Prosiect

Gwenyn (a rhywogaethau eraill)

The Ink Collective, Anne-Marie Briscombe, Anna Sellen, Nat Wilkins, Lucy Saggers, Kate Oakes, Ismail Khokon


Mae ‘pwyntiau di-droi’n-ôl’ yn enydau critigol mewn system ecolegol neu gymdeithasol. Y tu hwnt i’r pwyntiau hyn, mae newidiadau arwyddocaol yn digwydd nad oes modd eu hatal yn aml iawn. Er bod newidiadau graddol yn gallu bod yn anodd eu gweld, mae rhywogaethau dynodol fel y Gwenyn (a rhywogaethau eraill) yn gweithredu fel baromedrau amgylcheddol, yn datgelu newidiadau yn iechyd y byd naturiol. Mae gwenyn (a rhywogaethau eraill) yn hanfodol hefyd fel peillwyr, yn cynnal ecosystemau’r Ddaear, y fioamrywiaeth a’r amaethyddiaeth sy’n cynnal y ddynoliaeth. Eto mae nifer y gwenyn yn gostwng yn ddramatig: drwy’r byd i gyd mae traean o’r rhywogaethau gwenyn gwyllt yn dirywio, ac ym Mhrydain mae 97% o’r dolydd blodau gwyllt wedi mynd.

Mae ffotograffwyr Ink yn archwilio gwahanol agweddau o gysylltiadau’r ddynoliaeth gyda’r gwenyn (a rhywogaethau eraill) a pha mor ddibynnol yw’r hil ddynol arnyn nhw. Mae gwaith y grŵp hwn yn cynnwys Gwenyn (a rhywogaethau eraill) a’u gallu i’n hail gysylltu ni â natur a gyda’n gilydd; i gyfrannu i’n hiechyd a’n lles; fel erfyn alegorïaidd sy’n adlewyrchu cymdeithas ddynol; i ddynodi iechyd cynefinoedd y dolydd; i amlygu cofnodwyr data biolegol ac i archwilio ein dibyniaeth ar beillwyr ar gyfer un ymhob tri llond ceg o fwyd a gawn. Trwy gyfrwng y prosiect grŵp ffotograffig hwn, mae Ink yn archwilio materion sy’n cynnwys gwerth natur mewn lleoliadau trefol, colli cynefinoedd, ein dibyniaeth ar wenyn i gynhyrchu bwyd a phwysigrwydd gwaith cadwraethwyr.

Gan gyflwyno eu gwaith mewn cyfresi ffotograffig, sain a lluniau symudol, mae Ink yn cwestiynnu’r ‘pwynt di-droi’n-ôl’ posibl y mae’r ddynoliaeth wedi’i gyrraedd o fewn y byd naturiol bregus, yn ystyried gwersi y gallwn eu dysgu gan ein sefyllfa ansicr bresennol ac yn ystyried y cyfleoedd i weithredu yn awr.

Proffil Artistiaid

Portread o The Ink Collective

The Ink Collective

Mae Ink yn gydweithfa o chwe ffotograffydd cynyddol amlwg sydd wedi eu seilio ledled y DU. Mae’r aelodau Anna Sellen, Anne-Marie Briscombe, Ismail Khokon, Kate Oakes, Lucy Saggers a Nat Wilkins wedi eu huno gan eu diddordebau tebyg a’u penderfynoldeb i weithio ynghyd i gynhyrchu gwaith cryfach, mwy cyfoethog a mwy ystyrlon.

Gyda’u harbenigedd mewn ffotograffiaeth, cadwraeth, seicoleg, cadw gwenyn a’r celfyddydau, mae Ink yn archwilio ymateb unigol pob aelod i themâu cyffredin. O’n safbwyntiau manteisiol unigryw – o’r gogledd i’r de, o’r gwledig i’r trefol, rydym yn defnyddio gwahanol ddiwylliannau a hunaniaethau. Ar ôl ffurfio mewn cyfnod ansicr, yn ystod y pandemig Covid, drwy raglen Lightbox 2021 Redeye, mae’n bleser gan aelodau Ink lansio eu prosiect cychwynnol ‘Bees and other species’ yng Ngŵyl Diffusion 2021.

Portread o Anne-Marie Briscombe

Anne-Marie Briscombe

Mae Anne-Marie Briscombe yn ffotograffydd dogfennol wedi ei seilio yn Llundain sy’n hanu’n wreiddiol o Dde Cymru. Astudiodd Seicoleg ac yn ddiweddarach cwblhaodd MA mewn Ffoto-newyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol yn y London College of Communication. Mae’r ddwy ddisgyblaeth hyn yn hysbysu arferion Anne-Marie ac, ar hyn o bryd, mae hi’n archwilio’r rôl y mae prosiectau cymunedol yn ei chwarae mewn iechyd meddwl a lles. Mae Anne-Marie yn mwynhau creu prosiectau tymor hir, wedi eu canolbwyntio ar bortreadau. Mae ganddi ddiddordeb mewn gwylio’r ffordd yr ydym yn llywio drwy fyd sy’n mynd yn gynyddol gymhleth. Mae hi’n defnyddio ei phrofiad personol i wneud cysylltiadau â phobl ac mae hi’n creu darluniau naturiol o bobl a lleoedd. Eleni, mae Anne-Marie wedi bod yn gweithio ar brosiect ymgysylltu â’r gymuned sy’n ymwneud â Covid ar gyfer elusen iechyd meddwl, sy’n arddangos yr Hydref hwn. Mae Anne-Marie wedi ei throchi ei hun mewn dull cydweithio newydd fel aelod o’r gydweithfa Ink a ffurfiwyd yn ddiweddar.

Portread o Anna Sellen

Anna Sellen

Mae Anna Sellen yn ffotograffydd sy’n canolbwyntio ei lens ar bobl a lleoedd sy’n mynd drwy weddnewidiad a newid. Daw Anna yn wreiddiol o Ddwyrain eithaf Rwsia ac mae hi’n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd rhwng Arfordir Gorllewinol Cymru a Chaergrawnt. Mae ei gwaith yn ymateb i bynciau mor amrywiol â’r amgylchedd ffisegol, hunaniaeth a chof. Mae gweddnewidiad yn parhau’n edau gyffredin sy’n clymu ynghyd yr amrywiaeth hon o fewn ei gwaith. Mae agwedd Anna yn un amlgyfrwng ac yn aml yn cynnwys sain, testun, lluniau symudol a lluniau llonydd.

Fel artist preswyl yn Kelvedon Hatch Cold War Bunker (2020-2021), mae Anna yn defnyddio archifau ei theulu a’r byncer i archwilio atgofion personol ac ar y cyd o’r Rhyfel Oer. Enillodd ei gwaith “Bunker Diaries” Wobr Portffolio Shutter Hub yn FORMAT 2021.

Portread o Nat Wilkins

Nat Wilkins

Wilkins yn ffotograffydd portreadau a dogfennol sydd wedi ei seilio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar y prosiect sydd wedi ei ariannu gan y Cyngor Celfyddydau, Absent Presence, sy’n archwilio tadolaeth. Mae ei waith hefyd yn cynnwys archwiliadau o gefnfröydd gwledig, diwylliant amaethyddiaeth yr ucheldir ac hefyd faterion amgylcheddol ehangach. Trwy ystyried ffotograffiaeth yn symud ac yn llonydd fel dulliau naturiol o rymus wrth blethu hanesion, mae’n chwarae ag elfennau o’r ddau i gyflwyno gwaith mewn ffyrdd newydd ac arloesol drwy arddangos a chyhoeddi. Mae’n ystyried cydweithio fel elfen hanfodol o’i arferion creadigol, am ei fod yn aelod gweithredol o Wideyed ac hefyd gydweithfa ffotograffau Ink, lle mae’n aelod gwreiddiol.

Mae hefyd yn manteisio ar ei yrfa flaenorol mewn rheoli cadwraeth natur wrth gynhyrchu a darparu prosiectau cyfranogi creadigol sy’n mabwysiadu ffotograffiaeth a ffilm i ddehongli treftadaeth naturiol a diwylliannol.


Portread o Lucy Saggers

Lucy Saggers

Mae Lucy Saggers yn ffotograffydd dogfennol sy’n arbennig o hoff o straeon am y cysylltiad rhwng pobl a’u tirwedd. Mae ganddi ddiddordeb yn yr argraff a adawn ni ar ein gilydd, ar y tir, ac yn eu tro ar y marciau y gallai lle eu gadael arnom ni. Mae Lucy yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth ac ymddiriedaeth gyda’i chyfranogwyr i ganiatáu dilysrwydd naturiol yn y portreadau amgylcheddol y mae hi’n eu creu. Gan fod mor anymwthiol ag y gall, mae Lucy yn defnyddio camera llaw a’r golau sydd ar gael, gan ddefnyddio technegau i ymestyn i mewn i gysgodau’r byd naturiol neu fannau amaethyddol a domestig tywyll dan do. Mae ei phrosiect tymor hir, Ford of the Sorrel, yn ymwneud â’r pentref lle mae hi’n byw, Ampleforth yng Ngogledd Swydd Efrog, a bydd yn cael ei gyhoeddi gan Bluecoat Press yn Hydref 2021. O’i stiwdio gartref, mae Lucy yn cynhyrchu printiau cyhoeddiad cyfyngedig ar bapur celf trwm o gotwm cain sy’n rhoi ansawdd atgofus ac uniongyrchedd gonest i’w gwaith.

Portread o Kate Oakes

Kate Oakes

Mae Kate Oakes yn artist anabl sydd wedi ei seilio ym Manceinion ar hyn o bryd. Graddiodd yn ddiweddar mewn ffotograffiaeth ac mae hi’n datblygu ei gwaith drwy raglen Ysgoloriaeth i Raddedigion Prifysgol Salford. Yn ystod y flwyddyn ysgoloriaeth hon, ac yn ystod Covid, dechreuodd weld a dadansoddi mathau micro-ymosodgar o wahaniaethu yn erbyn pobl gydag anableddau, ac ynysu ‘yr arall’, sy’n rheoli ein cymdeithas ar hyn o bryd.

Yn ei gwaith mae hi’n archwilio sut mae creadigedd yn gallu ehangu’r ffordd rydyn ni’n gweld bywyd a’r byd lle’r ydym yn byw. Mae ffocws ei gwaith ar ymchwil, yn cynnwys y syniad “Rwyt ti’n ymgorfforiad o’r hyn rwyt ti’n ei gymryd i mewn”, sy’n edrych ar y berthynas rhwng iaith, niferoedd, a diabetes math un. Mewn geiriau eraill, mae hi’n cwestiynnu’r syniadau o wahanu a choncro drwy ddull cyfryngau cymysg, mae hi’n plethu ei chanfyddiadau gyda’i harchwiliad o wynebau niferus iaith sy’n dylanwadu’n gryf ar ein perthynas ag eraill, ein hamgylchedd a’n holl gyd-drigolion.

Portread o Ismail Khokon

Ismail Khokon

Cafodd Ismail Khokon ei eni yn Bangladesh, lle mae trais gwleidyddol ac anghyfiawnder cymdeithasol eang. Daeth i Loegr yn ifanc ac mae wedi datblygu ei arferion mewn gwrthwynebiad i brofiadau cynnar o orthrwm, gan ganolbwyntio ar archwilio mynegiant creadigol, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddaeth. Gan ddefnyddio’r cyfrwng sydd wedi ei addasu orau i brosiect, neu linell ymholiad, mae’n gweithio mewn ffotograffiaeth, peintio, cerflunio a gosodwaith i dynnu sylw at brofiadau’r rheiny sydd wedi cael eu hymyleiddio’n systematig. Yn 2020/21 cychwynnodd Ismail ei waith ‘Covid 19 and Creativity’ sef prosiect ffotograffig, ar sail testun ac yn ymgysylltu’n gymdeithasol i archwilio sut mae dychymyg yn gallu gorchfygu cyfyngiadau, gyda ffocws ar unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn Nottingham.

Mae Ismail yn Artist Cyswllt yn New Art Exchange, Nottingham, lle mae’n datblygu ac yn darparu eu Clybiau Celf ar ôl Ysgol yn bennaf i ymfudwyr ifanc. Mae’n helpu’r cyfranogwyr i archwilio eu treftadaeth ddiwylliannol neu eu gwreiddiau a’u dyfodol. Ym mis Medi 2021, darparodd ‘Gwella drwy Undod’, yn rhan o ŵyl Mela Nottingham.