Newport / Lab
Clémentine Schneidermann, Fergus Thomas, Daragh Soden, Lua Ribeira, Bandia Ribeira, Sebastián Bruno, Isaac Blease, Michael Alberry
Rhwng 2012 a 2016, gweithiodd wyth myfyriwr oedd ar y cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol gyda’i gilydd yn ninas Casnewydd, tra bo’r cwrs yn dal i ddigwydd yng Nghaerllion gerllaw.
Mae’r arddangosfa sydd ar y gweill yn arddangos gwaith a gynhyrchwyd bryd hynny, a oedd hefyd yn sbardun ar gyfer prosiectau dilynol a dulliau o weithio i bob aelod o’r grŵp. Yn ystod yr arddangosfa, bydd labordy byw’n cael ei sefydlu lle bydd yr artistiaid yn dychwelyd i Gasnewydd i greu gwaith newydd a fydd yn cael ei olygu, ei brosesu a’i osod o fewn y lle hwn, ochr yn ochr â, neu yn lle, y gweithiau cynharach hyn.
Daw’r fenter hon i ben gyda gosodwaith sy’n esblygu, pan fydd y lle’n troi’n stiwdio agored, yn rhywle i arbrofi lle gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan ochr yn ochr â’r artistiaid mewn prosesau dethol, trafod a phrintio – gan ganiatáu i’r delweddau ar y waliau newid drwy’r amser. Trwy’r cymysgu gweledol hwn o’r hen a’r newydd bydd cyfnewidiad yn digwydd gan gyflwyno’r delweddau yn ôl i’r fan lle cawson nhw eu cynhyrchu a’u hysbrydoli, dinas Casnewydd.
Mae’r grŵp yn cynnwys ffotograffwyr; Bandia Ribeira, Clementine Schneidermann, Daragh Soden, Fergus Thomas, Lua Ribeira, Michael Alberry a Sebastian Bruno, ac yn goruchwylio’r gwaith o guradu’r arddangosfa mae Isaac Blease.
Bydd Lab yn digwydd o’r 13eg hyd yr 17eg o fis Hydref
Proffil Artistiaid
Clémentine Schneidermann
Mae Clémentine Schneidermann yn ffotograffydd Ffrengig sydd wedi ei seilio rhwng Cymru a Ffrainc. Mae ganddi ddiddordeb mewn dulliau newydd o ffotograffiaeth ddogfennol drwy ymgysylltiad a chreadigedd. Cyhoeddodd ei monograff cyntaf, I Called her Lisa Marie yn 2018 (Chose Commune) a grewyd dros gyfnod o bum mlynedd rhwng Memphis a De Cymru yn canolbwyntio ar ffigur Elvis Presley. Ers 2015, mae hi wedi bod yn gweithio ar brosiect cydweithredol a chyfranogol gyda’r cyfarwyddwr celf Charlotte James a phlant sy’n byw yng Nghymoedd De Cymru. Cafodd y prosiect hybrid hwn ei ddangos yn gyntaf yn Sefydliad Martin Parr ym Mryste yn 2019 ac mae hefyd yn rhan o PhD sydd wedi ei seilio ar arferion Clémentine a gychwynwyd ym Mhrifysgol De Cymru yn 2016. Mae Clémentine hefyd yn cydweithio’n rheolaidd â chylchgronau ffasiwn fel Vogue Italia, Dazed a Self Service ochr yn ochr â’i phrosiectau personol.
Fergus Thomas
Mae Fergus Thomas yn ffotograffydd Prydeinig sydd wedi ei seilio yn Llundain. Mae’n gwneud prosiectau ffotograffig tymor hir, yn bennaf ar y croestoriad rhwng natur a diwylliant. Cafodd ei brosiect ‘Colville’ ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Granta, roedd ar y rhestr hir ar gyfer y Wobr Magnum i raddedigion, arddangosodd yn Warsaw Photo-Days yng Ngwlad Pwyl ac yn arddangosfa ysgoloriaeth Ian Parry yn Llundain. Derbyniodd ei radd BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru, Casnewydd, a’i MA mewn Ffotograffiaeth o Brifysgol Gorllewin Lloegr. Ochr yn ochr â’i fusnes, mae’n gweithio’n broffesiynol, yn gwneud comisiynau ac aseiniadau. Mae ei gleientiaid yn cynnwys cylchgrawn y Telegraph, Four Paws International a The Wall Street Journal.
Daragh Soden
Mae Daragh Soden yn artist, ffotograffydd a chyfarwyddwr o Ddulyn, Iwerddon sy’n gweithio ar hyn o bryd yn Llundain ac yn Ewrop. Mae ei waith yn archwilio themâu cyffredinol sy’n ei effeithio ef yn bersonol. Mae’r agwedd hon o’i gelf yn rhoi profiad penodol, personol o fewn cyd-destun y cyffredinol. Trwy ei ddefnydd o luniau llonydd yn bennaf, ond hefyd y ddelwedd symudol, rhyddiaith a barddoniaeth, gallech chi ddisgrifio arferion celf Soden fel math o chwiliad am wirionedd mwy. Mae’n gweld ei rôl fel artist yn un sy’n cwestiynnu’r strwythurau cymdeithasol presennol ac yn gwahodd eraill i wneud yr un peth. Mae cyfres Young Dubliners Soden, sy’n gyfuniad o bortreadau amgylcheddol a thestun dyddiadurol wedi cael ei harddangos yn Nulyn, Llundain a Pharis. Yn 2017, derbyniodd y Grand Prix du Jury yn yr Ŵyl Ffasiwn a Ffotograffiaeth Hyères glodfawr. Yn 2018, arddangosodd waith newydd, Tales of Toulon, yn y Villa Noailles yn Hyères ac yn Toulon, Ffrainc. Yn 2019, arddangosodd Soden Lookng for Love yn The Photographers’ Gallery yn Llundain. Roedd Looking for Love, sy’n gyfres o ffotograffau analog, blychau golau a ffilm super8, yn rhan o’r arddangosfa grŵp Shot In Soho oedd yn cynnwys gwaith gan yr artistiaid William Klein, Anders Petersen a Corinne Day.
Lua Ribeira
Mae Lua Ribeira yn ffotograffydd o Galicia sydd wedi ei seilio yn y DU. Nodweddion ei gwaith hi yw ei natur gydweithredol, ei hymchwil estynedig a’r ffordd y mae hi’n ymgolli yn ei phwnc. Mae ganddi ddiddordeb mewn defnyddio’r cyfrwng ffotograffig fel ffordd o greu cyfarfyddiad sy’n creu perthnasoedd ac yn cwestiynnu gwahaniad strwythurol rhwng pobl. Graddiodd Ribeira mewn Cynllunio Graffeg o Ysgol Ddylunio BAU yn Barcelona yn 2011, a derbyniodd BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru yn 2016. Mae gwaith Ribeira wedi derbyn y grant Firecracker i Ferched mewn Ffotograffiaeth, gwobr Jerwood/Photoworks a chafodd ei henwebu am y Prix Pictect yn 2019 a gwobr Foam Paul Huf. Cafodd ei gwaith ei gyhoeddi ar ffurf llyfr gan Fishbar, Llundain yn 2017, a chafodd ei gynnwys yn y cyhoeddiad Firecrackers: Female Photographer Now a gyhoeddwyd gan Thames and Hudson yn 2017, ac yn Raw View Magazine, “Women looking at Women” 2016. Ers 2018 mae hi wedi cael ei chynrychioli gan yr asiantaeth Magnum Photos.
Bandia Ribeira
Mae Bandia Ribeira Cendán yn ffotograffydd o Galicia sydd wedi ei seilio yn Almeria, Sbaen. Graddiodd mewn Gwyddor Gwleidyddol, ac yn ddiweddarach derbyniodd BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru, Casnewydd. Pan oedd hi’n gwneud y cwrs yng Nghasnewydd, gweithodd ar ddau brosiect yng Nghymru: “Tiger Bay”, a arddangoswyd yng Ngŵyl Diffusion yn 2015 yn rhan o’r arddangosfa “A Tale of Two Cities”; ac hefyd cynhyrchodd lyfr a gyhoeddodd ei hun o’r enw “Life is great, without it you'd be dead” yn 2014 sy’n cynnwys ffotograffau a dynnwyd yn ardaloedd Casnewydd a Phort Talbot. Mewn blynyddoedd diweddar mae hi wedi bod yn gweithio fel addysgwr ac wedi bod yn datblygu prosiect ffotograffig newydd yn Almeria, rhanbarth yn ne ddwyrain Sbaen sy’n adnabyddus am gynhyrchu llysiau’n ddiwydiannol ar gyfer eu hallforio’n bennaf.
Sebastián Bruno
Mae Sebastián Bruno yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau o’r Ariannin/Sbaen. Mae gwaith personol Sebastian wedi ei seilio ar ei brofiadau fel unigolyn ac ar y cyd, ynghyd â chyfrifoldeb cryf i le a phobl, ac mae’n ceisio deall ac archwilio cymhlethdod cysylltiadau dynol o fewn ei gyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol. Trwy ddehongli’r byd, cymunedau a phobl sydd efallai wedi cael eu hanwybyddu wrth i’r byd ddatblygu, mae’n gallu creu hanesion dilys a grymus sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau arferion dogfennol traddodiadol. Cafodd ei fonograff cyntaf, Duelos y Quebrantos ei gynnwys ar y rhestr fer am y prix du Livre d’auteur yn Le Rencontres de la Photographie, Arles yn 2018. Yn fwy diweddar cafodd ei raglen ddogfen The Dynamic ei henwebu am wobr Breakthrough BAFTA Cymru.
Isaac Blease
Mae Isaac Blease yn ffotograffydd a churadur wedi ei seilio ym Mryste, y DU. Graddiodd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru yn 2015, a chwblhaodd MA mewn Curadu ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr yn 2018. Llwyddodd ei brosiect Charaxes Imperialis am y casgliad o loynod byw a etifeddodd gan ei Daid i dderbyn gwobr celf a ffotograffiaeth DBACE Deutsche Bank yn 2017. Cafodd y prosiect hwn hefyd le ar y rhestr fer am wobr ffotograffiaeth Magnum i Raddedigion yn 2016, a gwobr Photoworks/Jerwood yn 2017. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau curadu yn cynnwys; Empire Through the Lens yn 2017-18 (Amgueddfa ac Orielau Celf Bryste), Alone With Empire 2018-19 (Labordy Gweledol IC, Gŵyl Ffoto Format, Gŵyl Ffoto Getxo Bilbao), ac yn fwyaf diweddar Island Life: Photographs from the Martin Parr Foundation yn 2021 (Amgueddfa ac Orielau Celf Bryste / Gŵyl Ffoto Bryste). Ar hyn o bryd mae’n rheolwr casgliadau yn Sefydliad Martin Parr.
Michael Alberry
Mae Michael Alberry yn ffotograffydd sydd wedi ei seilio ym Mryste, y DU ar hyn o bryd. Mae ei waith ffotograffig yn archwilio ac yn cymharu’r ffyrdd y mae pobl yn chwilio am ystyr drwy ddiwylliant, ac mae hyn yn ei arwain drwy themâu seicoleg torf, defodau ac ysbrydolrwydd. Mae ei gyfres ‘A Time to Dance’ (2014-parhaus), yn defnyddio’r paralel rhwng dawns a gweddi, yn archwilio’r ffordd y mae ystum a defod yn cyfathrebu yng nghyfarfodydd wythnosol yr eglwysi a lloriau dawnsio’r clybiau nos. Mae ei gyfres ‘Every Cross on Cross Mountain’, yn gyfres deipolegol o groesau tebyg i gerfluniau, a adeiladwyd â’r llaw ar y safle ochr mynydd i bererinion, Križevac, yn Medugorje, Bosnia a Herzegovina. Mae ganddo BA mewn ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol Casnewydd, De Cymru. Ar hyn o bryd mae’n gwneud MA mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.