Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

Natura Consonat: mewn cytgord â natur

Mary Farmilant

Flynyddoedd yn ôl, pan es i ymweld am y tro cyntaf â Thiriogaeth Neilltuedig yr Americaniaid Brodorol Lac du Flambeau yn Northwoods Wisconsin, cartref hynafiaid fy ngŵr Ojibwe, cefais fy nharo gan dawelwch a serenedd anhraethadwy eu tir a gynhyrchodd synnwyr o ryfeddod a chyflawnder ynof. Rwyf wedi dychwelyd dro ar ôl tro, i dynnu lluniau ar y Diriogaeth Neilltuedig ac yng nghoedwigoedd eraill Northwoods, gan geisio cofnodi a mynegi'r rhyfeddod a deimlais. Deuthum i ddysgu bod enw i'r profiad hwn: fforest-ymdrochi, sef y weithred o adfywio'r ysbryd a'r corff drwy fod yn y fforest.

Am fy mod yn tynnu lluniau drwy'r tymhorau i gyd, rwy'n defnyddio ffilm lliw clasurol a chamera confensiynol i ddarlunio'r coed, y morfeydd a'r dolydd, yr awyr, dyfroedd a lleoedd wedi eu marcio gan y bobl sy'n byw yno. Mae'r lluniau wedi eu hargraffu ar banelau mawr o ffabrig sidan lled-afloyw. Mae'r panelau cain hyn sydd wedi eu hongian o'r nenfwd gyda darnau neilon tryloyw, i'w gweld o bob ochr.

Mae fy ngwaith yn gwahodd y rhai sy'n eu gweld i deimlo cysylltiad dwfn â'r fforestydd hynafol hyn ac i ystyried rhyfeddod Northwoods. Mae pethau eraill sy'n ysgogi'r synhwyrau, fel y pren mwsoglyd, y pinwydd, gwelltglas melys a recordiadau sain o seiniau naturiol y coed yn dyfnhau'r profiad o 'fforest- ymdrochi rhithiol'.

Anaml iawn y mae pobl sy'n byw mewn dinasoedd yn cael y cyfle i ymdrochi mewn fforest drwchus. Mae'r gosodwaith hwn yn dod â phrofiad rhithiol i'r ddinas. Arwyddair swyddogol y ddinas lle rwy'n byw, Chicago, yw "Urbs in Horto" -- Dinas mewn gardd. Mae'r panelau hyn wedi eu llunio i greu "Horto in Urbs" -- gardd gludadwy yn y ddinas.

Proffil Artist

Portread o Mary Farmilant

Mary Farmilant

Trwy herio’r ffordd y mae cynulleidfaoedd yn gweld ac yn rhyngweithio â’r ddelwedd ffotograffig, mae Mary Farmilant yn creu profiad integral lle mae’r gwyliwr yn cyfuno â’r ffotograff. Maen nhw’n datblygu perthynas gilyddol lle mae’r gwyliwr yn newid drwy’r effaith y mae’r gwrthrych yn ei chael; mae’r gwrthrych yn newid hefyd.

Mae ysgogiadau sain, gweledol, arogleuol a chinesthetig yn ei gwaith yn cynhyrchu profiad emosiynol ansylweddol. Yn ei chyfres ffotograffig, Natura Consonat, mae’r gosodwaith yn ymateb i’r gynulleidfa: mae panelau sidan yn siglo yn yr awel sy’n cael ei greu gan symudiad dynol. Mae ei gwaith yn ymgysylltu ar lefel bersonol, gan roi’r gynulleidfa y tu mewn i’r celf fel eu bod yn dod yn rhan ohoni.

Mae Farmilant wedi arddangos yn Galería de Arte Buenos Aires Sur, Gŵyl Contact Photo Toronto; yr Amgueddfa Gwyddor Llawfeddygol Genedlaethol, Amgueddfa Gelf Morris Graves a Chanolfan Gelf Indianapolis.

Derbyniodd ei gradd nyrsio ym Mhrifysgol Brighton, Sussex, Lloegr a gweithiodd mewn niwrolawdriniaeth cyn troi at ffotograffiaeth yn llawn amser.