotogallery ar gyfer prosiect o’r enw See Differently i roi llwyfan i ffotograffwyr Dall a Rhannol Ddall o Gymru i arddangos eu gwaith yng ngŵyl Diffusion ym mis Hydref.

Mae’r artistiaid sy’n cyflwyno gwaith yn yr arddangosfa yma’n dioddef o amryw o gyflyrau sy’n amharu ar eu golwg, fel glawcoma, dirywiad y maciwla, cataractau, hemianopia homonymous eang, colli golwg ymylol a nystagmus. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan: Andy Busbridge-King, Ian Burgess, Emma Juliet Lawton, Des Radcliffe, Elisa Ip, (Henry) Tony Morgan, John Sanders, Paul Jenkinson, Tracy Smedley, Katarzyna Jakimczuk, Jake Sawyer, Rachel Jones ac Alan Cains.

Bydd RNIB Cymru hefyd yn cyflwyno detholiad o’r ffotograffau ar-lein drwy gydol mis Hydref – i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol os dymunwch.

Continue reading

Goleubeintio

Posted on September 17, 2021

Mae goleubeintio yn fath o ffotograffiaeth lle mae olion goleuadau’n cael eu cofnod mewn ffotograffiaeth ddinoethiad hir; fel creu siapiau gyda ffyn gwreichion ar Noson Tân Gwyllt.

Mae gen i ryw 50 o ‘Frwshys Golau’ ac rwy’n annog llawer o gyfranogaeth gan y gynulleidfa, gan ganiatáu i bobl o unrhyw allu greu portreadau rhyfeddol a pheintiadau golau haniaethol bywiog, darluniau animeiddiadau a graffiti. Rwyf hefyd yn defnyddio ffyn LED rhaglenadwy sy’n gallu ychwanegu testun neu unrhyw ddelweddau digidol i’r lluniau.

Mae pob delwedd yn cymryd tua 20 eiliad i 1 funud i’w creu. Mae’r llun sy’n datblygu’n ymddangos mewn amser real ar sgrin llechen neu daflunydd fel bod pawb yn gallu gweld y canlyniadau ar unwaith.

Continue reading

A Lockdown Landscape

Posted on September 17, 2021

Wrth i 2019 ddirwyn i ben, ychwanegodd arbenigwyr Sefydliad Iechyd y Byd yr argoelus “Haint-X” i’w rhestr o flaenoriaethau, gyda rhybudd y dylai’r byd baratoi am bandemig posibl wrth i adroddiadau ledu am fath ‘newydd’ o Coronafirws a oedd yn effeithio trigolion dinas Wuhan yn Tsieina.

Erbyn gwanwyn 2020, roedd y firws, a elwid bellach yn Covid-19, wedi lledu i wledydd eraill. Roedd ysbytai yn yr Eidal, Sbaen, Brasil ac America yn brwydro yn erbyn cynnydd dyddiol yn nifer yr achosion. Ym Mhrydain, roedd wardiau ysbytai'n cael eu cau i driniaethau nad oeddynt yn rhai brys oherwydd y nifer cynyddol o gleifion â Covid-19; ac roedd y sianeli newyddion cenedlaethol yn dangos darlun brawychus o ledaeniad heintiadau a nifer fawr o farwolaethau.

Ar 23ain o Fawrth, daeth “Cyfyngiadau Symud” cenedlaethol i rym wrth i'r Prif Weinidog annerch y genedl “...O heno ymlaen, rhaid imi roi cyfarwyddyd syml iawn i bobl Prydain – rhaid i chi aros adref.” Nid oedd pobl yn cael gadael eu cartrefi ac eithrio at 'ddibenion cyfyngedig iawn” fel siopa am nwyddau angenrheidiol, ymarfer corff dyddiol neu deithio i'r gwaith. Rhoddwyd gorchymyn i gau busnesau nad oeddent yn hanfodol yn ogystal â siopau, tafarndai ac ysgolion. Gwaharddwyd aelodau o wahanol aelwydydd rhag cyfarfod a chafodd digwyddiadau cymdeithasol gan gynnwys priodasau a mynychu angladdau eu hatal. Yn sydyn, roedd strydoedd Prydain yn dawel fel y bedd, heblaw am ambell redwr a'r ciwiau o bobl yn cadw pellter cymdeithasol y tu allan i archfarchnadoedd. Parodd y drefn o orfodi cyfnodau clo yn ysbeidiol am y pymtheg mis nesaf.

Yn ystod y cyfnod yma dewisodd y ffotograffydd o Gasnewydd, Ron McCormick, ddefnyddio’r diffiniad newydd yma o'i ‘hawl i ymarfer’ i fentro allan am droeon hir gyda'i gamera - i archwilio'r strydoedd a'r mannau agored a oedd mor dawel bellach, a thynnu ffotograffau o'r digwyddiadau a'r golygfeydd hynod a welodd. Cyflwynir y delweddau hynny yn 'Lockdown Landscapes'. Mae’n gofnod arwyddocaol o'r cyfnod cythryblus yma yn ein hanes a'r patrymau newydd o ymddygiad cymdeithasol a ddaeth yn ei sgil.

Continue reading

Cathays Community Photogram

Posted on September 17, 2021

Yn ystod haf 2021, cynhaliodd Ffotogallery dri gweithdy Cymunedol Dros Dro rhad ac am ddim mewn amrywiol leoliadau o amgylch ardal Cathays yng Nghaerdydd. Roedd gennym gazebo ac ychydig o fyrddau ac roedden ni’n cynnig cyfle i bobl oedd yn pasio greu ffotogram cyflym gyda ni, i’w gynnwys yn rhan o’r arddangosfa hon. Roedd oedran ein hartistiaid yn amrywio o 2 i 90 rhywbeth ac roedd pobl yno o lawer o wahanol gefndiroedd.

Mae ffotogram yn llun a gynhyrchir gyda deunyddiau ffotograffig, fel papur sy’n sensitif i olau, ond heb gamera. Dewisodd ein hartistiaid wahanol wrthrychau a defnyddiau i’w gosod ar bapur sy’n sensitif i olau a adawyd wedyn yn yr haul am rywfaint o amser i adael i’r golau newid y papur. Yn dilyn hynny, cafodd y ffotogramau eu golchi a’u gosod gan greu ffotograffau haniaethol ac etheraidd. Y delweddau a gafwyd ar y diwedd yw’r rhai a welwch wedi eu harddangos.

Roedd yn brofiad gwobrwyol iawn i estyn allan i’n cymuned leol o amgylch Ffotogallery yn Fanny Street, Cathays, i gwrdd â’n cymdogion a gweithio gyda nhw i greu gweithgaredd creadigol a chyffrous! Edrychwn ymlaen at gynnal prosiectau cymunedol tebyg gyda’n cymdogion yn Cathays yn y dyfodol!

Continue reading

IRIS Prize LGBT+ Film Festival

Posted on September 17, 2021

Mae gwneuthurwyr ffilm o bob rhan o’r byd yn dod i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl Ffilm
LHDT+ Gwobr Iris. Yn ystod yr ŵyl cyhoeddir enillydd Gwobr Iris – gwobr fwyaf y byd am ffilm fer - sy’n werth £30,000. Mae’r wobr nodedig yma’n derbyn cefnogaeth gan Sefydliad Michael Bishop, ac mae’n rhoi cyfle i’r enillydd wneud ei ffilm fer LHDT+ nesaf yma yng Nghaerdydd.

Bydd Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yn digwydd wyneb yn wyneb mewn canolfannau
yng Nghaerdydd rhwng dydd Mawrth 5 Hydref a dydd Sul 10 Hydref. Os dymunwch, gallwch fynychu’r ŵyl yn rhithwir gan y byddwn yn cyflwyno’r digwyddiadau ar-lein hefyd o ddydd Mawrth 5 Hydref tan ddydd Sul 31 Hydref 2021.

Continue reading

Spectacle

Posted on September 17, 2021

Rhywdro yn yr 1980au cafodd tref Casnewydd ei disgrifio’n anffafriol fel ‘anialwch’ a ‘lle heb unrhyw gynlluniau’ (‘a no man’s land, a no plans land’). Bryd hynny roedd prosiectau fel canolfan siopa Friars Walk y tu hwnt i bob dychymyg. Ta waeth am hynny, fe wnes i fabwysiadu Casnewydd fel cartref yn 1976. Ar y pryd, roeddwn yn cychwyn fy ngyrfa fel athro, a llawn mor bwysig â hynny, yn dechrau fy ngyrfa fel ffotograffydd – yn eiddgar i fwrw’r strydoedd gyda fy SLR, yn barod i archwilio gwead trefol y gymdeithas a’r ddynoliaeth yno. Yn fuan iawn, fe ffeindiais fod gan dref Casnewydd rhyw apêl ffotograffig hynod nad oeddwn wedi dod ar ei draws yn fy nhref enedigol yn America, nac ychwaith yng Nghaerdydd, lle’r oeddwn newydd dreulio dwy flynedd. Mae pob dinas yn cynnig posibiliadau di-ben-draw i unrhyw un sy’n cael ei gymell i dynnu ffotograffau o bobl. Ond yr hyn y mae Casnewydd yn llwyddo i’w wneud mor dda yw dod â nifer fawr o bobl at ei gilydd mewn mannau cymharol fach – boed hynny yng nghanol y ddinas neu ar draws ei chymunedau amrywiol. O fy nghartref, gyda fy nghamera yn fy llaw, gallaf gerdded i ganol y ddinas mewn llai na deg munud; neu i Baneswell neu Maendy, Pilgwenlly neu Ridgeway. Chwarter awr ar y bws...ac rwyf yng nghwmni trigolion Bettws neu Ringland. Doedd dim rhaid i fi grwydro’n rhy bell i ffeindio testunau ar gyfer fy nghyfrol gyntaf, ‘Newportrait’ (Seren 2009). Os oedd y sioe ryfeddol o
ddynoliaeth ar strydoedd y ddinas, er yn amrywiol, ychydig yn fwy rhagweladwy ddegawd yn ôl, mae digwyddiadau nodedig y blynyddoedd diwethaf yn golygu eich bod yn dod ar draws pobl dra gwahanol ar ei strydoedd heddiw. Mae digwyddiadau fel Cwpan Ryder (2010), Cynhadledd NATO a’r protestiadau a ddaeth yn ei sgil (2014) a phrotest Black Lives Matter (2020) wedi hybu’r newid yma. Heddiw, mae pobl o bob math - nid trigolion Casnewydd yn unig, ond pobl o bob rhan o’r byd – wedi cymryd rhan mewn cynulliadau dynol na welwyd eu tebyg o’r blaen yn y ‘Port’. Mae’r defnydd cyferbyniol o ddu a gwyn analog yn erbyn delweddau lliw digidol yn dramateiddio’r dilyniant drwy amser o hen senarios i rai mwy diweddar. Mae dilyn y sioe ryfeddol yma o ddynoliaeth yng Nghasnewydd wedi cydio yn fy nychymyg dros y deugain mlynedd ddiwethaf. A nawr, wrth i ni wynebu heriau ein pandemig a’r modd y mae wedi staenio’r dyfodol a’r effaith y mae’n mynd i’w gael ar bob un ohonom, bydd fy archif yn parhau i dyfu ac ehangu.

Continue reading

Imagining The Nation State – Agoriad

Posted on September 17, 2021

Dewch draw i BAYART i gymryd rhan yn agoriad arddangosfa Imaging the Nation State - menter ar y cyd rhwng Ffotogallery a Biennale Chennai Photo.

Mae arddangosfa Imagining The Nation State yn ffrwyth grantiau Galwad Agored a gafodd eu dyfarnnu i ffotograffwyr ac artistiaid lens o India a Chymru. Mewn cyfnod pan fo cysylltiadau rhwng unigolion yn fwy lluosog a byd-eang nag erioed o’r blaen yn ein hanes, mae’r syniad o ‘genedligrwydd’ yn dal yn rym nerthol sy’n uno pobl. Yn aml iawn, er bod yna un ‘genedl wladwriaeth’ ddiffiniedig, mae yna gymaint mwy o ffurfiau o’r genedl wladwriaeth honno’n bodoli yn nychymyg pobl – gan ddibynnu ar eu gogwydd a’u safbwynt.

A yw’n bosib erbyn hyn fod y syniad o hunaniaeth genedlaethol a ddiffinir gan iaith, hanes a diwylliant cyffredin yn tynnu’n groes i natur gymleth, lluosogaethol a chyfnewidiol cenhedloedd?

A yw’r term ‘cenedl wladwriaeth’ yn gysyniad rhy hen ffasiwn a chynhennus bellach ar gyfer trefnu pobl a thir, neu a yw’n dal i fod yn berthnasol yn ein byd cyfoes?

A allwn ni greu fersiwn newydd a chynhwysol o genedligrwydd sy’n gydnaws â’n cyfrifoldebau byd-eang?

Sut y gallwn sicrhau fod mentrau arloesol, ffurfiau diwylliannol, cyfoeth ac adnoddau cenedl yn cael eu harneisio er lles pawb, ac nid dim ond er budd y rheini sy’n byw o fewn ei ffiniau?

Rhoddwyd gwahoddiad i’r ffotograffwyr / artistiaid lens yma ymateb i’r cwestiynau hyn drwy greu dychmygion perthnasol, parhaus a chyfredol o’r syniad o genedl wladwriaeth. Roedd ymdrechu i gysyniadau’r ymdeimlad o unfathrwydd a gwahaniaeth (o ran yr hyn a dderbynnir fel templed ar gyfer y genedl wladwriaeth) yn ystyriaeth benodol wrth roi’r broses greadigol yma ar waith. Dewisodd yr artistiaid a gymerodd ran yn y broses amryw o wahanol foddau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) naratif, materoldeb, symboliaeth, ffenomenoleg, ffantasi, digwyddiadau a hapddigwyddiadau. Wrth galon y gwaith mae parodrwydd i arbrofi’n gysyniadol ac ymdeimlad o drafod yn feirniadol.

Trefnir y grant a’r arddangosfa gan Sefydliad Biennale Chennai Photo, mewn cydweithrediad â Ffotogallery, gyda chefnogaeth ariannol gan y British Council a Chyngor Celfyddydau Cymru. Beirniaid y gystadleuaeth oedd yr artistiaid a haneswyr nodedig o India a Ffrainc, Damarice Amao, Monica Narula, a Sheba Chhachhi.

Continue reading

Agoriad Atomic Ed / Dathliad Realiti Rhithwir

Posted on September 17, 2021

Dewch i ymdrochi yn y digwyddiad arbennig yma i lansio Atomic Ed gan Janire Najira yng nghanolfan CultVR!

Mae Atomic Ed yn olrhain siwrne Ed Grothus - o weithio yn Labordy Cenedlaethol Los Alamos yn Mexico Newydd i fod yn ymgyrchydd di-flewyn-ar-dafod yn erbyn ynni niwclear. Trwy gyfrwng dogfennau archif, hen ffotograffau a rhai mwy diweddar, a detholiad o blith hanner canrif o lythyron rhwng Ed Grothus â gwleidyddion, gwyddonwyr, y cyfryngau ac aelodau o’i deulu, cawn ein cario yn ôl ac ymlaen drwy hanes ynni niwclear yn yr Unol Daleithiau, a’r rhan y chwaraeodd Ed yn yr hanes hwnnw.

Ganed Janire Najera yn 1981, yn Bilbao yng Ngwlad y Basg. Cafodd ei magu yn Nàjera yn la Rioja ac astudiodd ar gyfer gradd BA mewn Gwyddorau Cyfathrebu ym Madrid. Yn ddiweddarach, fe astudiodd Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru. Mae’n arbenigo mewn defnyddio cyfryngau trochol i adrodd straeon. Yn 2019, sefydlodd Labordy CULTVR - labordy ymchwil trochol cyntaf Ewrop – i hybu datblygiad a chyflwyno celfyddydau digidol, perfformiadau byw a sinema cryndo (fulldome). Ymysg ei chyhoeddiadau mae Atomic Ed (2019) a Moving Forward Looking Back: Journeys Across the Old Spanish Trail (2015). Cafodd Atomic Ed ei gyflwyno fel rhan o Ŵyl Diffusion 2019, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Continue reading

More Than a Number - Cynhadledd

Posted on September 17, 2021

Gallwch wylio’r gynhadledd yn fyw ar Facebook hefyd, neu gallwch wylio recordiad o’r sesiwn a fydd ar gael ar alw wedi’r gynhadledd.

Mae arddangosfa More Than a Number yn archwilio’r ffyrdd yr ydym yn meddwl am wledydd Affrica, sydd wedi’u dal rhwng moderniaeth a thraddodiad; a sut y mae gwahanol ddiwylliannau yn creu ystyr drwy ddelweddau. Trwy gyfres o weithdai gydag artistiaid, cynadleddau, a chynnwys ar-lein, mae More Than a Number yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno â’r sgwrs am y casgliad yma o waith eithriadol sy’n procio’r meddwl gan 12 o ffotograffwyr o wledydd Affrica: Amina Kadous, Brian Otieno, Fatoumata Diabaté, Jacques Nkinzingabo, Maheder Haileselassie Tadese, Nana Kofi Acquah, Sarah Waiswa, Salih Basheer, Steven Chikosi, Tom Saater, Wafaa Samir and Yoriyas Yassine Alaoui. Mae’n ein hannog i edrych ar wyneb yr unigolyn o’n blaenau yn fanwl a chlir, a dechrau sgwrs. Yng ngeiriau Elbert Hubbard, “Pe bai dynion yn gallu dod i adnabod ei gilydd, ni fyddent yn eilunaddoli nac yn casáu”.

Mae More Than a Number yn canolbwyntio ar dair thema: Cynrychioli Eofndra, Parthau Cysylltu, a Chymdeithasoldeb Radicalaidd. Mae’r gynhadledd wyneb yn wyneb yn gwahodd curaduron ac artistiaid o wledydd Affrica, Cymru a’r Deyrnas Unedig i gyd i archwilio’r drafodaeth feirniadol sydd ei hangen i leoli a gwerthuso’r gwaith a gynhyrchir gan ffotograffwyr o wledydd Affrica, yn ogystal â thrafod materion yn ymwneud a chynrychioli a dangos eu gwaith. Mae’n gwahodd y gynulleidfa a fydd yn bresennol yn adeilad Ffotogallery i gymryd rhan yn y sgwrs am Ffotograffiaeth ac Affrica.


Continue reading

Digwyddiad i lansio Gŵyl Diffusion

Posted on September 17, 2021

Ymunwch â ni yng nghartref Ffotogallery yn Stryd Fanny i ddathlu agor Trobwynt: Diffusion 2021.

Byddwn yn dechrau’r Ŵyl drwy lansio dwy arddangosfa wahanol:

- More Than a Number — arddangosfa ffisegol o weithiau gan 12 o artistiaid Affricanaidd sy’n archwilio’r ffordd yr ydym yn meddwl am wledydd Affrica sydd wedi’u dal rhwng moderniaeth a thraddodiad; a sut y mae gwahanol ddiwylliannau yn creu ystyr drwy ddelweddau.

- Where’s My Space — prosiect rhithwir a grewyd ar y cyd rhwng Ffotogallery a sefydliad PAWA254 yng Nghenia i greu byd rhyngweithiol rhithwir lle mae artistiaid o Genia a Chymru wedi cydweithio i hawlio’r mannau creadigol ffisegol a gymerwyd oddi wrthynt yn ôl.

Cafodd prosiect Where’s My Space ei ariannu gan y British Council a’i greu drwy bartneriaeth gyda PAWA254.

Continue reading

Last Orders

Posted on September 17, 2021

Cafodd y diwydiant lletygarwch ei daro’n arbennig o galed a bu’n rhaid i dafarndai arllwys miloedd o beintiau o gwrw i lawr y draen cyn cau am fisoedd lawer. Cafodd staff eu diswyddo neu eu rhoi ar ‘ffyrlo’ gyda llai o gyflog, a bu’n rhaid i lawer o fusnesau gau eu drysau’n barhaol. Pan ganiatawyd i dafarndai a thai bwyta agor eto, rhoddwyd cyfyngiadau ar eu horiau agor, ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol llym a oedd yn golygu lleihau eu cronfa cwsmeriaid o 75%. Cafodd y newidiadau ym mhatrymau cymdeithasol pobl a’r newid cyson yn y rheolau a orfodwyd gan y llywodraeth effaith arwyddocaol ar hyfywedd llawer o fusnesau bach. Yn gynyddol, roedd y dyfodol yn edrych yn ansicr i lawer ohonynt, ac roedd pryder gwirioneddol y byddai tafarndai bach lleol, fel The Red Lion, yn gorfod cau am byth.

Mae Last Orders yn croniclo sut yr ymatebodd un dafarn draddodiadol yng Nghasnewydd i gyfyngiadau’r cyfnod clo, y cyfyngiadau ar oriau agor a’r cyfyngiadau ar nifer y cwsmeriaid. Mae tafarn The Red Lion yn Stow Hill yn croesawu cymysgedd gosmopolitan o gwsmeriaid – dynion canol oed sy'n weithwyr, selogion cwrw go iawn a gemau tafarn traddodiadol, dilynwyr pêl-droed a rygbi iau, pensiynwyr sydd wedi ymddeol a theuluoedd lleol. Er gwaethaf Covid, mae ysbryd traddodiadol y dafarn fel canolfan i’r gymuned ddod at ei gilydd yn parhau - ond gyda chwistrellau gwrthfacterol a hylif diheintio dwylo ar hyd a lled y lle, gofyniad i gofrestru pob ymwelwr (hyd yn ddiweddar iawn) a dim hawl i sefyll wrth y bar. Am fisoedd lawer 'gwasanaeth bwrdd yn unig' oedd ar gael, ac roedd yn rhaid cadw pellter cymdeithasol rhwng y byrddau hefyd. Ac roedd dryswch o hyd ymysg cwsmeriaid am y rheolau a oedd yn newid mor gyson.

Hyd yma, ni chofnodwyd unrhyw achosion o heintiadau Covid oedd â chysylltiad â’r Red Lion.

Continue reading

Devotees of Rock

Posted on September 17, 2021

Cychwynnodd fy nhaith at roc a rôl pan welais Bob Dylan yn fyw pan oeddwn i’n bymtheg oed. Yn y degawdau sydd wedi dilyn hynny rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld cannoedd o sioeau byw, yn bennaf roc a rôl ond hefyd reggae, pync, hardcore, soul, rhythm a blues, blues, canu gwlad ac ysgeintiad o jazz.

Un o’r agweddau mwyaf hwyliog o’r profiad o sioeau byw i mi yw’r cyfle i gwrdd â chefnogwyr eraill o bob cefndir. Rydw i wedi cwrdd â nhw wrth aros tu allan i safleoedd cyngherddau, yn y sioe ei hun ac, yn ôl yn y gorffennol pell, wrth aros mewn llinell ar y stryd i brynu tocynnau.

Mae perthynas dda rhwng y cefnogwyr, gallech chi hyd yn oed ei alw’n solidariaeth, oherwydd eu cyd-gariad at yr artist ac effaith yr artist hwnnw ar eu bywydau. Mae cefnogwyr yn fwy na bodlon rhannu eu profiadau. Maen nhw’n hoffi siarad am sioeau cofiadwy yr aethon nhw iddynt, y ffaith eu bod nhw wedi cwrdd â’u cariadon mewn sioe, sut maen nhw’n awr yn mynd i sioeau gyda’u plant neu hyd yn oed y ffaith eu bod nhw wedi enwi eu plant ar ôl artist neu gân gan artist. Mae nifer o Roslitas i’w cael sy’n ferched i gefnogwyr Bruce Springsteen.

Tua deng mlynedd yn ôl, dechreuais dynnu lluniau’r cefnogwyr roeddwn i’n eu cwrdd naill ai’n unigol neu mewn grwpiau bach. Rydw i wedi cwrdd â phobl ddiddorol o bob cwr o’r byd yn y broses ac wedi clywed straeon gwych.

Continue reading

Tourist in Between

Posted on September 16, 2021

Mae Tourist In Between yn ymchwiliad parhaus sy’n defnyddio elfennau cyffredin yr atyniadau i dwristiaid yng Nghasnewydd fel pwynt mynediad i mewn i ddeialog ddyfnach am yr hyn mae Casnewydd yn ei olygu i bobl yn fewnol ac yn allanol.

Gan gydbwyso theatr gyda chelfyddyd fyw, mae’r gwaith yn defnyddio hanesion ffug i ddangos cymeriadau abswrdaidd mewn mannau real, pob dydd. Trwy sicrhau bod y perfformiwr a’r gynulleidfa’n cwrdd yn y lle trothwyol hwn rhwng realiti a ffuglen, gallwn ni geisio creu twll dros dro yn ffabrig yr hyn rydyn ni’n credu y ‘gallai fod yn real’ a’r hyn rydyn ni’n gobeithio ‘y gallai fod yn bosibl’.

Iteriad cyntaf y gwaith oedd ffilm fer (a gomisiynwyd gan Gaerdydd Creadigol) oedd yn defnyddio mannau poblogaidd eiconig i dwristiaid yng Nghasnewydd fel cefndir ar gyfer perfformiadau stryd lled-ryngweithiol a rhyngweithiau wedi eu seilio ar gymeriadau. Roedd yn wahoddiad chwareus i thesis ehangach y gwaith, ac yn ddechreuad i arolwg swrealaidd o ddiwylliant, dyfodol a dinasyddion Casnewydd.

Yn ystod y cam cychwynnol hwn o’r gwaith, cefais fy hun yn dadlau gyda menyw am wir werth y safle roeddwn i wedi ei greu i mi fy hun, a dyna pryd y cefais hyd i’r peth yr oedd gen i’r diddordeb mwyaf ynddo. Dyna pryd y daeth y gwaith yn archwiliad ag iddo ffocws dynol yng nghymuned Casnewydd, fel pobl sy’n byw mewn dinas y maen nhw naill ai’n ei chasáu neu’n ei charu.

Trwy berfformiad stryd a chlownio ysgafn rwy’n ceisio creu perthnasau digymell gyda dieithriaid ar y stryd. Unwaith y mae hyn wedi digwydd gallwn ni ddechrau archwilio cwestiynau mwy, mwy uniongyrchol a mwy ffrwythlon.

Byddwch yn gweld y gwaith wedi ei gynrychioli fel ffotograffiaeth a ffilm o fewn lle cyhoeddus/oriel, a hefyd byddwch yn gallu rhyngweithio ag o bob Dydd Sadwrn ym mis Hydref mewn amrywiol leoliadau o amgylch Casnewydd.

Continue reading

Christopher Street

Posted on September 16, 2021

Cafodd y gyfres hon ei ffilmio yn Efrog Newydd yn 1976 pan dreuliais flwyddyn yn astudio ffotograffiaeth gyda Lisette Model, Philippe Halsman a George Tice yn The New School. Roedd hwn yn drobwynt i mi am fy mod wedi cyrraedd y ddinas yn wreiddiol i gofrestru ar raglen MBA.

Treuliais fy mhenwythnosau’n teithio gyda fy nghamera, dyma oedd y dyddiau cyffrous ar ôl Stonewall a chyn AIDS pan oeddem ni’n ifanc a phrysur yn creu lle cyhoeddus hoyw oedd yn wahanol i unrhyw beth a welwyd o’r blaen.

Dyma oedd y tro cyntaf i mi fyw mewn dinas oedd yn teimlo’n llawn o ffotograffiaeth, Roedd orielau masnachol di-ri yno ac roedd gan yr amgueddfeydd arddangosiadau parhaol o hanes ffotograffiaeth.

Roedd y sioe New Documents yn MoMA wedi cael dylanwad mawr ar bawb o’m cwmpas i. Siaradodd Lisette am “Diane” yn y dosbarth a bywyd byw y strydoedd oedd ein theatr. Roedd yn rhaid tynnu llun o bopeth.

Roedd hi’n ymddangos bod pob cornel stryd yn Efrog Newydd yn wahanol ac unigryw. Daeth Christopher Street yn gynefin naturiol i mi. Roeddwn i’n un o’r llwyth ac roeddwn eisiau i bobl sylwi arnaf. Doeddwn i ddim yn ysbïo ar y trigolion. Gwnes fy hun mor weladwy ag y gallwn a cherdded i fyny at bobl.

​Wrth edrych yn ôl, mae’r darluniau hyn wedi dod yn eiconig a hiraethus am ennyd pwysig iawn yn fy hanes personol a’r ymdrech am ryddid hoyw a gafodd ganlyniadau pellgyrhaeddol ar draws y glôb.

Continue reading

Welsh from Everywhere

Posted on September 16, 2021

Cafodd fy mhrosiect Welsh from Everywhere ei ysbrydoli gan linell mewn cerdd o’r enw Maindee gan Susan Lewis, a oedd yn rhan o arddangosfa ‘Straeon Maendy / Maindee Stories’ gan yr artist Marion Cheung a oedd yn gweithio gyda grŵp amlddiwylliannol o fenywod sy’n cyfarfod yn Community House.

Dyma’r llinell: "It will be, What we make it. Us, together. Welsh from everywhere". Mae cerdd Susan yn amlygu amrywiaeth ddiwylliannol anhygoel ardal Maendy yng Nghasnewydd, lle mae’r ysgol gynradd leol yn dathlu’r ffaith y siaredir 30 o wahanol ieithoedd fel iaith gyntaf ar aelwydydd cartrefi plant yr ysgol. Beth bynnag fo’u treftadaeth ddiwylliannol, fel trigolion y gornel fach yma o Gymru, maent yn cael eu croesawu fel "Cymry o Bobman" – "Welsh from Everywhere".

Cefais gyfle i sefydlu stiwdio mewn sawl digwyddiad yn Community House – adeilad sy’n guriad calon i gymuned amlddiwylliannol Maendy – gan gynnig tynnu portreadau o unrhyw un a oedd yn dymuno. Mewn llond dwrn o sesiynau rwyf wedi cwrdd â phobl o dros 30 o wledydd ac wedi cael cyfle i glywed eu straeon a thynnu eu lluniau. Maen nhw’n bobl o bob rhan o’r byd - o Jamaica i Rwmania, o Mawritiws i Bangladesh. Mae’r ffotograffau yma’n dangos Cymru newydd, Cymru lle mae amlddiwylliannaeth yn cyfoethogi hen wlad fy nhadau.

Continue reading

Portreadu Gwib

Posted on September 13, 2021

Cyfle i gael tynnu eich portread gan ffotograffydd proffesiynol - Fez Miah – a chael eich cynnwys mewn arddangosfa yng Ngŵyl Ffotograffiaeth Diffusion 2021.

Continue reading

Women of Newport Project

Posted on September 12, 2021

Helo, Alison ydw i, cyfaill i’r Iesu, athrawes ESOL lleol i’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches hyfryd sy’n byw yng Nghasnewydd, a Gofalwr Maeth i blant mewn angen. Cefais fy magu yn y system ofalu am fy mod o gartref oedd wedi chwalu. Mae fy mywyd wedi bod yn llawn o enydau anhygoel. Trwy ffydd, rwyf wedi goresgyn naw mlynedd o gaethiwed i heroin a chrac cocên. A nawr, rwy’n mwynhau fy mywyd ac yn frwdfrydig iawn ynglŷn â helpu pobl eraill.

Alison
Alison

Pam ydw i. Dechreuais hyfforddi mewn crefftau ymladd pan oeddwn i’n 36 oed – rhoddais gynnig ar nifer o wahanol rai, ond fy hoff un oedd Tae Kwon-Do ac yn y grefft hon y cefais fy ngwregys du pan oeddwn i’n 40 oed. Yn ystod y cyfnod pan oeddwn i’n cystadlu, deuthum yn bencampwr Cymru, Lloegr, Yr Alban, Prydain ac, yn y diwedd, y Byd pan oeddwn i’n 44 oed. Pan oeddwn ynghanol fy 60au, ymunais ag asiantaeth gastio ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio fel artist cynorthwyol ar ffilmiau mawr a chyfresi teledu poblogaidd; byddaf yn 72 oed ym mis Tachwedd.

Pam Glover
Pam

Helo, fy enw yw Aysia. Rwy’n addysgu plant sydd ag anghenion cymhleth ac rwy’n mwynhau pob munud o’r diwrnod gyda nhw. Rwyf hefyd yn rhoi fy amser i helpu’r henoed a’r bregus yn ein cymuned drwy wirfoddoli yng nghronfa fwyd Feed Newport. Rydym yn helpu unrhyw un sydd angen ein cymorth gyda pharseli bwyd, dillad ac, yn ddiweddar, rydym wedi lansio ein cronfa fabanod hefyd.

Aysia
Aysia

Ni yw menywod Dinas Casnewydd ac mae ein hoedran yn amrywio o 16 i 45. Yn ein bywydau pob dydd mae ein swyddi’n amrywio o weithio i’r GIG i weithio mewn archfarchnad.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n croesawu pob gallu a’n bod yn grŵp o ferched hynod o gyfeillgar a chroesawgar. Ar y dechrau roedd 11 ohonom, ond erbyn hyn rydym yn 48 o fenywod rhagorol sy’n caru bod yn rhan o’r tîm. Rydym yn ennill ynghyd ac yn colli ynghyd, rydym yn chwerthin ynghyd ac yn llefain ynghyd. Ni yw Dinas Casnewydd!

Newport City Women
Newport City Women

Helo, fy enw yw Rhiannon. Dechreuais godi pwysau er mwyn helpu i ddod dros anhwylder bwyta a dydw i erioed wedi cymryd cam yn ôl.

Mae cymaint o fanteision i godi pwysau ac mae wedi rhoi’r cryfder a’r hyder i mi i wneud y gorau posib y gallaf ohonof fy hun.

Os nad ydw i yn y gampfa, dw i’n hoffi . . . . arhoswch funud, dw i yn y gampfa drwy’r amser!

Rhiannon
Rhiannon

Fy enw yw Jo, dw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant cadw’n heini am fwy na 10 mlynedd a thros y blynyddoedd rwyf wedi gweithio gyda chleientiaid hynod ac ysbrydoledig.

Fy mhrif fwynhad fel Hyfforddwr personol yw tywys pobl tuag at ddull iachach o fyw. Mae pob corff yn unigryw; a chan bob un ei gryfderau a’i gyfyngiadau ei hun.

Am fy mod yn fam i 2 fachgen bach, rwy’n cymryd fy ysbrydoliaeth gan yr holl ferched rhagorol o’m cwmpas. Mae gan bob menyw stori brydferth i’w dweud ynghyd â chyngor, arweiniad a harddwch a dyma sy’n sbarduno fy mrwdfrydedd bob dydd.

Jo
Jo

Helo fy enw yw Corie-Mya, rwyf wedi bod yn gweithio gyda G-Expressions ers 18 mis erbyn hyn. Dydy fy swydd ddim yn hawdd – yn 16 oed deuthum yn Swyddog cyfieithiadau Cymraeg i’r cwmni, a fi yw’r unig siaradwr Cymraeg; fy nghyfrifoldeb i yw rheoli’r holl ddogfennau a chyfieithiadau Cymraeg, ond mae fy nhîm yn gweithio mor galed i’m cefnogi fi ymhob ffordd y gallant a, gyda’n gilydd, rydym wedi adeiladu perthynas waith lwyddiannus. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld lle bydd y daith hon yn fy nghymryd.

Corie-Mya
Corie-Mya

Fy enw yw Danielle, symudais i Gasnewydd bron i ddwy flynedd yn ôl i weithio ar fy astudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru. Dim ond ychydig fisoedd sydd ar ôl yn awr nes byddaf yn gorffen fy MA.

Am fy mod yn rhywun sydd wedi byw gyda gwahaniaeth corfforol, rwy’n ymfalchïo ac yn cymryd ysbrydoliaeth o’r ffaith fy mod yn gwneud gwahaniaeth i mi fy hun ac i’r rheiny rwy’n gweithio â nhw. Yn gynharach eleni, cyhoeddais lyfr yn arddangos ac yn hyrwyddo dealltwriaeth gadarnhaol plant o amrywiaeth a chynhwysiad a, thrwy fy mlog, dewisais ddefnyddio fy nhaith fy hun fel adnodd lle gallai eraill ganfod eu teithiau nhw eu hunain.

Danielle
Danielle

Rydym yn gydweithfa o 12 o fenywod sy’n ymarferwyr iechyd yn gweithio fel cymuned ysbrydolgar o unigolion sy’n caru yoga ac sydd eisiau dod â newid cadarnhaol i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill.

Ers i ni agor ein drysau ym mis Medi 2017, mae Hot Yoga Health wedi tyfu o fod yn stiwdio yoga poeth i fod yn ganolfan un alwad ar gyfer iechyd gyda chydweithfa o fenywod oll yn rhannu un nod; grymuso’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu i wneud y gorau glas ohonyn nhw eu hunain drwy fod mor heini yn gorfforol ac mor gryf yn feddylliol ag y gallent fod, a hynny drwy gyfrwng ein gweithgareddau.

ymarferwyr iechyd
Ymarferwyr Iechyd

Ni yw Stephanie a Nicky – chwiorydd a sefydlwyr HMO Heaven a Rent 2 Rent Success yng Nghasnewydd. Doedden ni erioed wedi ystyried cydweithio fel chwiorydd, ond dyma ni yn awr ac mae ein sgiliau’n cyfateb mor berffaith ar gyfer ein busnes gyda’n gilydd, mae’n teimlo’n hollol naturiol bod hyn wedi digwydd.

Rydym yn bobl fusnes ac yn siaradwyr, rydym yn rhannu ein gwybodaeth gydag eraill, cynhaliwn weithdai, rydym yn tywys, yn addysgu a hefyd, yn 2020, aethom ati i gyhoeddi llyfr hynod boblogaidd am fuddsoddi mewn eiddo! Rydym yn teithio i bobman ym Mhrydain ac yn helpu pobl eraill i lwyddo mewn busnesau eiddo.

Stephanie and Nicky
Stephanie and Nicky

Continue reading

I’m afraid of violence, but I’ve often submitted to it

Posted on September 12, 2021

A yw trais yn rhan annatod o’r cyflwr dynol? A yw trais yn anochel mewn cymdeithas egalitaraidd? A yw ein hamgylchedd o gyfryngau torfol yn creu siambr atsain o weithredoedd a dial treisgar? Mae I’m afraid of violence, but I’ve often submitted to it yn osodwaith llyfr sy’n canolbwyntio ar berthynas fechnïol cymdeithas gyda thrais. Mae’n annog y sawl sy’n edrych arno i gwestiynnu ei rôl fel gwyliwr neu lygad- dyst, wrth ddod wyneb yn wyneb â thrais, ac yn gofyn a yw’r penderfyniad hwnnw, yn ymwybodol ai peidio, yn cyfrannu at barhad y trais mewn cymdeithas gyfoes. Gan ddefnyddio golygfeydd go iawn a welodd yn ninas Caerdydd, mae’r llyfr hwn, sy’n 106 o dudalennau yn cwestiynnu’r rolau traws-beillio sydd gan y ffotograffydd, y sawl sydd dan sylw, a’r gwyliwr, wrth iddyn nhw drosglwyddo rhwng bod yn wyliwr neu’n dyst.

Continue reading

Tourist in between - Tour

Posted on September 12, 2021

Trwy berfformiad stryd a chlownio ysgafn rwy’n ceisio creu perthnasau digymell gyda dieithriaid ar y stryd. Unwaith y mae hyn wedi digwydd gallwn ni ddechrau archwilio cwestiynau mwy, mwy uniongyrchol a mwy ffrwythlon.

Byddwch yn gweld y gwaith wedi ei gynrychioli fel ffotograffiaeth a ffilm o fewn lle cyhoeddus/oriel, a hefyd byddwch yn gallu rhyngweithio ag o bob Dydd Sadwrn ym mis Hydref mewn amrywiol leoliadau o amgylch Casnewydd.

Continue reading

Man as an Object / Man as an Animal

Posted on September 12, 2021

Mae’r syniad ar gyfer y gyfres hon wedi ei gysylltu â’r straeon a’r hanesion a glywais yn fy mhlentyndod ac sy’n dal i’m dilyn i bob man heddiw. Mae’r rhain yn straeon sydd wedi eu neilltuo ar gyfer y “plentyn du”, fel y dywedodd Senghor. Ar gyfer y ffotograffau hyn, rwy’n cael fy ysbrydoli gan y straeon sydd yn fy mhen ac yna rwy’n creu gwrthrychau i wasanaethu’r straeon hynny. Weithiau bydd syniadau’n dod i mi yn y nos, pan fyddaf yn gorwedd yn fy ystafell. Cyn mynd i gysgu, byddaf weithiau’n breuddwydio gyda fy llygaid yn agored. Rwy’n edrych, rwy’n ymbalfalu ychydig bob tro. Maen nhw’n bortreadau gweddol syml, sy’n symboleiddio un agwedd o stori. Mae fy nefnydd o wrthrychau fel ategolion neu wisgoedd i ddynion yn gysylltiedig hefyd â’r mygydau Affricanaidd, wedi eu creu mor wych, sydd wedi eu cadw heddiw mewn amgueddfeydd. Rwy’n gadael cyd-destun y mwgwd Affricanaidd traddodiadol, sydd wedi ei gysylltu â defodau a chredoau penodol, ac yn symud ymlaen tuag at rywbeth sydd fwy ar lun gwastraff. Yn aml iawn, rwyf hyd yn oed yn gofyn i’r model greu’r gwrthrych mwgwd hwn ei hun. Mae’n rhaid iddo fod yn wrthrych artisan, mae hynny’n bwysig iawn. Rwyf i, fel ffotograffydd, yn gosod y ddyfais hon yn ei lle, er mwyn rhoi’r straeon yr wyf wedi eu clywed y tu ôl i fygydau, y mae’r bobl ifanc rwy’n tynnu eu lluniau wedi eu creu drwy ailwampio pethau a ganfuwyd. Mae’r rhain yn straeon nad wyf erioed wedi eu byw, mae’r rhain yn straeon a adroddwyd i mi, straeon fel breuddwydion. Pan fyddwn ni’n breuddwydio, rydym yn credu ein bod yn byw rhywbeth yn llawn, ac yna, pan fyddwn yn deffro, rydym yn sylweddoli nad oedd yn realiti, a dydyn ni ddim bellach yn gwybod beth oedd yn ddwfn a beth oedd ar yr wyneb. Felly, mae hyn ychydig bach fel y ‘Dyn fel Gwrthrych’ : mae’r rhain yn straeon fel breuddwydion, ond maen nhw’n gweithio fel gwersi moesegol, straeon sy’n ein dysgu ni sut i ymddwyn mewn bywyd. Sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n gorwedd o’n blaenau, beth allai ddigwydd. Ac hefyd beth yw’r cysylltiad rhwng dyn a gwrthrych. Trwy gyfrwng straeon y gallwn ni ddysgu i deimlo anwyldeb at wrthrychau, anifeiliaid, coed, natur, a mwy.

Continue reading

Casablanca Not the Movie

Posted on September 12, 2021

Mae ‘Casablanca Not the Movie’ yn brosiect tymor hir a gychwynnais yn 2014. Mae’n llythyr cariad i’r ddinas a alwaf yn gartref i mi, ac yn ymdrech i gywiro’r ddelwedd ohoni sydd gan y bobl hynny sydd heb weld dinas enwog Moroco heblaw mewn lluniau llyfrau gwyliau, mewn ffilmiau neu mewn straeon ffantasi gwledydd y Dwyrain. Mae teitl y prosiect yn cyfeirio at Casablanca, y ffilm glasurol o 1942 na chafodd ei ffilmio yn y ddinas honno fel mae’n digwydd, ond yn hytrach mewn stiwdio yn Hollywood.

Daeth ‘Casablanca Not the Movie’ yn gyfres oedd yn ymwneud ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol bywyd y ddinas, gweddnewidiad y ddinas a’r newidiadau o’i mewn, ac oll wedi eu siapio gan donau niferus sydd fel petaen nhw’n gwrthdaro â’i gilydd. Yma, drwy un ffotograff, mae’n bosib y gallwn weld, mwynhau, meddwl, gofyn cwestiynau a gofalu fwy am olygfa na fydden ni wedi sylwi arni mae’n debyg os na fyddai wedi ei dal mewn llun.

Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn dogfennu’r ddinas a’i phobl, ond hefyd fy mherthynas, fy mhrofiadau a’m hatgofion personol i o’r ddinas hon. Felly, mae’r gyfres hon yn gipolwg gan rywun o’r tu mewn ar realiti bywiog dinas fwyaf Moroco o safbwynt gŵr o Foroco, a aned ac a fagwyd yno ac sy’n dal i fyw yno.

Continue reading

Area Boys

Posted on September 12, 2021

Yn Lagos, sef dinas enfawr Gorllewin Affrica a phrifddinas fasnachol Nigeria, mae ‘bechgyn bro’ yn ymadrodd sy’n gyfystyr ag arswyd dinesig. Mae’r rhain yn fechgyn o fro benodol sydd wedi eu trefnu’n rhwydwaith goroesi. Does ganddyn nhw ddim ffyddlondeb i unrhyw ideoleg neu gred, dim ond i’w lleoliad a’r dynion ifanc y maen nhw’n cyd-fyw â nhw. Mae llawer ohonyn nhw’n amddifad neu wedi eu gwrthod gan eu teuluoedd ar ôl iddyn nhw ymuno â’r bechgyn bro neu gyflawni trosedd a ddaeth â gwarth i’w teuluoedd. Mae eraill yn gwneud dim byd mwy na cheisio byw o ddydd i ddydd. Gan fwyaf, maen nhw’n cysgu yn y strydoedd neu mewn llochesi dros dro. Mae eu rheolwyr a’r dynion mawr yn byw mewn tenementau a elwir yn ‘ti’n wynebu fi, fi’n wynebu ti’ am fod gan eu rhesi o ystafelloedd hirsgwar bychan ddrysau’n wynebu ei gilydd.

Mae’r bechgyn i’w cael ymhob man yn y ddinas – yn ysmygu’r mwg drwg o dan y trosffyrdd, yn gorweddian ar ymylon y marchnadoedd, yn ceisio twyllo pobl am ychydig o arian ym marchnadoedd enfawr Lagos Island. O bell maen nhw’n edrych yn fygythiol, o’u gweld yn agos maen nhw’n gallu bod yn arswydus.

Cyn i mi gychwyn y prosiect hwn, ymosododd rhai o’r bechgyn bro arnaf wrth i mi dynnu lluniau o bont briffordd yn Lagos un noson. Roeddwn i eisiau deall fy ymosodwyr, a’r anobaith sy’n tanio eu trais, felly cychwynais ar brosiect parhaus i edrych yn agosach ar yr unigolion sy’n byw ac yn parhau myth y ‘bechgyn bro’. Rwy’n gobeithio bod fy mhortreadau manwl yn dangos y dynion hyn fel pobl go iawn, yn hytrach na’r ddelwedd lawer rhy syml ohonyn nhw fel bygythiad dinesig sydd i’w chael yn aml iawn. Trwy dreulio amser gyda’r bechgyn bro a thynnu eu lluniau yn y ffordd y maen nhw’n eu gweld eu hunain, rwy’n archwilio’r gwirionedd a’r mythau am gangsters Lagos.

Continue reading

Blue

Posted on September 12, 2021

Ystyriwch beth ofnwch chi fwyaf Ymdrochwch ynddo Gadewch iddo ymdreiddio i’ch enaid nes y bydd yn rhan ohonoch Po fwyaf y croesawch eich ofnau, y mwy y byddan nhw’n troi’n serenedd glas.

Mae Blue yn gyfres o hunanbortreadau sy’n ystyried y profiad o ofn fel petai’n lle ffisegol. Trwy gamu i mewn i’r lle hwn, ei archwilio ac ymgysylltu ag o, rwy’n dechrau ei ddeall. Mewn amser ac wrth ymgyfarwyddo, daw’n lle diogel wrth i mi integreiddio ag o. Fel metamorffosis, mae’n broses sy’n dod â chi allan yr ochr arall.

Mae’r lluniau’n ffordd o olrhain y broses hon o gyfuno gyda’m hofnau personol a gadael i mi fy hun gael eu trochi ynddynt. Mae’r gyfres yn ceisio ateb y cwestiwn a yw ofn a heddwch yn gyferbyniol, neu ydy hi’n bosibl eu bod nhw’n eu cyflenwi ei gilydd? Mae’n defnyddio’r lliw glas i gynrychioli ofn, ond mae hefyd yn symbol o’r serenedd y gallem ei ganfod pan awn i gwrdd ag ofnau yn lle eu hosgoi nhw. Cafodd y gyfres ei harddangos yng ngŵyl Nord Art yn yr Almaen (2015). Cafodd un o’r lluniau ei ddewis fel poster swyddogol ar gyfer gŵyl ffilmiau Moov yng Ngwlad Belg.

Continue reading

Mbira and Shona Spirituality

Posted on September 12, 2021

Mae’r prosiect hwn yn archwiliad o Mbira, offeryn cerddorol sy’n draddodiadol i’r bobl Shona yn Zimbabwe, a’i gysylltiad ag ysbrydolrwydd y Shona yn y Zimbabwe gyfoes. Yn y gorffennol, defnyddiwyd Mbira yn bennaf mewn seremonïau ysbrydol traddodiadol i gysylltu â’r hynafiaid, ond mae ganddo hanes trefedigaethol cymhleth hefyd. Er mwyn ceisio dinistrio diwylliant yr Affricanwyr a’u perswadio i droi eu cefn arno, roedd y cenhadon yn credu bod Affricanwyr yn addoli’r diafol a bod cadw mbira yn aflan ac yn gyntefig. Cymerodd y rhain eu holl offerynnau cerddorol oddi arnynt, yn enwedig yr mbiras, a gwahardd unrhyw gerddoriaeth heblaw emynau eglwysig. Yn yr 80au, dechreuodd artistiaid cerddorol ddefnyddio’r Mbira a daeth yn boblogaidd unwaith eto. Heddiw, mae pobl yn canu’r Mbira mewn rhai eglwysi, mewn cyngherddau pop am resymau cerddorol esthetig, fel gweithgaredd adloniant ac hefyd mewn Biras traddodiadol. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn dal i’w wrthod. Mae hwn yn brosiect parhaus.

Continue reading

Home: Walls

Posted on September 12, 2021

Rwy’n dychmygu waliau fel darparwyr naratif darniog, platfform o fynegiant isymwybodol a rhoddwr cyd-destun i’r hunaniaeth sydd wedi’i ymwreiddio yn eu perchnogion.

Drwy waliau mannau cyhoeddus a phreifat, rwy’n archwilio fy nealltwriaeth fy hun o deulu, hanes, bri, hiraeth a dymuniadau mewn cyd-destun trefol. Rwy’n portreadu’r perchnogion drwy dynnu lluniau o’u waliau. Rwy’n holi “beth mae pobl yn ei roi ar eu waliau?”

Yn dibynnu ar y ddemograffeg, yr unigolyn neu’r statws, mae gan waliau wahanol swyddogaethau i wahanol bobl. Mae rhai waliau’n dangos ffotograffau o arweinwyr dadleuol y gorffennol tra bo eraill yn arddangos gwraidd crefyddol cryf y wlad neu’r balchder sydd ganddynt yn eu teuluoedd.

Mae ein waliau’n dangos y ddeuoliaeth teimlad sy’n datblygu yn ein meddyliau mewn oes o weddnewid sy’n symud yn gyflym. Mewn un ffordd, mae hyn yn deillio o synnwyr cryf o berthyn, traddodiad a balchder a ddaw o hanes y wlad. Mewn ffordd arall, mae gwybodaeth, globaleiddio a synnwyr o ddyheu am yr hyn sydd ar ochr arall y ffens a beth sy’n bodoli y tu hwnt i’n taith anhrefnus ni ein hunain i greu ein iwtopia dychmygol ein hunain.

Trwy gyfrwng y gyfres hon, rwy’n gobeithio codi’r cwestiwn o hunaniaeth a chartref yn hytrach na’i ateb. Rwyf eisiau sbarduno cwestiwn yn y gwyliwr am hunaniaeth y rheiny sy’n berchen ar y wal ac sy’n ymwneud ag o bob dydd.

Continue reading

I Am A Survivor

Posted on September 10, 2021

Y cwbl y mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ar y cyfryngau am Rwanda, yn arbennig ffotograffau, yn ei wneud yw tanlinellu ei delwedd fel gwlad mewn trafferthion mawr ac ynddi bobl yr un mor gythryblus. Mae’r ffotograffau hyn yn dangos oedolion a aned cyn ac ar ôl 1994, ac mae’n eu dangos nhw’n symud ymlaen ar ôl goroesi eu trafferthion i greu eu hunaniaethau eu hunain. Maen nhw’n bobl sy’n dathlu eu cyflawniadau er gwaethaf yr erchyllterau, ac rwy’n fy nghyfri fy hun ymysg eu nifer – cefais innau hefyd fy ngeni yn y flwyddyn honno a bu farw fy nhad yn ystod yr hil-laddiad yn erbyn y Tutsi pan oeddwn i’n ddim ond 10 diwrnod oed. Felly, rwy’n fy ystyried fy hun yn gydweithredwr, galluogwr, rhywun sy’n cerdded y llwybr creadigol ochr yn ochr â’r bobl sydd yn fy lluniau. Er mai fi ddarparodd y gwisgoedd, y goroeswyr benderfynodd sut roedden nhw eisiau eu cyflwyno eu hunain, sut roedden nhw eisiau dangos eu balchder a’u gwydnwch.

Mae’r llythyrau a ddaw ochr yn ochr â’r rhain yn cynnig ffordd o anfon negeseuon at eu teuluoedd a chysylltu â’r meirw. Mae Ndizeye yn ysgrifennu yn ei lythyr: “Rwyf wedi tyfu i fod yn debyg iawn i chi, a dyna atgofion hyfryd iawn ohonoch chi sydd yn y byd hwn. Wrth ddweud hyn rwy’n golygu eich bod chi’n dal i fyw drwof fi. Meddyliais amdanoch heddiw, ond dydy hynny’n ddim byd newydd. Meddyliais amdanoch chi ddoe a’r dyddiau cyn hynny hefyd.”

Mewn ffordd, mae pob aelod o genhedlaeth 1994 yn oroeswr, mae pob un ohonom wedi tyfu dan effeithiau’r trais a rwygodd ein gwlad yn ddarnau. Heddiw, drwy fy ngwaith a thrwy sefydlu Canolfan Ffotograffiaeth Kigali, rwy’n cyfrannu at y ffordd yr adroddwn ein straeon ein hunain, drwy greadigedd, chwarae, ailddyfeisio a gwrthsafiad.

Continue reading

ELMINA

Posted on September 10, 2021

Mae ELMINA yn brosiect tymor hir yr wyf yn gweithio arno. Dyma’r fan lle profais gariad am y tro cyntaf, lle claddwyd fy llinyn bogail, a lle bu fy nain yn canu caneuon i’m corff bach tew ond gwanllyd am fawredd fy nhynged.

Elmina yw’r fan lle adeiladwyd y castell caethweision cyntaf yn Affrica Is-Sahara, ac y cefais fy mwydo am y tro cyntaf gan fy mam 200 metr o’r daeargelloedd lle clowyd miloedd o gaethweision Affricanaidd, a lle mygodd neu y llwgodd llawer ohonynt i farwolaeth. Cychwynnais y prosiect hwn, yn gwybod yn iawn na all unrhyw beth a wnaf neu a ddywedaf heddiw, ddatrys anghyfiawnder y gorffennol. Ond credaf fod rheidrwydd arnom ni, er parch i’r miliynau sydd wedi eu caethiwo heddiw yn y diwydiant rhyw, yn gaethweision domestig neu sy’n dioddef unrhyw fath o gaethiwed, i godi ein lleisiau a thaflu goleuni, nid yn unig ar anghyfiawnder y gorffennol ond hefyd ar y rhai niferus yn ein byd ni heddiw.

Continue reading

Ballet in Kibera

Posted on September 10, 2021

Ni fyddech yn ystyried cysylltu arddull ddawnsio a aned yn ystod y dadeni yn yr Eidal gyda grŵp o blant sy’n byw yn un o’r anheddau anffurfiol mwyaf yn Affrica, Dydy dawnsio ei hun ddim yn beth diarth i’r cyfandir, ac mae wedi chwarae rhan hanfodol yn niwylliant Affrica, a hynny fel mwy na dim ond math o adloniant – mae’n hysbys ei fod yn cyfathrebu emosiynau ac yn dathlu defodau newid byd hefyd. Am fod gwersi ballet yn eithriadol o ddrud, mae’r ddawns yn aml yn gysylltiedig â braint, a’r grym a ddaw gyda braint. Dywedodd y beirniad dawns Jennifer Homans fod ballet wedi cychwyn fel gweithgaredd oedd yn ymwneud â dynion, grym a phobl bwysig, a gyda ballet modern dechreuodd ymwneud â merched, breuddwydion a’r dychymyg, Roeddwn i eisiau cyfleu’r cyflwr yn y canol, y dychymyg a’r realiti, a chynnig dewis gwahanol i’r ystrydeb fonolithig o’r plentyn Affricanaidd tlawd o’r slym.

Continue reading

The Gentlemen of Kibera

Posted on September 10, 2021

Yn 2013, dechreuais ddogfennu fy nghymdogaeth – Kiberia, sef slym mawr yn Nairobi, Kenya. Mae fy lens yn cael ei dynnu’n aml iawn at yr hyn sydd, i mi, yn enaid i’r gymuned fywiog hon: ei hieuenctid.

Mae’n rhaid i ieuenctid dinesig Kenya a aned ac a fagwyd mewn aneddiadau anffurfiol ac incwm isel ymdopi â llu o heriau, o stigmateiddio i amddifadedd economaidd. Ac eto, mae’r slymiau’n lleoedd o fenter, arloesi, creadigedd a phenderfynoldeb.

Wedi eu gwisgo mewn siwtiau steilus, teis lliwgar, hetiau ac esgidiau lledr, mae pedwar o ddynion ifanc yn Kiberia wedi ffurfio’r “Vintage Empire” – datganiad personol, cymdeithasol a gwleidyddol: tystiolaeth o deithiau amrywiol a gwahanol fathau o realiti y maen nhw’n eu profi ac y maen nhw’n cyfrannu i’r broses o’u siapio.

Iddyn nhw, mae ffasiwn yn ymwneud â mwy na dim ond gwisgo dillad da. Dyma eu ffordd nhw o ail hawlio, ail benodi ac ail ddyfeisio eu hunaniaeth eu hunain, eu llais unigryw a’u lle mewn cymdeithas.

Continue reading

A Crack in the Memory of My Memory

Posted on September 10, 2021

Gwthiaf fel tresmaswr drwy weddillion fy ngorffennol. Drwy haenau amser, gyda lludw a chraciau’r waliau’n malurio drosof gan greu waliau clwyfedig ac anafiadau y tu mewn imi. Rwy’n teimlo fel petawn i’n cerdded ar ddarnau o’m calon doredig, yn casglu’r darnau ac yn eu rhoi nhw at ei gilydd mor gywir ac y gallaf. Rwyf wedi fy nghaethiwo yng nghawell fy atgofion, y cwbl a welaf o’m presennol yw delweddau o’r straeon y mae fy nain a’m taid wedi eu pasio i mi. O ddinas nad yw’n bodoli bellach. Rwyf ar goll yn y syniadau cyferbyniol sydd gen i o’m presennol, yn ceisio addasu ac eto rwyf wedi fy nal mewn amser gwahanol sydd wedi hen fynd yn angof.

Y ffordd yw fy llinell amser, fy hanes a’m hatgof darniog. Cefais fy magu mewn diogelwch ac wedi fy amddiffyn gan ddau fyd, dau dŷ a’r ffordd sy’n eu cysylltu nhw, yn cysylltu fy ngorffennol a’m presennol. Taith ffordd 120 km y byddwn yn ei chymryd bob wythnos rhwng cartref fy nhad yn Mehalla Al Kobra a chartref fy mam yn Cairo, o’r adeg pan oeddwn i’n 5 oed hyd nes oeddwn i’n oedolyn ifanc, yn ymestyn fel tyst tawel a chofnod gweledol wrth i mi ymdrechu i’m canfod fy hun. Cafodd fy mywyd ei balmantu ar hyd y ffordd hon. Ac fel plentyn yn chwilio ac yn ceisio canfod tir cyffredin rhwng y ddau, roeddwn i bob amser yn pendroni i le’r oeddwn i’n perthyn, ble oedd gartref i mi. Wrth i mi symud ar hyd y ffordd, tyfodd fy nyheadau yn fwy na mi wrth i mi fynd ar ôl straeon fy nain a’m taid, yn ceisio fy lleoli fy hun mewn gorffennol nad oedd yn eiddo i mi yn yr atgofion o’u hatgofion nhw.

Mae’r ffordd yn fy atgoffa drwy’r amser, yn fy atgoffa o’n hunigoliaeth, ein lle, a’r ‘ni ein hunain’ y datblygwn ni i fod. Mae’n symbol o’r dicotomi rhwng y gorffennol a’r presennol. Wrth i mi fudo yn fewnol ac allanol, yn gorfforol ac yn feddyliol, allan o Cairo ac i mewn i Cairo, rwy’n cymryd rhan mewn deialogau sydd wedi eu bwydo gan fy hunan-amheuaeth ac ofn ac eto mae fy ngreddfau’n eu gyrru tuag at obaith a gweledigaeth o well dyfodol. Mae llif o gwestiynau a meddyliau’n ffrwydro y tu mewn i mi: ydw i’n byw fy mhresennol neu ydw i’n bodoli yn unig? Beth fydd fy mhresennol? A fydd mor ogoneddus â phresennol y gorffennol? A oedd y gorffennol mor ogoneddus ag y tybiais? Ai’r gorffennol yw fy ngwaredwr yn fy ennyd bresennol a’m dyfodol ansicr?

Continue reading

The Home Seekers

Posted on September 10, 2021

Mae’n chwilboeth. Mae’r tŷ y tu cefn i ni ar ddwy lefel ac yn rhwystro’r gwynt. Gallai Ja`far a Mubarak adeiladu’r tŷ hwnnw ar ôl mewnfudo’n anghyfreithlon ar draws Môr y Canoldir i’r Iseldiroedd a’r Almaen. Mae llawer o bobl ifanc o’n cymdogaeth ni wedi gwneud yr un peth – o ganlyniad i hynny mae mwy o dai’n cael eu hadeiladu gydag arian sy’n llifo o wledydd yn y Gogledd. Rydw i wedi teimlo’n genfigennus bob tro. Pan deithiodd llawer o’m cyfeillion dramor i weithio, roeddwn innau hefyd eisiau mudo dros Fôr y Canoldir i wireddu fy mreuddwydion. Ond, gwthiodd fy nghynged fi i le gwahanol.

Saith mlynedd yn ôl, deuthum i’r Aifft i gychwyn fy addysg prifysgol. Roeddwn i’n cael trafferth addasu. Roeddwn wedi fy llethu gan gymysgedd o deimladau: hiraeth, unigrwydd a theimlo fel dieithryn. Ystyriais roi’r gorau i’r cwbl a dychwelyd adref. Ond – doedd adref ddim yn adref bellach.

Mae “The Home Seekers” yn archwilio fy nheimladau cymhleth. Mae’n adlewyrchu’r diffyg perthyn y mae ffoaduriaid o Sudan yn ei deimlo yn Cairo a’r gwahaniaethu hiliol a deimlir bob dydd mewn mannau cyhoeddus, ar drafnidiaeth neu wrth gerdded yn y strydoedd. Mae’n anodd bod yn ddu yn yr Aifft. Mae pobl gyda chroen du’n cael eu hystrydebu a’u labelu gan y cyfryngau Eifftaidd, sy’n helpu i ehangu’r rhagfarn yn erbyn pobl Ddu yn y gymdeithas Eifftaidd.

Continue reading

Atomic Ed

Posted on September 10, 2021

Mae Atomic Ed yn olrhain siwrne Ed Grothus - o weithio yn Labordy Cenedlaethol Los Alamos ym Mecsico Newydd i fod yn ymgyrchydd di-flewyn-ar-dafod yn erbyn ynni niwclear.

Sefydlwyd Los Alamos gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd; gan ei fod mewn lleoliad mor ddiarffordd, cafodd ei ddewis fel un o’r prif safleoedd ar gyfer gwaith dirgel Prosiect Manhattan. Dyma’r safle lle llwyddodd gwyddonwyr i harneisio pŵer yr atom, gan ddatblygu’r arfau niwclear a ddefnyddiwyd yn Hiroshima a Nagasaki. Danfonwyd Ed Grothus i’r ganolfan wyddonol bellenig a dirgel yma am y tro cyntaf yn 1949 - i weithio fel peirianydd labordy. Cafodd Rhyfel Fietnam ddylanwad mawr ar Ed; wrth weld rhyfel a ystyriai’n anghyfiawn yn rhygnu ymlaen, fe adawodd y labordy a dod yn un o brotestwyr gwrth-niwclear mwyaf di- flewyn-ar-dafod yr Ugeinfed Ganrif.

Yn ystod y pedwar degawd wedi hynny, casglodd Ed beth wmbredd o ddeunydd dros ben o’r labordy a’i gadw mewn hen siop groser a elwid ‘Y Twll Du’ (The Black Hole). Daeth yr adeilad yn Fecca i ddarfodiad technolegol; ac fe dyfodd yn gronfa unigryw o arteffactau gwyddoniaeth niwclear a oedd yn atynnu eitemau’n ddi-baid drwy ryw rym disgyrchol, gan greu casgliad a oedd yn tra rhagori, o ran maint ac amrywiaeth, ar gasgliad unrhyw amgueddfa.

Mae’r arddangosfa yn Diffusion 2021 yn cynnwys dogfennau archif, hen ffotograffau a rhai mwy diweddar, a detholiad o blith hanner canrif o lythyron rhwng Ed Grothus â gwleidyddion, gwyddonwyr, y cyfryngau ac aelodau o’i deulu, sy’n ein cario yn ôl ac ymlaen drwy hanes ynni niwclear yn yr Unol Daleithiau.

Continue reading

Mewn Sgwrs: Mike Perry & Bronwen Colquhorn

Posted on September 10, 2021

Ymunwch â’r artist ffotograffig cyfoes Mike Perry a Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru, yn fyw ar Zoom.

Mae ffotograffau Mike Perry yn herio ffyrdd confensiynol o weld ein harfordir a’n cefn gwlad, gyda ffocws ar Barciau Cenedlaethol Prydain. Mae Tir/Môr, sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yn Oriel y Parc, Tyddewi, yn agor ein llygaid i ystyried perthynas fregus cymdeithas â byd natur.

Mae Dr Bronwen Colquhoun yn gyfrifol am guradu a rheoli casgliadau ffotograffiaeth yr adran gelf, curadu’r rhaglen arddangos ar gyfer oriel ffotograffiaeth barhaol yr Amgueddfa a chyfrannu at raglen arddangos dros dro yr Amgueddfa.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar y cyd gan Oriel y Parc Tyddewi, Amgueddfa Cymru a Ffotogallery.

Continue reading

Land / Sea

Posted on September 10, 2021

Mae gwaith yr artist Mike Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol arwyddocaol ac argyfyngus, yn arbennig y tensiwn rhwng gweithgareddau ac ymyriadau dynol yn yr amgylchedd naturiol, a breuder ecosystemau’r blaned (p’un a ydyw’n fôr neu’n dir).

Mae Land/Sea yn dod â dau gorff diweddar o waith at ei gilydd: Wet Deserts sy’n canolbwyntio ar leoliadau daearol ym Mhrydain sydd o dan oruchwyliaeth yn aml iawn, ac sy’n aml mewn mannau yr ydym yn cyfeirio’n gyffredin atyn nhw fel ardaloedd o harddwch naturiol, ein parciau cenedlaethol, ond lle mae tystiolaeth glir o effaith dyn; a Môr Plastig, sef corff parhaus o waith sy’n categoreiddio gwrthrychau a olchwyd i’r lan gan y môr i mewn i grwpiau – Poteli, Esgidiau, Gridiau, gan ddangos y manylion diddorol ar yr wyneb gyda chamera cydraniad uchel.

Yn gofalu am y gwaith mae Mike Perry, ac mae wedi ei addasu o Arddangosfa Deithiol Ffotogallery, Land/Sea, a drefnwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery a Ben Borthwick.

Mwy o wybodaeth

Continue reading

Motherland

Posted on September 09, 2021

Yn aml iawn, y menywod o blith y bobl ar wasgar o Bacistan a symudodd i’r DU oedd gwragedd, merched, mamau a neiniau hynod weithgar yr unigolion hynny oedd wedi mudo o ddinasoedd, trefi a phentrefi bychan ym Mhacistan. Daeth yr unigolion hyn i’r DU i weithio mewn sectorau diwydiannol allweddol a sefydlu busnesau a gyfrannodd at economi iach eu cenedl a oedd newydd ei sefydlu. Roedd y menywod o Bacistan yn darparu’r awyrgylch hanfodol o gysur a theimladau cyfarwydd a roddodd synnwyr o’u gwlad frodorol i’w gwŷr, tadau, plant ac wyrion – gan greu cartref iddyn nhw ymhell o adref.

Wedi ei gwisgo yn nillad ei mam o 40 mlynedd ynghynt, diben hunanbortreadau Maryam Wahid yw cydnabod bodolaeth a chyflawniadau menywod Pacistanaidd fel hyn a’u rôl fel asgwrn cefn cymuned a weddnewidiodd ganol dinasoedd Prydain. Mae albwm lluniau’r teulu wrth wraidd gwaith personol Maryam. Mae hi’n defnyddio ffotograffau ohono i ddadelfennu ei threftadaeth Brydeinig a Phacistanaidd ei hun.

Heddiw, mae menywod Pacistanaidd Brydeinig yn parhau i chwyldroi rolau’r rhywiau i fenywod eraill drwy benderfynoldeb, cymorth emosiynol ac anogaeth eu rhwydwaith o gymheiriaid benywaidd.

Continue reading

Natura Consonat: mewn cytgord â natur

Posted on September 09, 2021

Flynyddoedd yn ôl, pan es i ymweld am y tro cyntaf â Thiriogaeth Neilltuedig yr Americaniaid Brodorol Lac du Flambeau yn Northwoods Wisconsin, cartref hynafiaid fy ngŵr Ojibwe, cefais fy nharo gan dawelwch a serenedd anhraethadwy eu tir a gynhyrchodd synnwyr o ryfeddod a chyflawnder ynof. Rwyf wedi dychwelyd dro ar ôl tro, i dynnu lluniau ar y Diriogaeth Neilltuedig ac yng nghoedwigoedd eraill Northwoods, gan geisio cofnodi a mynegi'r rhyfeddod a deimlais. Deuthum i ddysgu bod enw i'r profiad hwn: fforest-ymdrochi, sef y weithred o adfywio'r ysbryd a'r corff drwy fod yn y fforest.

Am fy mod yn tynnu lluniau drwy'r tymhorau i gyd, rwy'n defnyddio ffilm lliw clasurol a chamera confensiynol i ddarlunio'r coed, y morfeydd a'r dolydd, yr awyr, dyfroedd a lleoedd wedi eu marcio gan y bobl sy'n byw yno. Mae'r lluniau wedi eu hargraffu ar banelau mawr o ffabrig sidan lled-afloyw. Mae'r panelau cain hyn sydd wedi eu hongian o'r nenfwd gyda darnau neilon tryloyw, i'w gweld o bob ochr.

Mae fy ngwaith yn gwahodd y rhai sy'n eu gweld i deimlo cysylltiad dwfn â'r fforestydd hynafol hyn ac i ystyried rhyfeddod Northwoods. Mae pethau eraill sy'n ysgogi'r synhwyrau, fel y pren mwsoglyd, y pinwydd, gwelltglas melys a recordiadau sain o seiniau naturiol y coed yn dyfnhau'r profiad o 'fforest- ymdrochi rhithiol'.

Anaml iawn y mae pobl sy'n byw mewn dinasoedd yn cael y cyfle i ymdrochi mewn fforest drwchus. Mae'r gosodwaith hwn yn dod â phrofiad rhithiol i'r ddinas. Arwyddair swyddogol y ddinas lle rwy'n byw, Chicago, yw "Urbs in Horto" -- Dinas mewn gardd. Mae'r panelau hyn wedi eu llunio i greu "Horto in Urbs" -- gardd gludadwy yn y ddinas.

Continue reading

Gwenyn (a rhywogaethau eraill)

Posted on September 09, 2021


Mae ‘pwyntiau di-droi’n-ôl’ yn enydau critigol mewn system ecolegol neu gymdeithasol. Y tu hwnt i’r pwyntiau hyn, mae newidiadau arwyddocaol yn digwydd nad oes modd eu hatal yn aml iawn. Er bod newidiadau graddol yn gallu bod yn anodd eu gweld, mae rhywogaethau dynodol fel y Gwenyn (a rhywogaethau eraill) yn gweithredu fel baromedrau amgylcheddol, yn datgelu newidiadau yn iechyd y byd naturiol. Mae gwenyn (a rhywogaethau eraill) yn hanfodol hefyd fel peillwyr, yn cynnal ecosystemau’r Ddaear, y fioamrywiaeth a’r amaethyddiaeth sy’n cynnal y ddynoliaeth. Eto mae nifer y gwenyn yn gostwng yn ddramatig: drwy’r byd i gyd mae traean o’r rhywogaethau gwenyn gwyllt yn dirywio, ac ym Mhrydain mae 97% o’r dolydd blodau gwyllt wedi mynd.

Mae ffotograffwyr Ink yn archwilio gwahanol agweddau o gysylltiadau’r ddynoliaeth gyda’r gwenyn (a rhywogaethau eraill) a pha mor ddibynnol yw’r hil ddynol arnyn nhw. Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys Gwenyn (a rhywogaethau eraill) a’u gallu i’n hail gysylltu ni â natur a gyda’n gilydd; i gyfrannu i’n hiechyd a’n lles; fel erfyn alegorïaidd sy’n adlewyrchu cymdeithas ddynol; i ddynodi iechyd cynefinoedd y dolydd; i amlygu cofnodwyr data biolegol ac i archwilio ein dibyniaeth ar beillwyr ar gyfer un ymhob tri llond ceg o fwyd a gawn. Trwy gyfrwng y prosiect grŵp ffotograffig hwn, mae Ink yn archwilio materion sy’n cynnwys gwerth natur mewn lleoliadau trefol, colli cynefinoedd, ein dibyniaeth ar wenyn i gynhyrchu bwyd a phwysigrwydd gwaith cadwraethwyr.

Gan gyflwyno eu gwaith mewn cyfresi ffotograffig, sain a lluniau symudol, mae Ink yn cwestiynnu’r ‘pwynt di-droi’n-ôl’ posibl y mae’r ddynoliaeth wedi’i gyrraedd o fewn y byd naturiol bregus, yn ystyried gwersi y gallwn eu dysgu gan ein sefyllfa ansicr bresennol ac yn ystyried y cyfleoedd i weithredu yn awr.

Continue reading

Newport / Lab

Posted on September 08, 2021

Rhwng 2012 a 2016, gweithiodd wyth myfyriwr oedd ar y cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol gyda’i gilydd yn ninas Casnewydd, tra bo’r cwrs yn dal i ddigwydd yng Nghaerllion gerllaw.

Mae’r arddangosfa sydd ar y gweill yn arddangos gwaith a gynhyrchwyd bryd hynny, a oedd hefyd yn sbardun ar gyfer prosiectau dilynol a dulliau o weithio i bob aelod o’r grŵp. Yn ystod yr arddangosfa, bydd labordy byw’n cael ei sefydlu lle bydd yr artistiaid yn dychwelyd i Gasnewydd i greu gwaith newydd a fydd yn cael ei olygu, ei brosesu a’i osod o fewn y lle hwn, ochr yn ochr â, neu yn lle, y gweithiau cynharach hyn.

Daw’r fenter hon i ben gyda gosodwaith sy’n esblygu, pan fydd y lle’n troi’n stiwdio agored, yn rhywle i arbrofi lle gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan ochr yn ochr â’r artistiaid mewn prosesau dethol, trafod a phrintio – gan ganiatáu i’r delweddau ar y waliau newid drwy’r amser. Trwy’r cymysgu gweledol hwn o’r hen a’r newydd bydd cyfnewidiad yn digwydd gan gyflwyno’r delweddau yn ôl i’r fan lle cawson nhw eu cynhyrchu a’u hysbrydoli, dinas Casnewydd.

Mae’r grŵp yn cynnwys ffotograffwyr; Bandia Ribeira, Clementine Schneidermann, Daragh Soden, Fergus Thomas, Lua Ribeira, Michael Alberry a Sebastian Bruno, ac yn goruchwylio’r gwaith o guradu’r arddangosfa mae Isaac Blease.

Bydd Lab yn digwydd o’r 13eg hyd yr 17eg o fis Hydref

HAHNEMUHLE

Continue reading

Chelwek

Posted on September 08, 2021

Mewn cydweithrediad â PAWA 254 a Ffotogallery lluniais gysyniad ynglŷn â’r ffordd rwy’n gweld fy ngofod a sut mae fy mhaentiadau’n ffitio i’r gofod i ddweud fy stori’n effeithiol.

Gentil (darnau’r fynedfa)

Byddwch yn garedig, mae’n rhad ac am ddim, a bydd croeso i chi ddod i fy “Nghysegrfa”. Dyna fy ngofod i wrth i mi rannu mwy o fy hanfod gyda chi, mae fy mhaentiadau’n rhan ohonof i, ac mae’r darnau hyn yn eich croesawu chi i fy myd… i fy ngofod.

Yr Hanfod Affricanaidd.

Mae hyn i gydnabod bod pawb y down ar eu traws a phopeth byw y down ar eu traws yn cael rhyw effaith arnom ni mewn un ffordd neu’r llall. Mae hyn i ddathlu’r ffaith bod gan bopeth byw hanfod duw ynddyn nhw ac, am fy mod wedi fy seilio ar bridd Affrica, dewisais ei enwi’n hanfod Affricanaidd. Mae’r mwgwd yr wyf wedi ei greu yn ymwneud â dirgelwch agwedd ysbrydol bywyd… ac yn dathlu harddwch a lliwiau fy Affrica.

Mam y Greadigaeth.

I ddathlu bywyd a pharhad bywyd, mae’r gyfres mam y greadigaeth yn dathlu mamolaeth a’iphrydferthwch. Mae’r blodau’n cynrychioli’r agwedd hon o barhad am fod blodau’n cario ‘hadau’ y planhigyn. Mae’r merched yn y darnau’n parhau’n ddiffwdan er hynny, er mwyn dangos y cryfder sydd ganddyn nhw i wneud y dasg y mae natur wedi ei rhoi iddyn nhw.

Ymweliad



    Continue reading

    Nature Joins The Attack

    Posted on September 08, 2021

    Mae ‘Nature joins the attack’ yn bennod a gymerwyd o lyfr Chancellor Williams, ‘Destruction of Black Civilization.’ Mae’n tynnu sylw at ddigwyddiadau naturiol a heriodd gynnydd y diwylliant du hynafol. Er enghraifft, mae Chancellor Williams yn ymdrin â’r ffordd y mae’r ucheldiroedd yn cychwyn yng Nghanolbarth Affrica ac yn codi tua’r de i lefelau uwch a achosodd i Affrica ddisgyn ar oleddf tua’r gogledd a gwneud i’r Afon Nîl lifo i’r un cyfeiriad. Cyfoethogodd hynny rannau Gogleddol a Dwyreiniol Affrica, yn arbennig Yr Aifft a Sudan, gan wneud Yr Aifft mor gyfoethog o ran cynhyrchu bwyd nes ei bod wedi denu goresgyniad tramor, a effeithiodd ar wareiddiadau cynharaf Affrica.

    Cefais fy ysbrydoli gan y bennod hon i greu gofod ddylunio oedd yn canolbwyntio ar rai o’r effeithiau a gafodd y Nîl ar y gwareiddiad du hynafol. Mae’r lle wedi ei rannu’n ddwy ran gyda dyluniadau drwy gyfrwng darluniadau a photoshop ynghyd â chynnwys ysgrifenedig wedi ei gymryd o lyfr Chancellor Williams ‘Destruction of Black Civilisation’. Fy nod oedd archwilio traddodiadau diwylliannol cynharaf y gwledydd oedd wedi eu heffeithio a gweld yn arbennig sut roedd gwallt wedi chwarae rhan mewn dynodi statws a llwyth.

    Ymweliad



      Continue reading

      More Than A Number

      Posted on September 07, 2021

      “We’re more than sand and the seashore, we’re more than numbers.”

      - Bob Marley, Wake Up and Live, 1979

      More Than a Number is a part of Ffotogallery’s Photography and Africa series, which looks to explore our thinking of an Africa caught between modernity and tradition, and how different cultures can produce meaning through images. Through a series of artist workshops, symposia and online content, More Than a Number invites the audience to engage with the exceptional and thought-provoking work of 11 photographers from Africa. It encourages us to look deeply and clearly into the face of the individual in front of you and engage in a conversation. As Elbert Hubbard wrote, “If men could only know each other, they would neither idolise nor hate”.

      Cultural difference and questions of identity within the ‘rights of recognition’ have, for many of the people who have been regulated to the margins of society, been front-line battles in establishing their identity and human worth (Hall, 1992). What happens when we neglect people’s material culture and not truly value it or represent it everywhere for everyone to engage with? And how can we as the audience, be that as individuals or cultural organisations, draw conclusions from what we already know and understand about Africa and Africans through a visual medium. And finally, how can we as cultural organisations in the West be more responsible in how we represent photography from Africa?

      More Than a Number is centred around three themes: Representing Fearlessness, Zones of Contact, and Radical Sociality. Amina Kadous, Brian Otieno, Sarah Waiswa and Wafaa Samir’s projects offer highly subjective visions of African identity while exploring what true freedom and fearlessness in art looks like. Nana Kofi Acquah, Salih Basheer, Tom Saater and Yoriyas Yassine Alaoui teleport the audience into their zones of contact, and explore the idea of remaking and reimagining our identities. Maheder Haileselassie Tadese, Steven Chikosi and Jacques Nkinzingabo’s projects remind of us of the importance of preserving and caring for our material culture, cultural heritage and its impact, especially in regard to questions of migration, decolonisation, belonging and experience.

      Rights of representation need to happen and need to continue happening through a visual medium such as photography. Historically, to be seen and looked at - across race, gender and class - is a human right. The launch of the More Than a Number online exhibition and first symposium is scheduled for the 14th of July 2021.

      Continue reading

      Between The Trees

      Posted on September 07, 2021

      Mae Between the Trees yn ymatebiad safle-benodol i Lyn Llech Owain - llyn ar ben bryn yng ngorllewin Cymru a ffurfiwyd, yn ôl chwedloniaeth, wedi i Owain Lawgoch anghofio ail-osod llechen fawr a oedd yn dal cronfa o ddŵr yn ôl. Llifodd y dŵr yn wyllt a di-baid i lawr y bryn, a dyna sut y cafodd y llyn ei ffurfio.

      Pan darodd y pandemig, cafodd Amy, fel llawer o bobl eraill, ei gorfodi i ail-leoli a symud yn ôl i gartref ei phlentyndod. Cafodd y llyn rhwng y coed ei ail-greu fel man i chwarae, dychmygu a dianc.

      Ymweld

      Continue reading

      Where's My Space

      Posted on September 07, 2021

      Ledled y byd, oherwydd y pandemig mae canolfannau celfyddydol a diwylliannol wedi gorfod cau am gyfnodau maith - y mannau lle’r ydym yn dod at ein gilydd, fel canolfannau celfyddydau, clybiau ieuenctid, canolfannau cymunedol, neuaddau dawns a theatrau. Mae’r pandemig hefyd wedi cyfyngu ar ein rhyddid i ymgasglu a sgwrsio mewn mannau cyhoeddus, caffis, bariau a hyd yn oed yn ein cartrefi ein hunain; mannau a llefydd lle’r oeddem yn rhannu straeon a chymdeithasu gyda theulu a ffrindiau. Ym myd y celfyddydau, bu’n rhaid inni greu cyfleoedd eraill i gymdeithasu, perfformio, arddangos, cyfnewid a rhannu mewn mannau rhithwir.

      Mae Where’s My Space? yn brosiect digidol cydweithredol sydd wedi dod â dau sefydliad at ei gilydd – y naill o Genia, sef PAWA254, a’r llall o Gymru, sef Ffotogallery. Gyda’i gilydd maent wedi creu man cyfarfod rhithiol, neu ‘Base Noma’ (â rhoi iddo’i enw Ceniaidd), lle daeth pobl ifanc greadigol o’r ddwy wlad bartner at ei gilydd i gydweithio i gynllunio a datblygu gofod unigryw ar gyfer adrodd straeon gweledol. Rhoddodd y prosiect gyfle i ddau sefydliad diwylliannol deinamig gydweithio i gynllunio a datblygu gofod unigryw ar gyfer adrodd straeon gweledol yn ogystal â chysylltu pobl ifanc greadigol o Genia a Chymru.

      Rydym wedi bod yn gweithio gyda phedwar o bobl greadigol blaengar ac arloesol, dau o Gymru a dau o Genia, yn ogystal â myfyriwr ar ei bedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a fu’n gyfrifol am y gwaith dylunio 3D a gwireddu gweledigaeth bensaernïol Where’s My Space?

      Mae Nancy Cherwon, a adnabyddir hefyd fel Chela, yn beintiwr, artist graffiti a darlunydd o Genia. Prif themâu ei gwaith yw diwylliant, ysbrydegaeth a hunaniaeth. Mae hi’n defnyddio symboliaeth, lliw a phatrymau i osod y cywair ar gyfer pob paentiad. Mae Gufy yn fardd ac artist gair llafar, sinematograffydd a ffotograffydd o Genia. Artist ffotograffig a gafodd ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin yng ngorllewin Cymru yw Abby Poulson. Mae ei gwaith yn archwilio syniadau am ei mamwlad, yn ogystal ag ymateb i hunaniaeth Gymreig, pryderon amgylcheddol, y gwledig, y cof a naws am le. Mae Gilbert Sabiti yn artist a darlunydd sy’n defnyddio’i waith yn bennaf i ymchwilio i’w dreftadaeth Rwandaidd a Phrydeinig a’i brofiadau fel dyn du’n tyfu i fyny ym Mhrydain; mae llawer o’i waith yn ymddangos mewn e-gyhoeddiadau lle mae’n defnyddio cyfryngau golygyddol, technegau darluniadu a theip i greu cynnwys. Bu ein dylunydd/pensaer 3D, James yn defnyddio meddalwedd SkethchUp a Vray i wireddu gweledigaeth bensaernïol y gwahanol fannau rhithwir yn ogystal â chreu’r cyfleadau terfynnol. Cafodd y delweddau panoramig o’r cyfleadau hynny eu pwytho at ei gilydd a’u troi’n vista 3D i greu’r gofod rhithwir gorffenedig gan ddylunydd llawrydd Ffotogallery, Oliver Norcott. Cafodd y prosiect ei guradu gan Cynthia MaiWa Sitei, Cynhyrchydd Creadigol yn Ffotogallery Cymru a Njeri Mwangi, Cyd-sylfaenydd menter PAWA ac Arweinwyr Prosiectau Arbennig PAWA254.

      O ran y pedwar artist, nid oedd unrhyw ffiniau creadigol i’r prosiect yma; ac fe gymeron nhw fantais lawn o hynny drwy wthio eu hunain i adfeddiannu ac ail- ddychmygu’r mannau sy’n eu cynrychioli nhw, eu hunaniaeth, eu hymarfer a’u bodolaeth.

      Ymweliad Hub

      Continue reading

      Brauning El Otoño

      Posted on September 07, 2021

      Ar 11 Medi 1972, dan arweiniad y Cadfridog Augusto Pinochet, cipiodd gwrthryfel dinesig-milwrol reolaeth ar wlad Chile, gan ddod â “Llwybr Chile tuag at Sosialaeth” Salvador Allende i ddiwedd disymwth. Cychwynnodd trefn Pinochet ymgyrch helaeth o frawychu yn erbyn yr adain chwith, a chyn-gefnogwyr Allende. Daeth breuddwydion am gymdeithas fwy egalitaraidd i ben y diwrnod hwnnw. Roedd trais economaidd yn adlais o gieidd-dra eang y wladwriaeth gan gynnwys herwgipio, arestiadau mympwyol, artaith, dienyddiad a diflaniadau gorfodol. Llwyddodd yr alltudion hynny fu’n ddigon ffodus i ddianc i gynnal breuddwyd arbrawf sosialaidd byrhoedlog Allende. Fe wnaeth fy mhrofiad i fel alltud o’r ail genhedlaeth feithrin hiraeth am Chile ynof fi. Yn ystod ymweliad â Chile yn 2006, bu farw Augusto Pinochet wythnosau ar ôl imi gyrraedd, gan atseinio gyda nofel Gabriel Garcia Márquez, The Autumn of the Patriarch - El Otoño del patriarca (1986), sydd yn adrodd hanes bywyd a marwolaeth unben diddarfod.

      Mae deunydd a gyflwynir yn yr arddangosfa yma yn perthyn i ofod gwagleol alltudiaeth. Mae fy ymdrechion i ddeall cymhlethdodau’r lle a’r amser toredig yma yn adlewyrchu nofel arloesol 1968 Julio Cortasar, Rayuela (Hopscotch), a dorrodd ffiniau drwy actifadu darllenwyr a gwneud iddynt lamu drwy’r llyfr, yn neidio o bennod i bennod. Mae’r bobl y des i ar eu traws yn Chile, megis perthnasau’r diflanedig, yn byw mewn cyflwr trothwyol gwahanol, yn methu â chladdu a galaru eu perthnasau sydd ar goll, perthnasau y mae eu tynged yn parhau i fod yn anhysbys, 30 mlynedd ar ôl i’r unbennaeth ddirwyn i ben. Mae El Otoño yn ymgais i anrhydeddu’r colledig, y rhai hynny arhosodd, y rhai hynny adawodd, a’r rhai hynny sy’n dal i geisio adeiladu dyfodol gwell.

      Continue reading

      Xennial: Separation of Symmetry

      Posted on September 07, 2021

      Wedi ei osod ar ymylon hen bentref glofaol bach yng Nghwm Gwendraeth, De Orllewin Cymru, mae ‘Xennial’ gan Huw Alden Davies yn brosiect cydweithredol amlgyfrwng sy’n archwilio’r cysyniadau hunaniaeth ddiwylliannol, hiraeth a phenderfyniaeth dechnolegol, gan hefyd gofnodi cenhedlaeth a aned ar ymylon y chwyldro digidol.

      Yn ychwanegol at y gyfres gwmpasog fwy hon, mae Separation of Symmetry, sef ffilm osodwaith newydd, yn olwg ôl-syllol o’r dyfodol ar y genhedlaeth na astudiwyd sy’n pontio’r bwlch rhwng dau gyfnod, a elwir Cenhedlaeth X a Phlant y Mileniwm. Mae’n dathlu rhyfeddod plentyndod, gan hefyd dynnu ar edau’r gorffennol, ac mae’n waith haniaethol sy’n cydnabod Cymru ôl-ddiwydiannol, y tu hwnt i’r maes glo a holl addewidion y cyfnod hwnnw.

      Continue reading

      Truth in Fire

      Posted on September 07, 2021

      Roedd y bobl Aboriginaidd yn gwybod fod y tanau yma’n dod ers amser maith. Dewisodd pobl i beidio â gwrando. Wnaethon nhw ddim edrych am yr arwyddion. Cawsom ddigon o arwyddion ac roeddem yn gwybod fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd… Mae tân yn un o’r elfennau. Rydym yn parchu’r ddaear, yr aer, y dŵr a thân. Heb dân ni fyddem yn goroesi. (Vivian Mason, un o Henaduriaid Cenedl yr Yuin, Chwefror 2020)

      Dechreuodd Tim Georgeson o Awstralia ar brosiect ‘Truth in Fire’ yn ystod haf 2019-20 mewn ymateb i’r tanau enbyd a thrychinebus a welwyd ar Arfordir De Ddwyrain Awstralia. Cafodd tua 24 miliwn hectar o gynefinoedd naturiol, tiroedd amaethu ac ardaloedd trefol ledled Awstralia eu hamlyncu gan danau’r ‘Haf Du’. Collodd tri deg tri o bobl eu bywydau, ac amcangyfrifir y bu farw biliynau o famaliaid, adar ac ymlusgiaid brodorol – heb gyfrif nifer mwy fyth o bryfed. Drwy ymgynghori â Cheidwaid Tân brodorol, cafodd Georgeson gyfle i ddangos effaith amgylcheddol y gyfres ddigynsail o danau enbyd a achoswyd gan stormydd taranu ar draws Gwlad yr Yuin. Gan ddefnyddio delweddau symudol, sain a ffotograffiaeth mae’r artist yn cyfleu ymdeimlad dwfn pobl y Cenhedloedd Cyntaf o golled a’r camau a gymerwyd ganddynt i iacháu eu cymunedau a’r Wlad drwy seremonïau trawsffurfiol.

      Mae tân yn rhan annatod o gylch bywyd nifer o rywogaethau o blanhigion yn Awstralia, ond yr hyn sy’n creu’r amodau gorau posibl ar gyfer adfywiad yw amseroldeb a llymder y gwres. Penderfynodd Georgeson ehangu’r prosiect yn 2021, gan deithio i Kakadu yn Nhiriogaeth y Gogledd lle defnyddir arferion tân y diwylliant brodorol - arferion sy’n seiliedig ar 65,000 o flynyddoedd o wybodaeth a rannwyd o genhedlaeth i genhedlaeth. Ar ôl cwrdd â Victor Cooper (Guruwalu), un o bobl falch y Minitja, cafodd yr artist gyfle i dystio i’r cydadweithio teimladwy rhwng y bobl Aboriginaidd a’r Wlad drwy’r arfer o ‘losgi claear’ (‘cool burning’). Mae’r delweddau yma’n dangos sut y gall dynoliaeth ddefnyddio tân i gynnal ac adfywio cydbwysedd ecolegol, yn ogystal â’r gwair marram, a’r gwahanol fathau o adar sy’n manteisio ar arferion tân i chwilota am fwyd.

      Gobaith prosiect Truth in Fire yw ysbrydoli dealltwriaeth traws-ddiwylliannol a chefnogi mudiadau rhyngwladol. Mae’r dull cydweithredol yma o reoli tir yn Awstralia, sy’n parchu gwybodaeth frodorol am Wlad ac arferion tân diwylliannol, yn fodel arwyddocaol ar gyfer parhad bioamrywiaeth ecolegol.

      Mae Tim Georgeson yn cydnabod ac yn diolch i bobl Cenhedloedd Cyntaf yr Yuin, Minitja a’r Murumburr yn Awstralia am ei wahodd i’w byd ac am rannu eu gwybodaeth. Mae’r artist yn cydnabod ceidwaid traddodiadol y Wlad a’u cysylltiad parhaus â’r tir, diwylliant a chymuned. Mae Georgeson yn cynnig ei barch i Henaduriaid y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Ni ildiwyd eu sofraniaeth fyth.

      Continue reading

      <Truth DeQay>

      Posted on September 07, 2021

      Mae <Truth DeQay> yn archwilio effaith y pandemig ar berthynas cymdeithas gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Pan oedd dinasyddion yn ail gychwyn eu perthynas gyda natur, roedden nhw hefyd yn cyrchu llifoedd diddiwedd o wybodaeth, wrth i’r cyfryngau cymdeithasol fynd yn wyllt.

      Roedd llawer o’r wybodaeth yn ffeithiol anghywir ond ysgogodd farn gref.

      Dydy algorithmau’r cyfryngau cymdeithasol ddim yn gwahaniaethu rhwng gwirionedd ac anwiredd. Mae’r algorithmau’n tynnu ar emosiwn dynol ac yn gwthio defnyddwyr i mewn i dyllau cwningod tra bo Technoleg Fawr yn elwa i’r eithaf ar broffiliau digidol y defnyddwyr. Model a ddisgrifiwyd fel “cyfalafiaeth goruchwyliaeth”.

      Mae’r ffin ddigidol, lle mae’r byd naturiol a’r byd digidol yn cwrdd, yn cynrychioli “dirywiad gwirionedd” ac yn gofyn y cwestiwn: O le ydyn ni’n cael ein gwybodaeth ac a ydyw’n ddibynadwy?

      Mae safbwynt gwybodegol y prosiect yn adwaith i’r cynnydd mewn grwpiau sy’n ymwneud â chynllwyniau sydd yn aml yn cyfochri â phoblyddiaeth ac yn gweithredu heb eu rheoleiddio.

      Mae’r dorch flodau, sy’n ganolog i <Truth DeQay>, wedi ei chreu o gwmwl pwyntiau dwys, sy’n cynnwys 40 miliwn o bwyntiau data, wedi eu cyfrifo ag algorithm y meddalwedd. Er ei fod yn debyg i’r dorch go iawn, mae’n amlwg bod gwallau yn y fersiwn 3-d a grewyd gan algorithm y meddalwedd.

      Maer fideo “cefn-dir”, wedi ei gyfansoddi’n bennaf o olygfeydd o stormydd y gaeaf diwethaf, a chafodd ei recordio wrth i ail don y pandemig ymchwyddo ac wrth i’r Arlywydd Trump geisio tanseilio’r broses ddemocrataidd.

      Mae’r seinlun yn cymysgu seiniau naturiol a recordiadau maes gyda chlipiau newyddion ac ymadroddion mewn llais robot deallusrwydd artiffisial, a oedd wedi eu trefnu’n drac sain a gyfansoddwyd ac a gynhyrchwyd gan Phil a Jai Reeve.

      Continue reading

      Cardiff Central Market

      Posted on September 06, 2021

      Mae marchnad dan do Caerdydd ar fin dathlu 130 o flynyddoedd ers cael ei sefydlu. Trwy gydol ei hanes nodedig mae’r farchnad, a adeiladwyd yn Oes Victoria, wedi bod yn gartref i fasnachwyr dirifedi. Mae pob math o fasnachu’n digwydd yn y 265 o stondinau sydd yma – mae rhai o’r masnachwyr wedi bod yma ers degawdau, ac eraill yn newydd-ddyfodiaid. Yn y casgliad yma, rwy’n cyflwyno portreadau o rai o’r masnachwyr a’u stondinau a dynnwyd ychydig
      ddyddiau cyn y cafodd y farchnad ei chau am y tro cyntaf erioed (gan gynnwys dau Ryfel Byd) oherwydd pandemig Covid-19. Wrth i’r byd ddod ato’i hun wedi effeithiau gwaethaf y pandemig, mae’r busnesau bach teuluol yma wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad hynod i lwyddo i barhau i fasnachu nes bod y cwsmeriaid yn dychwelyd a bod cyfle iddynt adfer hen ogoniant y farchnad.

      Continue reading

      Holding On

      Posted on September 06, 2021

      Mae fy ngwaith yn ddeialog rhwng y gorffenol a’r presennol. Wrth archwilio fy is- ymwybod, rwy’n ystyried yr hyn yr oeddwn yn dyheu amdano fel plentyn, yr hyn yr oeddwn yn ei ofni, a’r trawsffurfiad o fod yn ferch i fod yn fenyw. Wrth edrych drwy’r lens, rwy’n ailffurfio hanes. Ond y tro yma, fi sy’n dal y camera. Wrth grwydro’n ddwfn i fy enaid mae’r broses yn goleuo pethau, gan fy nwyn yn agosach at fy hunan, a chynnig ymdeimlad o reolaeth.

      Mae Holding On yn ymwneud â’r pethau yr ydym yn dal gafael ynddynt – ffrindiau, teulu, gobeithion, ofnau, siomedigaethau, methiant, dyhead, llawenydd. Mae’n gleddyf deufin. Ar y naill law, gall dal gafael mewn pethau ddod ag atgofion cynnes - o enydau a phobl. Ond gall ein cymell i dderbyn dulliau hesb a hen agweddau hir sefydlog sy’n ffrwyno twf personnol a chynnydd cymdeithasol. Mae’r menywod yn Holding On yn cyffwrdd â’i gilydd ac yn gafael yn ei gilydd. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd. Mae hon yn gyfres o weithiau am symud ymlaen gyda’n gilydd.

      Mae’r delweddau yma’n gweithio fel hunan-bortreadau; gan gyfleu’r hyn y mae fy llygaid yn ei weld yn ystod y cyfarfyddiad clos ond diysgog gyda’r modelau. Mae’r ffigurau yma’n sefyll o’n blaenau, yn ymgorfforiadau diriaethol o’n gorffennol – ein gorffennol torfol ac unigol. Mae’r menywod hunan-ymwybodol yma a minnau yn edrych i fyw llygaid ein gilydd wrth i ni ddechrau tynnu ein haenau tenau allanol, a deall ein gilydd yn berffaith. Mae’n ffenest o gysondeb, lle mae popeth dianghenraid yn ildio i freuder a chryfder.

      Mae fy ngwaith yn ymdrin â phwysigrwydd pherthnasoedd teuluol a hanes a phrofiad ar draws y cenedlaethau; mae fy ngwaith yn stori am gariad, pŵer ac ymddiriedaeth.

      Continue reading

      It’s Hard to Report a Stolen Bike, Stolen

      Posted on September 06, 2021

      Mae It's Hard to Report a Stolen Bike, Stolen yn ail bennod sy’n dilyn The Budgie Died Instantly a gyhoeddwyd yn 2020. Yn wreiddiol, fe ddechreuodd y corff yma o waith fel ymateb i brofiadau bywyd ac atgofion plentyndod; ond yna, drwy gyfres o gyfarfyddiadau ar hap fe ddatblygodd i fod yn archwiliad o gyfeillgarwch, gwrthdaro, hiwmor a dynoliaeth. Mae’n edrych ar berthnasoedd, cydnabod a derbyn, ac ymddiriedaeth mewn cymuned glos a thynn. Mae dyheadau iwtopaidd yn bodoli yn y lle hwn – yn y ffenestri wedi’u haddurno â blodau, a thu ôl i ddrysau caeëdig mewn mannau gwaharddedig sy’n llawn balchder ymddangosiadol lle mae pwysau diniweidrwydd coll a breuddwydion sy’n pylu yn drwm.

      Maen nhw wedi eu dal mewn cylch sy’n eu cadw’n ddifreintiedig – nid o ran cyfoeth fel y cyfryw, ond o ran gwybodaeth a’r posibiliad o wirioneddau gwahanol. Mae hwn yn bortread gonest sy’n cydio yn eich perfedd - o bobl a bywydau sy’n pendilio rhwng caethiwed a rhyddid.

      Mae agosrwydd y delweddau yma’n taflu goleuni ar y gwrthdrawiad rhwng y posibl a realiti’r sefyllfa, a’r enydau annelwig o obaith sy’n bodoli rhyngddynt. Mae atgofion hiraethus a hanesion am bethau’n mynd ar chwâl yn cydblethu’n gomedi arswydus.

      Mae’r gwaith yn adlewyrchu cymlethdodau bywyd a’r angen cynhenid i oroesi a cheisio ymdeimlad o berthyn a chariad, waeth beth fo’r gost. Mae’n dangos cymuned sydd wedi cael ei chlwyfo a’i gwthio drwy orfodaeth a dicter i ymylon cymdeithas, lle mae ei gwytnwch a’i phatrymau ymddygiad yn ddi-ildio yn wyneb storm o arferion gofal iechyd meddwl annoeth, trawma a diffyg newid systemig hirdymor.

      Mae cyd-ymddiried a chyd-ddealltwriaeth yn hollbwysig wrth rannu’r enydau hyn ym mywydau pobl. Dyw sefyll ar y cyrion ddim yn opsiwn.

      Continue reading

      Menywod Casnewydd

      Posted on September 06, 2021

      “Pan mae menywod yn cefnogi ei gilydd, mae pethau anhygoel yn digwydd: Arddangosfa ffotograffiaeth; ac yn sgil hynny, cymuned, sy’n dathlu a chysylltu menywod Casnewydd.”

      Nod Menywod Casnewydd (Women of Newport) yw dangos a dathlu menywod bendigedig ein dinas – eu llwyddiannau, angerdd, ymroddiad, a’r gwaith ysbrydoledig y maen nhw’n ei wneud - a hefyd, uno holl fenywod y ddinas. Mae’r arddangosfa yn anelu i greu cysylltiadau go iawn rhwng rhwydweithiau menywod yng Nghasnewydd, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd a helpu’n gilydd a chreu mentrau ar y cyd neu bartneriaethau newydd. Mae Menywod Casnewydd yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd pan mae menywod yn helpu menywod – achos weithiau, drwy weithio gyda’n gilydd fe allwn gyflawni cymaint mwy. Ers mis Gorffennaf mae Kamila yn cynnal cyfarfodydd misol lle mae croeso cynnes i bob menyw o Gasnewydd. Cynhelir y cyfarfodydd ddydd Sadwrn cyntaf bob mis yn Oriel Gelfyddydau Barnabas ym Mhilgwenlli.

      Continue reading

      Tin Works

      Posted on September 06, 2021

      Portreadau tunteip o weithiwr diwydiannol wedi’u llunio a’u creu ar y deunydd diwydiannol / domestig, tun.

      Lluniau o dirluniau diwydiannol a dynnwyd gyda chamerau pin wedi’u gwneud o ganiau tun.

      Chwyldro ym myd ffotograffiaeth gynnar sy’n asio deunydd ac ystyr, gan greu pentyrau simsan o ganiau/wynebau mewn tirlun metelaidd a grewyd gan yr artist.

      Mae’r Gwaith Tun olaf yn Ne Cymru wedi bod yn gweithio’n ddi-baid drwy gydol y pandemig i ateb y cynnydd anferth yn y galw am fwydydd mewn tuniau. Mae’r prosiect yma’n dilyn siwrne Hillary Powell i ganol y tirlun cymdeithasol-economaidd cyfoes hwn, ac i hanes diwydiannol/domestig tunplat. Cafodd y gwaith ei sbarduno gan linach deuluol yr artist o weithwyr tun Cymreig.

      Pan oedd yn fachgen yn y 1950au, byddai tad yr artist wedi gwylio’r prosesau ffotograffig a ddefnyddiwyd i farcio’r tun wrth greu deunydd pacio wedi’i frandio; ac fe welodd chwalu hen weithiau tun yr ardal hefyd; tra bu gor ewythr yr artist yn gyfrifol am ddyfeisio medrydd i fesur trwch tunplat. Drwy’r prosiect yma mae’r artist yn dilyn trywydd ei diddordeb byw yn holl alcemeg hanes y metelig a’r metelaidd, lle mae deunydd, cyd-destun a chysyniad yn toddi’n un, drwy adfywio hen dechnegau ffotograffiaeth tunteip i gofnodi tirlun cyfoes mewn cyfnod o drawsnewid.

      Caiff portreadau safle-benodol/deunydd-benodol eu dinoethi ar ganiau tun gan
      ddefnyddio proses plât gwlyb lle mae delwedd bositif yn cael ei chreu ar ddalen fetel lacrog wedi’i thaenu â hylif collodion arian sy’n sensitif i olau. Er bod caniau enwog Warhol yn gyfeirnod ar gyfer y delweddau/gwrthrychau a gafodd eu creu yma, mae yna gyfosodiad llwyr rhyngddynt hefyd. Os oedd ei ganiau ef yn cyfeirio at nwyddau, masgynhyrchu a gweithgynhyrchu, mae’r delweddau/gwrthrychau tun yma’n cyfeirio at y deunydd crai, hanes cymdeithasol a’r llafur - drwy gydweithrediad uniongyrchol gyda’r diwydiant, y gymuned sy’n gweithio yn y diwydiant, a’r deunydd crai y maent yn ei drin.

      Continue reading

      You Brought Your Own Light

      Posted on September 06, 2021

      Cafodd fy nghorff cyntaf o waith, “You Brought Your Own Light” ei arddangos yn haf 2018 dan nawdd yr Elusen Trawsrywedd Cenedlaethol (National Transgender Charity). Bellach, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Lloegr, mae’r gwaith wedi cael ei gyhoeddi ar ffurf cyfrol sy’n archwilio naratifau traws ac anneuaidd.

      Mae straeon am drawsffurfio yn fy nghyfareddu, yn enwedig straeon menywod. Rwy wrth fy modd yn tynnu ffotograffau o bobl yn eu harddegau, pobl traws, menywod sy’n goresgyn salwch neu’n dianc o briodasau treisgar. Nid y newidiadau corfforol yn unig sy’n dal fy nychymyg, ond y modd y mae ein bywydau mewnol ac emosiynol weithiau’n newid hefyd. Mae dehongli delwedd person yn weithred wleidyddol – ac mae hefyd, yn rhannol, yn hunan-bortread. Rwy’n cynrychioli menywod a dynion, yn archwilio eu naratifau a’u cydblethu gyda fy naratif fy hun. Pan fyddaf yn llunio stori am fenyweidd- dra, rwy’n byw’r stori honno; gyda gwrywdod rwy’n teimlo’n fwy fel gwyliwr. Mae’r bobl a welir yma’n rhannu dyhead i dyfu. Tyfu i fod yn nhw eu hunain – eu gwir hunain. Maen nhw’n cychwyn ar daith o drawsffurfio; mae pob un ohonynt ar bwynt gwahanol ar eu taith, ac felly nid yw naratif yr un ohonynt yn llinellol nac yn syml.

      Fe dynais eu ffotograffau yn fy nghartref gan ddefnyddio golau naturiol; yr unig gyfarwyddyd a roddais iddynt oedd: “Dangosa i fi sut ti’n teimlo – defnyddia dy gorff a dy lygaid.”

      Cynhyrchwyd y llyfr gan Alan Ward. Cafodd ei gyhoeddi gan Axis a’i ysgrifennu gan Olivia Fisher. Mae fy ail brosiect, ar drais yn y cartref, hefyd wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

      Continue reading

      Lions and Unicorns

      Posted on September 06, 2021

      Cyhoeddwyd y byddai Gŵyl Prydain yn 1951 yn ‘Donig i’r Genedl’ gydag addewid bod gwell dyfodol a gwell cymdeithas ar y gorwel agos – cymdeithas a fyddai’n fwy cyfiawn i bawb. Roedd hefyd yn sioe i arddangos dyfodol Prydain fel gwlad fodern wedi’i hymrwymo i syniadaeth o gynnydd gwyddonol a thechnolegol. Daeth Gŵyl Prydain yn symbol o gonsensws cymdeithasol wedi’r Ail Ryfel Byd a barodd tan yr 1970au. Cafodd etifeddiaeth adeileddol yr Ŵyl ei hadlewyrchu yn y gwaith cynllunio ac adeiladu eang a welwyd – yn enwedig o ran yr adeiladau cyhoeddus, ystadau tai cyhoeddus, trefi newydd a’r isadeiledd cymdeithasol sy’n gysylltiedig â chymdeithas ddemocrataidd-gymdeithasol fodern.

      Ond, yn ôl safonnau heddiw, roedd y ddelfryd Eingl-ganolog o genedligrwydd a hybwyd gan yr ‘Ŵyl’ yn golygu nad oedd llawer o le i unrhyw syniadau cyfochrog am hunaniaeth - ac eithrio ail-bwysleisio ystrydebau cenedlaethol a rhanbarthol. Prin oedd y sôn am gymlethdodau trefedigaethol enbyd o ddinistriol Prydain ychwaith. Yn ogystal, methwyd rhagweld effeithiau dinistriol cymhwyso gwyddoniaeth a thechnoleg, yn enwedig o ran datblygu arfau niwclear a’r prosesau a deunyddiau sy’n achosi’r llygredd sydd wedi esgor ar argyfwng yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.

      Yn naturiol, mae mwy nag un wedd ar hanes yr Ŵyl a mwy nag un stori i’w hadrodd. Mae prosiect ‘Lions and Unicorns’ yn defnyddio dull aml-gyfrwng sy’n cwmpasu cydadwaith rhwng elfennau gweledol a thestunol i geisio bwrw golau ar wrthgyferbyniadau cynhenid llwybr Prydain wedi’r Ail Ryfel Byd; ac wrth nodi 70 mlynedd ers cynnal Gŵyl Prydain, mae’n gyfle hefyd i ail-werthuso’r cyfnod yma yn hanes diweddar Cymru.

      Ystâd Gaer.

      Yn 1951, yng Ngŵyl Prydain, rhoddwyd gwobr gynllunio a phensaernïaeth i ystâd o dai cyngor oedd ar ororau Casnewydd yn Sir Fynwy a gerllaw caer o’r Oes Haearn. Roedd strydoedd yr ystâd a enillodd y wobr, Ystâd Gaer, wedi eu henwi ar ôl awduron Saesneg enwog, yn cynnwys Shakespeare, Byron, Shelley a Kipling. Er nad oedd rhaid enwi’r strydoedd fel hyn ar gyfer ennill y wobr, roedd hyn yn ddiarwybod yn adlewyrchu un o ddaliadau sylfaenol yr Ŵyl; dathlu gweledigaeth o’r dyfodol oedd yn cynnwys cysylltiad dwfn â thir Prydain a hanes a diwylliant y tir hwnnw. Cafodd y syniad rhamantus a bron yn fytholegol o genedligrwydd ei greu pan gyfunwyd elfennau diwylliannol – yn amrywio o’r pictwrésg i foderniaeth Bauhaus, methodistiaeth a sosialaeth iwtopaidd – ac y cawsent eu tymheru gan yr angen i wynebu realiti materol y cyfnod yn dilyn y rhyfel. Ond, cafodd y consensws cymdeithasol a barhaodd hyd yr 1907au a oedd wedi gosod yr hawl i gael tŷ digonol wrth wraidd rhaglennu cymdeithasol ei ddisodli gan bolisi ‘Hawl i Brynu’ yr 1980au.

      Adeiladwyd Ystâd Gaer ar ffermdir oedd yn edrych allan dros Fôr Hafren a chafodd ei phrynu gan Gyngor Tref Casnewydd o ganlyniad i Ddeddf Tai 1946. Roedd yr ystâd a’r ysgol gynradd a ddyluniwyd gan bensaer bwrdeistref Casnewydd, Johnson Blakett, gan ddilyn egwyddorion cymdogaeth cynllunio trefol, yn un o ddim ond 19 gwobr a gyflwynwyd gan yr Ŵyl ledled Prydain. Mae plac cofaol i’w weld hyd heddiw ar flaen 1 Vanbrugh Gardens.

      HMS Campania


      Roedd Gŵyl Prydain 1951 yn arddangosiad oedd ag estyniad cenedlaethol go iawn. Er bod prif safle’r ŵyl ar lannau deheuol yr Afon Tafwys yn Llundain, cafodd llu o ddigwyddiadau swyddogol ac answyddogol eu dathlu drwy gydol misoedd hwyr y gwanwyn a misoedd yr haf ymhob twll a chornel o’r wlad. Roedd HMS Campania yn llong awyrennau o’r ail ryfel byd a gafodd ei haddasu i ddal fersiwn llai o brif atyniadau Llundain, ac ymwelodd â nifer o ddinasoedd a threfi porthladd yn cynnwys Caerdydd. Roedd wedi ei pheintio’n gwbl wyn ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda’r geiriau “Festival of Britain” yn addurno ei hystlys. O fewn y llong roedd esiamplau niferus o eiconograffi atomig, dyluniadau a gwybodaeth a ddefnyddiwyd yn eang drwy gydol yr Ŵyl ac a fu o gymorth i gyfreithloni’r weledigaeth ddomestig o ddyfodol Prydain wedi’i bweru gan ffrwyth yr ymchwil atomig.

      Yn fuan wedi i’r Ŵyl ddod i ben, cafodd Campania ei hailgomisiynu gan y Llynges Frenhinol a daeth yn llong reolaeth ar gyfer y prawf bom atomig cyntaf gan Brydain a ddigwyddodd yn Ynysoedd Monte Bello, wrth arfordir gogledd-orllewinol Awstralia, ar 3 Hydref 1952. O ystyried enw cod y prawf, Operation Hurricane, ei ddiben oedd asesu’r effaith y gallai bom atomig ei gael ar Borthladd Llundain a chanfod a allai Prydain adeiladu bom yn annibynnol.

      Roedd bom atomig Prydeinig yn ei le’n barod at ddefnydd milwrol yn 1953.

      Continue reading