Arddangosfa / 21 Ion 2025

Menywod Casnewydd

Kamila Jarczak

“Pan mae menywod yn cefnogi ei gilydd, mae pethau anhygoel yn digwydd: Arddangosfa ffotograffiaeth; ac yn sgil hynny, cymuned, sy’n dathlu a chysylltu menywod Casnewydd.”

Nod Menywod Casnewydd (Women of Newport) yw dangos a dathlu menywod bendigedig ein dinas – eu llwyddiannau, angerdd, ymroddiad, a’r gwaith ysbrydoledig y maen nhw’n ei wneud - a hefyd, uno holl fenywod y ddinas. Mae’r arddangosfa yn anelu i greu cysylltiadau go iawn rhwng rhwydweithiau menywod yng Nghasnewydd, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd a helpu’n gilydd a chreu mentrau ar y cyd neu bartneriaethau newydd. Mae Menywod Casnewydd yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd pan mae menywod yn helpu menywod – achos weithiau, drwy weithio gyda’n gilydd fe allwn gyflawni cymaint mwy. Ers mis Gorffennaf mae Kamila yn cynnal cyfarfodydd misol lle mae croeso cynnes i bob menyw o Gasnewydd. Cynhelir y cyfarfodydd ddydd Sadwrn cyntaf bob mis yn Oriel Gelfyddydau Barnabas ym Mhilgwenlli.

Proffil Artist

Portread o Kamila Jarczak

Kamila Jarczak

Daw Kamila Jarczak o Wlad Pwyl yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng
Nghasnewydd ers 2017. Fe ddysgodd ffotograffiaeth ar ei liwt ei hun, ac mae wedi bod yn ffotograffydd proffesiynol ers 2018. Pobl yw prif ysbrydoliaeth ei gwaith. Er ei bod yn gallu addasu ei thechneg i amrywiaeth o destunnau, mae’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, portreadau a phrosiectau cymunedol yn bennaf. Bu’n gweithio’n barhaus ar brosiect gyda Marchnad Casnewydd am fisoedd lawer, gan dynnu ffotograffau o fywyd bob dydd yno – yr ymwelwyr a’r masnachwyr. Yn ogystal, mae wedi cymryd rhan mewn prosiectau’n dathlu ffeministiaeth yng Nghasnewydd wedi’r Ail Ryfel Byd, Gwyliau Gwrthryfel Casnewydd, a mwy. Dechreuodd Kamila ei phrosiect, ‘Menywod Casnewydd’ (Women of Newport) yn 2019. Mae testunau’r gwaith yn cynnwys: menywod ym myd celf, meddyliau creadigol, ysgrifenwyr, arweinwyr busnes, pobl sy’n gwneud gwahaniaeth, cerddorion a llawer mwy. Ei nod yw parhau i ddatblygu ei sgiliau proffesiynol a dal i fanteisio ar gyfleoedd i weithio ar arddangosfeydd a phrosiectau newydd, gan archwilio testunau fel materion iechyd meddwl yn ogystal â datblygu platfform ‘Menywod Casnewydd’ a’r prosiect cysylltiedig, ‘Pobl Casnewydd’ (People of Newport).