Area Boys
Tom Sateer
Yn Lagos, sef dinas enfawr Gorllewin Affrica a phrifddinas fasnachol Nigeria, mae ‘bechgyn bro’ yn ymadrodd sy’n gyfystyr ag arswyd dinesig. Mae’r rhain yn fechgyn o fro benodol sydd wedi eu trefnu’n rhwydwaith goroesi. Does ganddyn nhw ddim ffyddlondeb i unrhyw ideoleg neu gred, dim ond i’w lleoliad a’r dynion ifanc y maen nhw’n cyd-fyw â nhw. Mae llawer ohonyn nhw’n amddifad neu wedi eu gwrthod gan eu teuluoedd ar ôl iddyn nhw ymuno â’r bechgyn bro neu gyflawni trosedd a ddaeth â gwarth i’w teuluoedd. Mae eraill yn gwneud dim byd mwy na cheisio byw o ddydd i ddydd. Gan fwyaf, maen nhw’n cysgu yn y strydoedd neu mewn llochesi dros dro. Mae eu rheolwyr a’r dynion mawr yn byw mewn tenementau a elwir yn ‘ti’n wynebu fi, fi’n wynebu ti’ am fod gan eu rhesi o ystafelloedd hirsgwar bychan ddrysau’n wynebu ei gilydd.
Mae’r bechgyn i’w cael ymhob man yn y ddinas – yn ysmygu’r mwg drwg o dan y trosffyrdd, yn gorweddian ar ymylon y marchnadoedd, yn ceisio twyllo pobl am ychydig o arian ym marchnadoedd enfawr Lagos Island. O bell maen nhw’n edrych yn fygythiol, o’u gweld yn agos maen nhw’n gallu bod yn arswydus.
Cyn i mi gychwyn y prosiect hwn, ymosododd rhai o’r bechgyn bro arnaf wrth i mi dynnu lluniau o bont briffordd yn Lagos un noson. Roeddwn i eisiau deall fy ymosodwyr, a’r anobaith sy’n tanio eu trais, felly cychwynais ar brosiect parhaus i edrych yn agosach ar yr unigolion sy’n byw ac yn parhau myth y ‘bechgyn bro’. Rwy’n gobeithio bod fy mhortreadau manwl yn dangos y dynion hyn fel pobl go iawn, yn hytrach na’r ddelwedd lawer rhy syml ohonyn nhw fel bygythiad dinesig sydd i’w chael yn aml iawn. Trwy dreulio amser gyda’r bechgyn bro a thynnu eu lluniau yn y ffordd y maen nhw’n eu gweld eu hunain, rwy’n archwilio’r gwirionedd a’r mythau am gangsters Lagos.
Proffil Artist
Tom Sateer
Mae Tom Saater yn ffotograffydd dogfennu/Ffoto-newyddiadurwr, gwneuthurwr ffilmiau dogfennol byr ac yn gynhyrchydd podlediadau, a ddaw o Nigeria. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol cyfoes, ar ddyngarwch, ar fewnfudo, ac ar yr economi. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol, gan gynnwys yng ngŵyl eilflwydd Fenis, Prifysgol Rhydychen, Amgueddfa Celfyddyd Fodern Louisiana Denmarc, yn rhan o arddangosfeydd teithiol Everyday Africa ar draws y byd ac yn yr Ŵyl LOOK3 a’r Ŵyl Addis Foto, Lagos Photo, ymysg eraill. Mae wedi gweithio i werthwyr a sefydliadau’r cyfryngau rhyngwladol, yn cynnwys The Economist, Google, Washington Post, New York Times, TIME, Zeit Germany, Ysgrifenyddiaeth Wladol dros Fewnfudo y Swistir, Huffington Post, Financial Times, Lufthansa, The Telegraph UK, Japan Times, Bloomberg, BBC, Human Rights Watch, Mercedes Benz, IFC, UNHCR, WFP, UN/OCHA, Oxfam, Catalyst for Peace, Canon Europe, Big Dutchman Germany, y Pwyllgor Achub Rhyngwladol, Mercy corps ac ati. Yn 2018, cafodd ei wahodd i hwyluso gweithdy ffotograffiaeth adrodd stori yng Ngŵyl Ffotograffiaeth Contact yn Toronto, a sgwrsio am ei waith yn Bronx Documentary Centre yn Efrog Newydd. Mae’n aelod ac yn gyfrannwr i’r casgliad ffotograffau Everyday Africa.