Arddangosfa / 27 Medi – 24 Hyd 2021

Cardiff Central Market

Paul John Roberts

Mae marchnad dan do Caerdydd ar fin dathlu 130 o flynyddoedd ers cael ei sefydlu. Trwy gydol ei hanes nodedig mae’r farchnad, a adeiladwyd yn Oes Victoria, wedi bod yn gartref i fasnachwyr dirifedi. Mae pob math o fasnachu’n digwydd yn y 265 o stondinau sydd yma – mae rhai o’r masnachwyr wedi bod yma ers degawdau, ac eraill yn newydd-ddyfodiaid. Yn y casgliad yma, rwy’n cyflwyno portreadau o rai o’r masnachwyr a’u stondinau a dynnwyd ychydig
ddyddiau cyn y cafodd y farchnad ei chau am y tro cyntaf erioed (gan gynnwys dau Ryfel Byd) oherwydd pandemig Covid-19. Wrth i’r byd ddod ato’i hun wedi effeithiau gwaethaf y pandemig, mae’r busnesau bach teuluol yma wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad hynod i lwyddo i barhau i fasnachu nes bod y cwsmeriaid yn dychwelyd a bod cyfle iddynt adfer hen ogoniant y farchnad.

Proffil Artist

Portread o Paul John Roberts

Paul John Roberts

Mae Paul John Roberts yn byw yn Ne Cymru; mae’n ffotograffydd sy’n gweithio’n rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar y Deyrnas Gyfunol, Ffrainc a Sbaen.

Mae’n arbenigo mewn ffotograffiaeth ddogfen greadigol, ffotograffiaeth olygyddol, portreadau masnachol a ffotograffiaeth o berfformiadau.

Mae ei waith diweddar yn cynnwys ‘Submission, Suffering and Ecstasy’ a ddangoswyd yn Reggio Emilia yn yr Eidal a Magnum Paris; a ‘One Match’ – yn croniclo taith chwaraewyr tîm pêl-droed digartref Cymru drwy’r paratoadau a’r hyfforddi ar gyfer pencampwriaeth bêl-droed Cwpan y Byd i’r Digartref yng Nghaerdydd 2019.

Mae gan Paul ddiddordeb byw yn y profiad dynol ac mae’n mwynhau cael bod yn ddisgybl ym mydoedd ei destunau.