See Differently
Royal National Institute of Blind People, Sight Life, Andy Busbridge-King, Emma Juliet Lawton
Mae RNIB Cymru a Sight Life wedi ymuno â Ffotogallery ar gyfer prosiect o’r enw See Differently i roi llwyfan i ffotograffwyr Dall a Rhannol Ddall o Gymru i arddangos eu gwaith yng ngŵyl Diffusion ym mis Hydref.
Mae’r artistiaid sy’n cyflwyno gwaith yn yr arddangosfa yma’n dioddef o amryw o gyflyrau sy’n amharu ar eu golwg, fel glawcoma, dirywiad y maciwla, cataractau, hemianopia homonymous eang, colli golwg ymylol a nystagmus. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan: Andy Busbridge-King, Ian Burgess, Emma Juliet Lawton, Des Radcliffe, Elisa Ip, (Henry) Tony Morgan, John Sanders, Paul Jenkinson, Tracy Smedley, Katarzyna Jakimczuk, Jake Sawyer, Rachel Jones ac Alan Cains.
Bydd RNIB Cymru hefyd yn cyflwyno detholiad o’r ffotograffau ar-lein drwy gydol mis Hydref – i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol os dymunwch.
Proffil Artistiaid
Sight Life
text
Andy Busbridge-King
Fy enw yw Andy Busbridge-King, a chlywais bod gen i Glawcoma yn 2006 pan oeddwn i’n 49 oed. Yn 2010 cefais fy nghofrestru’n Ddall. Er mod i wedi cymryd cyfnod hir i ddod i delerau â’r anabledd sydd gen i, a’r teimlad na fydda i byth yn gallu mwynhau Ffotograffiaeth eto, newidiodd fy mywyd yn enfawr yn 2017 pan gwrddais â Michelle Jones o Sight Life yng Nghaerdydd. Clywodd hi’n fuan iawn am fy nghariad at ffotograffiaeth a chefais fy ysbrydoli ganddi i ymuno â’u Grŵp Ffotograffiaeth. Fyddwn i erioed wedi dychmygu cymaint y gallai’r cyfarfod hwnnw newid fy mywyd. Ers i mi gychwyn gyda’r Grŵp Ffotograffiaeth, a redir gan Jeff
Goodwin, mae wedi rhoi rhywfaint o’m hunan-hyder yn ôl i mi, ac mae fy sgiliau ffotograffiaeth wedi gwella’n fawr. Yn ddiweddar clywais am Ffotograffiaeth Facro, y gallaf ei gwneud gartref, ac rwy’n mwyhau bod yn greadigol drwy dynnu unrhyw luniau sy’n ymwneud â dŵr, yn enwedig Diferion Dŵr yn Tasgu.
Emma Juliet Lawton
Rwy’n artist amlgyfrwng gweledol yn gweithio o stiwdio yng Nghymru ers 1998. Mae fy ngwaith wedi ei ddylanwadu’n fawr gan dirwedd ddaearyddol arfordir De Morgannwg, sef cartref teulu fy mam ers cenedlaethau. Ers fy mhlentyndod cynnar datblygais berthynas archwiliol agos gyda lle drwy ymgysylltu’n gyffyrddol â’r dirwedd arfordirol hynafol ac eto barhaol-newidiol hon, ei strwythurau materol sy’n fawreddog ond eto’n beryglus o ansefydlog, a’r haenau o waddodion a gweadau sy’n cysylltu â’m hunaniaeth fy hun a’m corff ffisegol newidiol. Gyda fy ngwaith Earth Skin a Blue Lace (Lias’), roedd fy mhroses o grafu i ffwrdd ac ychwanegu at fy nelwedd ffotograffig y trefnais i gael ei argraffu ar y cynfas yn adlewyrchu effeithiau di-dor cylchoedd natur ar y dirwedd, ond hefyd y ffordd yr ydym yn trin a phrofi ein cyrff ein hunain a’r blaned ddaear ei hun. Yn methu eiwahanu ac yn gyd-ddibynnol. Microcosm o’r macrocosm.