Prosiect

Pop-up Portrait Studio Exhibition

Rhys Webber, Mohamed Fez Miah

Ym mis Medi 2021, cynhaliodd Ffotogallery ddau sesiwn dros dro i dynnu lluniau portread am ddim yng nghanol Pilgwenlli yng Nghasnewydd. Man Perfformio Phyllis Maud oedd ein stiwdio ffotograffig, a gosodwyd goleuadau a chefnluniau yn arbennig i aelodau’r cyhoedd gael tynnu eu lluniau gan un o’n ffotograffwyr proffesiynol (sydd hefyd wedi eu seilio yng Nghasnewydd) Rhys Webber a Fez Miah. Mae’r lluniau a dynnwyd yn adlewyrchu’r amrywiaeth ddiwylliannol ymysg
trigolion Pilgwenlli ac maen nhw’n dathlu profiadau unigol ac ar y cyd y bobl hyn ac yn dangos y cynhesrwydd a’r cyfeillgarwch a ddangoswyd i ni gan bawb a ddaeth yn fodelau i ni. Treuliodd Rhys a Fez amser yn dod i adnabod y bobl fyddai yn eu lluniau ac mae’r berthynas newydd rhwng y ffotograffwyr a phynciau’r lluniau’n glir yn wynebau pobl ragorol Pill.

Cyn hyn, roedd Man Perfformio Phyllis Maud yn doiled a adeiladwyd i ddynion yn unig ym mlynyddoedd hwyr yr 1800au, ac yna bu’r adeilad rhestredig graddfa II hwn yn gwasanaethu gweithwyr y rheilffordd (roedd rheilffyrdd y tu ôl i Phyllis Maud) a docwyr Casnewydd. Pan aeth yn adfeilion a dechreuodd fod yn beryglus, rhoddwyd bywyd newydd i’r perl hwn gan ei berchennog presennol, Janet Martin. Y gobaith yw y bydd yn sefyll yn falch am gyfnod hir i ddod er anrhydedd i’r ddiweddar Phyllis Maud Neels, ac yn rhoi pleser i bobl Casnewydd a thu hwnt.

Proffil Artistiaid

Portread o Rhys Webber

Rhys Webber

Fe dyfodd Rhys i fyny yng Nghasnewydd gan dreulio’i ieuenctid yn tynnu ffotograffau o’i ffrindiau, a gwario’i arian poced ar ffilm, papur a chemegau. Ar ôl ennill gradd mewn Ffotograffiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol Westminster, bu’n dilyn dau lwybr gyrfa – yn gweithio’n llawrydd ym maes dylunio a ffotograffiaeth a dysgu mewn colegau a phrifysgolion yn Llundain.

Dychwelodd i Gasnewydd yn 2004 gan sefydlu cwmni Webber Design a Webber Photo – yn gwneud gwaith i gleientiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a thynnu ffotograffau o unrhyw beth y byddai’r cleientiaid yn ei dalu i wneud (heblaw priodasau).

Yn 2009, dechreuodd Rhys ar ei brosiect hirdymor, ‘Newportraits’. Nod y prosiect oedd dogfennu holl amrywiaeth bendigedig pobl Casnewydd. Ar y pryd, roedd Casnewydd yn teimlo fel dinas ‘ddirwasgedig’, ‘isel ei hysbryd’ a oedd yn barod iawn i gredu’r sylw anffafriol a roddwyd iddi yn y wasg. Dechreuodd Rhys y prosiect fel ffordd o fwrw golau cadarnhaol ar drigolion y ddinas...a dangos y gymuned fel y mae ef yn ei gweld hi, a holl botensial y bobl sy’n byw yno.

Tynnwyd y rhan fwyaf o’r portreadau mewn digwyddiadau fel Gŵyl Maendy a’r Sblash Mawr, lle estynodd Rhys wahoddiad agored i bawb gael tynnu eu llun – tynnodd bron i 100 o bortreadau ym mhob sesiwn. Cafodd llawer o’r portreadau yma eu tynnu ym Maendy, un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghasnewydd – lle mae aelodau cymuned yr ysgol gynradd leol yn siarad 30 o wahanol ieithoedd fel ieithoedd cyntaf. Yn anad dim, mae Rhys yn gwerthfawrogi’r cyfle i feithrin cysylltiad gyda’r bobl y mae’n tynnu eu ffotograffau – pwy bynnag ydynt ac o ba le bynnag y maent yn dod – ac mae hynny’n disgleirio drwy’i waith.

Portread o Mohamed Fez Miah

Mohamed Fez Miah

Graddiodd Mohamad Fez Miah, crëwr Ffotomarathon Casnewydd ac addysgwr ymarfer yn y cyfryngau newydd mewn sawl prifysgol a sefydliad, o’r rhaglen Ffotograffiaeth Ddogfennol wreiddiol. Heddiw mae’n rhedeg asiantaeth celfyddydau ieuenctid, Urban Circle, yn ogystal â stiwdio bortreadau a delweddau cynnyrch ym Maendy, Casnewydd. Llythrennedd digidol creadigol a mynediad yw’r pynciau ymchwil ac ymarfer diweddaraf, ac mae’r rhain yn goleuo prosiectau newydd yn Ne Cymru a Lloegr.