Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

Christopher Street

Sunil Gupta

Cafodd y gyfres hon ei ffilmio yn Efrog Newydd yn 1976 pan dreuliais flwyddyn yn astudio ffotograffiaeth gyda Lisette Model, Philippe Halsman a George Tice yn The New School. Roedd hwn yn drobwynt i mi am fy mod wedi cyrraedd y ddinas yn wreiddiol i gofrestru ar raglen MBA.

Treuliais fy mhenwythnosau’n teithio gyda fy nghamera, dyma oedd y dyddiau cyffrous ar ôl Stonewall a chyn AIDS pan oeddem ni’n ifanc a phrysur yn creu lle cyhoeddus hoyw oedd yn wahanol i unrhyw beth a welwyd o’r blaen.

Dyma oedd y tro cyntaf i mi fyw mewn dinas oedd yn teimlo’n llawn o ffotograffiaeth, Roedd orielau masnachol di-ri yno ac roedd gan yr amgueddfeydd arddangosiadau parhaol o hanes ffotograffiaeth.

Roedd y sioe New Documents yn MoMA wedi cael dylanwad mawr ar bawb o’m cwmpas i. Siaradodd Lisette am “Diane” yn y dosbarth a bywyd byw y strydoedd oedd ein theatr. Roedd yn rhaid tynnu llun o bopeth.

Roedd hi’n ymddangos bod pob cornel stryd yn Efrog Newydd yn wahanol ac unigryw. Daeth Christopher Street yn gynefin naturiol i mi. Roeddwn i’n un o’r llwyth ac roeddwn eisiau i bobl sylwi arnaf. Doeddwn i ddim yn ysbïo ar y trigolion. Gwnes fy hun mor weladwy ag y gallwn a cherdded i fyny at bobl.

​Wrth edrych yn ôl, mae’r darluniau hyn wedi dod yn eiconig a hiraethus am ennyd pwysig iawn yn fy hanes personol a’r ymdrech am ryddid hoyw a gafodd ganlyniadau pellgyrhaeddol ar draws y glôb.

Proffil Artist

Portread o Sunil Gupta

Sunil Gupta

Sunil Gupta (ganed yn Delhi Newydd, 1953); Gradd Meistr (RCA) PhD (Westminster). Mae wedi cynnal ei ymarfer beirniadol ym maes ffotograffiaeth annibynnol ers blynyddoedd lawer gan ganolbwyntio ar hil, mudo a materion cwiar. Yn 2020/21 agorwyd sioe yn bwrw golwg yn ôl ar ei waith yn The Photographer’s Gallery yn Llundain. Bydd yr arddangosfa’n symud i Ryerson Image Centre yn Toronto yn 2022. Mae’n Gymrawd Proffesiynol ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol (UCA) yn Farnham. Mae gweithiau ganddo mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys; Amgueddfa Ffotograffiaeth Tokyo, Amgueddfa Gelf Philadelphia, Amgueddfa Frenhinol Ontario, y Tate a’r Amgueddfa Celf Fodern. Mae’n cael ei gynrychioli gan Oriel Hales (Efrog Newydd a Llundain), Oriel Stephen Bulger (Toronto) ac Oriel Gelf Vadehra (Delhi Newydd).