Digwyddiad / 1 Hyd 2021

Agoriad Atomic Ed / Dathliad Realiti Rhithwir

Janire Najera

Dewch i ymdrochi yn y digwyddiad arbennig yma i lansio Atomic Ed gan Janire Najira yng nghanolfan CultVR!

Mae Atomic Ed yn olrhain siwrne Ed Grothus - o weithio yn Labordy Cenedlaethol Los Alamos yn Mexico Newydd i fod yn ymgyrchydd di-flewyn-ar-dafod yn erbyn ynni niwclear. Trwy gyfrwng dogfennau archif, hen ffotograffau a rhai mwy diweddar, a detholiad o blith hanner canrif o lythyron rhwng Ed Grothus â gwleidyddion, gwyddonwyr, y cyfryngau ac aelodau o’i deulu, cawn ein cario yn ôl ac ymlaen drwy hanes ynni niwclear yn yr Unol Daleithiau, a’r rhan y chwaraeodd Ed yn yr hanes hwnnw.

Ganed Janire Najera yn 1981, yn Bilbao yng Ngwlad y Basg. Cafodd ei magu yn Nàjera yn la Rioja ac astudiodd ar gyfer gradd BA mewn Gwyddorau Cyfathrebu ym Madrid. Yn ddiweddarach, fe astudiodd Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru. Mae’n arbenigo mewn defnyddio cyfryngau trochol i adrodd straeon. Yn 2019, sefydlodd Labordy CULTVR - labordy ymchwil trochol cyntaf Ewrop – i hybu datblygiad a chyflwyno celfyddydau digidol, perfformiadau byw a sinema cryndo (fulldome). Ymysg ei chyhoeddiadau mae Atomic Ed (2019) a Moving Forward Looking Back: Journeys Across the Old Spanish Trail (2015). Cafodd Atomic Ed ei gyflwyno fel rhan o Ŵyl Diffusion 2019, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Proffil Artist

Portread o Janire Najera

Janire Najera

Mae Janire yn artist aml-gyfrwng, ffoto-newyddiadurwr, curadur a chynhyrchydd sy’n arbenigo mewn defnyddio cyfryngau trochol i adrodd straeon. Astudiodd newyddiaduraeth ym Madrid a Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd. Mae ei phrosiectau, sydd wedi cael eu dangos a’u harddangos yn rhyngwladol, yn aml yn tynnu sylw at gymunedau sydd wedi cael eu dadleoli, a chwestiynu’r hanes a’r amgylcheddau sy’n llunio ein bywydau. Yn 2019, sefydlodd Labordy CULTVR i hybu datblygiad celfyddydau digidol, perfformiadau byw a sinema cryndo (fulldome) yn ogystal â dulliau o’u cynhyrchu a’u cyflwyno.

Yn 2018 bu’n artist preswyl yng Nghymdeithas y Celfyddydau a Thechnoleg ym Montreal yng Nghanada; ac yn 2017 bu’n Ysgolor Ymchwil yng Ngholeg Wilkinson ar gyfer y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Chapman yng Nghaliffornia. Mae Janire wedi cyhoeddi dwy gyfrol gyda RM Publishing sef, Moving Forward, Looking Back ac Atomic Ed.