Black Mantis
Black Mantis
Electronica Jazz a delweddau i ymgolli ynddynt
Mae Black Mantis yn berfformiad cerddoriaeth byw i ymgolli ynddo a ddatblygwyd rhwng 4Pi Productions a Deri Roberts. Yn dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Diffusion, mae Black Mantis yn brosiect newydd gan y cynhyrchydd o Dde Cymru, Deri Roberts, sydd efallai’n fwyaf adnabyddus am fod yn un o dri aelod Slowly Rolling Camera. Yn ei albwm diweddaraf, Devil's Flower, mae’n plymio i mewn i’w ochr electronig dywyllach gan uno ei gariad at gerflunwaith sain, electronica a jazz at ei gilydd a chreu byd sain cyffrous newydd sy’n newid drwy’r amser gyda sgôr gweledol wedi ei gynhyrchu gan y stiwdio greadigol arobryn 4Pi.
Deri Roberts: Electroneg fyw
Ben Waghorn: Sacsoffon
Mark Sambell: Allweddellau
Jon Goode: Bas
Elliot Bennett: Drymiau
Elfennau gweledol: 4Pi Productions
Proffil Artist
Black Mantis
Mae Black Mantis yn berfformiad cerddoriaeth byw i ymgolli ynddo a ddatblygwyd rhwng 4Pi Productions a Deri Roberts.
4Pi Productions
Mae 4Pi yn stiwdio greadigol arobryn sy’n cyfuno technolegau grymus sy’n dod i’r amlwg gyda dulliau o ddweud stori sy’n croesi’r cyfryngau, gan gynhyrchu profiadau y gallwch ymgolli ynddynt sy’n estyn allan i gynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd a diddorol. Mae 4Pi yn datblygu eu prosiectau a’u platfformau creadigol eu hunain, yn cynnwys The Dance Dome sydd wedi ymweld â mwy na 30 o ddinasoedd ar draws y byd. Mae 4Pi yn archwilio’r ffiniau rhwng celf, dylunio a thechnoleg ac yn ddiweddar agorodd CULTVR Lab yng Nghaerdydd, sef lle traws-ddisgyblaethol trochi cyntaf Ewrop sydd â ffocws cryf ar y celfyddydau digidol, perfformiad byw a sinema 360º.
Deri Roberts
Mae Deri Roberts yn gynhyrchydd, cyfansoddwr, dylunydd sain a chwaraewr offerynnau niferus sydd wedi ei seilio yn Ne Cymru. Mae’n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus am fod yn un o’r tri meddwl creadigol y tu ôl i Slowly Rolling Camera, ond mae ei waith mor amrywiol mae’n amhosibl ei osod o dan un ambarél gerddorol.
Ar ôl graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle astudiodd dechnoleg cerdd greadigol, cychwynnodd Deri ei yrfa broffesiynol yn gweithio fel cyfansoddwr llawrydd a dylunydd sain gyda Brollyman Productions. Dyma le torrodd ei ddannedd o ran cyfansoddi a chynhyrchu i’r cyfryngau, a dyma hefyd lle cyfarfu am y tro cyntaf ag Andy Allan (Massive Attack, Portishead) sydd yn hen ffrind a chydweithiwr iddo erbyn hyn.