Arddangosfa / 1 Hyd – 22 Hyd 2021

Ôl Gwaed

Dipanwita Saha

Ôl Gwaed
© Dipanwita Saha
Ôl Gwaed
© Dipanwita Saha

Wedi’r rhaniad, hyd yn oed os yw dinas Calcutta wedi adfer, mae’r ymdeimlad o
wahaniaethu yn parhau, gan hollti gwahanol gymunedau, neu rai sectorau swyddi.
Mae’r rhaniad yn dal i fodoli. Ers annibyniaeth bu llu o derfysgoedd, ond y diweddaraf yw’r gwrthdaro dros y Ddeddf Dinasyddiaeth (diwygio) a ddigwyddodd yn ninas Delhi yn 2020. Oherwydd y sefyllfa gyda Covid-19, pan ofynnwyd i gleifion
hunanynysu, gwelwyd gwrthdaro enfawr yn Telinipara, Chandan Nagar, Gorllewin
Bengal, gyda phobl yn gwrthod aros gyda phobl o gymunedau eraill. Mae India eisoes yn mynd trwy ddirwasgiad economaidd oherwydd Covid-19, ac mae hyn yn anochel yn mynd i arwain at newyn, a gyda’r gwrthdaro yma, mae amodau yn mynd i waethygu fwy fyth.

Proffil Artist

Portread o Dipanwita Saha

Dipanwita Saha

Mae Dipanwita Saha yn ffotograffydd annibynnol sy’n byw yn Kolkata. Daw ei
diddordeb mewn ffotograffiaeth gan ei thad. Graddiodd gyda gradd mewn
Peirianneg Meddalwedd. Gan ddefnyddio dulliau personol a goddrychol yn ei
hymarfer ddogfennol, mae’n archwilio cymhlethdodau fframweithiau cymdeithasol
a natur ddynamig sefydliadau gwleidyddol yn yr India gyfoes. Prif feysydd diddordeb Dipanwita yw hanes, naratif diwylliannol a newidiadau cymdeithasol-wleidyddol. Fel rhan o’i hymarfer o lunio delweddau, mae’n hoff o ddefnyddio lleisiau personol, archwiliadau trosiadol a haniaeth i ddatgelu’r naratif sy’n perthyn i bobl, lleoedd a’u hanesion.