A Crack in the Memory of My Memory
Amina Kadous
Gwthiaf fel tresmaswr drwy weddillion fy ngorffennol. Drwy haenau amser, gyda lludw a chraciau’r waliau’n malurio drosof gan greu waliau clwyfedig ac anafiadau y tu mewn imi. Rwy’n teimlo fel petawn i’n cerdded ar ddarnau o’m calon doredig, yn casglu’r darnau ac yn eu rhoi nhw at ei gilydd mor gywir ac y gallaf. Rwyf wedi fy nghaethiwo yng nghawell fy atgofion, y cwbl a welaf o’m presennol yw delweddau o’r straeon y mae fy nain a’m taid wedi eu pasio i mi. O ddinas nad yw’n bodoli bellach. Rwyf ar goll yn y syniadau cyferbyniol sydd gen i o’m presennol, yn ceisio addasu ac eto rwyf wedi fy nal mewn amser gwahanol sydd wedi hen fynd yn angof.
Y ffordd yw fy llinell amser, fy hanes a’m hatgof darniog. Cefais fy magu mewn diogelwch ac wedi fy amddiffyn gan ddau fyd, dau dŷ a’r ffordd sy’n eu cysylltu nhw, yn cysylltu fy ngorffennol a’m presennol. Taith ffordd 120 km y byddwn yn ei chymryd bob wythnos rhwng cartref fy nhad yn Mehalla Al Kobra a chartref fy mam yn Cairo, o’r adeg pan oeddwn i’n 5 oed hyd nes oeddwn i’n oedolyn ifanc, yn ymestyn fel tyst tawel a chofnod gweledol wrth i mi ymdrechu i’m canfod fy hun. Cafodd fy mywyd ei balmantu ar hyd y ffordd hon. Ac fel plentyn yn chwilio ac yn ceisio canfod tir cyffredin rhwng y ddau, roeddwn i bob amser yn pendroni i le’r oeddwn i’n perthyn, ble oedd gartref i mi. Wrth i mi symud ar hyd y ffordd, tyfodd fy nyheadau yn fwy na mi wrth i mi fynd ar ôl straeon fy nain a’m taid, yn ceisio fy lleoli fy hun mewn gorffennol nad oedd yn eiddo i mi yn yr atgofion o’u hatgofion nhw.
Mae’r ffordd yn fy atgoffa drwy’r amser, yn fy atgoffa o’n hunigoliaeth, ein lle, a’r ‘ni ein hunain’ y datblygwn ni i fod. Mae’n symbol o’r dicotomi rhwng y gorffennol a’r presennol. Wrth i mi fudo yn fewnol ac allanol, yn gorfforol ac yn feddyliol, allan o Cairo ac i mewn i Cairo, rwy’n cymryd rhan mewn deialogau sydd wedi eu bwydo gan fy hunan-amheuaeth ac ofn ac eto mae fy ngreddfau’n eu gyrru tuag at obaith a gweledigaeth o well dyfodol. Mae llif o gwestiynau a meddyliau’n ffrwydro y tu mewn i mi: ydw i’n byw fy mhresennol neu ydw i’n bodoli yn unig? Beth fydd fy mhresennol? A fydd mor ogoneddus â phresennol y gorffennol? A oedd y gorffennol mor ogoneddus ag y tybiais? Ai’r gorffennol yw fy ngwaredwr yn fy ennyd bresennol a’m dyfodol ansicr?
Proffil Artist
Amina Kadous
Mae Amina Kadous (g.1991) yn artist gweledol wedi ei seilio yn Cario, yn yr Aifft, sy’n archwilio cysyniadau am atgof. Mae hi’n credu ym myrhoedledd profiad. “Does dim yn para. Dim ond o gael eu pasio ymlaen mae cofnodion profiadau a gwrthrychau ac enydau’r byd corfforol yn para.” Mae hi’n ei disgrifio ei hun fel fforiwr syniadau, wedi ei gyrru gan ysbryd y chwilfrydig wrth iddi geisio deall yr ystyron a’r amwysedd cudd mewn bywydau, nid ei bywyd hi, drwy natur ryngweithiol y gwyliwr, y ffotograffydd, y gwrthrych a’r amgylchedd.
Mae Amina wedi arddangos ei gwaith mewn llawer o leoedd yn rhyngwladol ac yn lleol. Cafodd raglen ddogfennol AFAC y flwyddyn hon 2020-21. Cymerodd ran yn y ddeuddegfed ŵyl Ffotograffiaeth Eilflwydd Bamako a derbyniodd Wobr Centre Soleil d’Afrique am ei phrosiect ‘A Crack in the Memory of My Memory’. Yn ddiweddar, derbyniodd ddyfarniad Crybwylliad Arbennig y Beirniaid am chweched gyfrol y Rhaglen LCC, ac mae ei gwaith i’w weld ar hyn o bryd yn arddangosfa MACAAL ‘Welcome Home Vol. II’.