Arddangosfa / 1 Hyd – 30 Medi 2021

You Brought Your Own Light

Allie Crewe

Cafodd fy nghorff cyntaf o waith, “You Brought Your Own Light” ei arddangos yn haf 2018 dan nawdd yr Elusen Trawsrywedd Cenedlaethol (National Transgender Charity). Bellach, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Lloegr, mae’r gwaith wedi cael ei gyhoeddi ar ffurf cyfrol sy’n archwilio naratifau traws ac anneuaidd.

Mae straeon am drawsffurfio yn fy nghyfareddu, yn enwedig straeon menywod. Rwy wrth fy modd yn tynnu ffotograffau o bobl yn eu harddegau, pobl traws, menywod sy’n goresgyn salwch neu’n dianc o briodasau treisgar. Nid y newidiadau corfforol yn unig sy’n dal fy nychymyg, ond y modd y mae ein bywydau mewnol ac emosiynol weithiau’n newid hefyd. Mae dehongli delwedd person yn weithred wleidyddol – ac mae hefyd, yn rhannol, yn hunan-bortread. Rwy’n cynrychioli menywod a dynion, yn archwilio eu naratifau a’u cydblethu gyda fy naratif fy hun. Pan fyddaf yn llunio stori am fenyweidd- dra, rwy’n byw’r stori honno; gyda gwrywdod rwy’n teimlo’n fwy fel gwyliwr. Mae’r bobl a welir yma’n rhannu dyhead i dyfu. Tyfu i fod yn nhw eu hunain – eu gwir hunain. Maen nhw’n cychwyn ar daith o drawsffurfio; mae pob un ohonynt ar bwynt gwahanol ar eu taith, ac felly nid yw naratif yr un ohonynt yn llinellol nac yn syml.

Fe dynais eu ffotograffau yn fy nghartref gan ddefnyddio golau naturiol; yr unig gyfarwyddyd a roddais iddynt oedd: “Dangosa i fi sut ti’n teimlo – defnyddia dy gorff a dy lygaid.”

Cynhyrchwyd y llyfr gan Alan Ward. Cafodd ei gyhoeddi gan Axis a’i ysgrifennu gan Olivia Fisher. Mae fy ail brosiect, ar drais yn y cartref, hefyd wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Proffil Artist

Portread o Allie Crewe

Allie Crewe

Rwy’n cael fy nghymell i bortreadu pobl sy’n dyheu am drawsffurfiad; rydw i wedi bod yn y lle hwnnw fy hun. Rwy’n chwilio am naratifau am oroesi a gwytnwch. Rwy’n archwilio straeon pobl sy’n dewis tyfu. Rwy’n teimlo angen i herio rhagdybiaethau am ddiffiniad rhyw a’r modd y mae rhyw yn cael ei lunio yn ogystal â rhagdybiaethau am ymddygiad ar sail rhyw. Rwy’n cael fy nenu gan y bregusrwydd achos mae yno harddwch tyner. Dylai portread dreiddio drwy’r arwyneb os yw am fod yn deimladwy.

Mae fy null yn seiliedig ar ymchwil, ac rwy’n edrych i ymdrochi fy hun yn llwyr, a chwilio am gyfleoedd i weithio ar brosiectau estynedig lle rwy’n gallu gweithio gyda grwpiau o’r tu mewn. Gwrando yw’r allwedd; gwrando ac ennill ymddiriedaeth. Rwy’n gweithio’n ddigidol neu gyda ffilm gan wahodd cyfranogwyr i ysgrifennu eu straeon a chydweithio gyda fi ar sut y maent yn cael eu cynrychioli.

Enillais wobr BJP Portrait of Britain yn 2019; rwyf wedi arddangos fy nghorff cyntaf o waith; a chefais nawdd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i greu llyfr.

Rwyf wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr hefyd i greu fy nghasgliad diweddaraf o bortreadau. Mae’r gwaith yn archwilio trais yn y cartref ar gyfer elusen genedlaethol SafeLives, lle’r rwy’n artist preswyl yn 2021. Rwy’n cael fy nenu gan bobl sy’n adeiladu bywyd newydd a chofleidio newid. Rwy’n gwneud gwaith masnachol i gwmnïau, gan gynnwys Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n credu y gall celf ysgogi ffyrdd newydd o feddwl a chymell pobl i gymryd rhan mewn sgwrs wahanol.