Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

Motherland

Maryam Wahid

Yn aml iawn, y menywod o blith y bobl ar wasgar o Bacistan a symudodd i’r DU oedd gwragedd, merched, mamau a neiniau hynod weithgar yr unigolion hynny oedd wedi mudo o ddinasoedd, trefi a phentrefi bychan ym Mhacistan. Daeth yr unigolion hyn i’r DU i weithio mewn sectorau diwydiannol allweddol a sefydlu busnesau a gyfrannodd at economi iach eu cenedl a oedd newydd ei sefydlu. Roedd y menywod o Bacistan yn darparu’r awyrgylch hanfodol o gysur a theimladau cyfarwydd a roddodd synnwyr o’u gwlad frodorol i’w gwŷr, tadau, plant ac wyrion – gan greu cartref iddyn nhw ymhell o adref.

Wedi ei gwisgo yn nillad ei mam o 40 mlynedd ynghynt, diben hunanbortreadau Maryam Wahid yw cydnabod bodolaeth a chyflawniadau menywod Pacistanaidd fel hyn a’u rôl fel asgwrn cefn cymuned a weddnewidiodd ganol dinasoedd Prydain. Mae albwm lluniau’r teulu wrth wraidd gwaith personol Maryam. Mae hi’n defnyddio ffotograffau ohono i ddadelfennu ei threftadaeth Brydeinig a Phacistanaidd ei hun.

Heddiw, mae menywod Pacistanaidd Brydeinig yn parhau i chwyldroi rolau’r rhywiau i fenywod eraill drwy benderfynoldeb, cymorth emosiynol ac anogaeth eu rhwydwaith o gymheiriaid benywaidd.

Proffil Artist

Portread o Maryam Wahid

Maryam Wahid

Mae Maryam Wahid (ganed 1995) yn artist llawrydd sydd wedi ennill gwobrau ac mae ei gwaith yn archwilio ei hunaniaeth fel merch Fwslimaidd Bacistanaidd Brydeinig. Mae hi’n mynegi gwreiddiau’r gymuned Bacistanaidd yn ei dinas gartref, Birmingham (DU) drwy archwilio ei hanes teuluol sydd â gwreiddiau dwfn yno; a’r integreiddio mawr gan ymfudwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae ei chefndir academaidd mewn Celf, Ffotograffiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ochr yn ochr â’i diddordeb mawr mewn gwybyddiaeth ddiwylliannol ac ideolegau crefyddol wedi dylanwadu’n gynyddol ar ei gwaith. Mae ei gwaith yn archwilio’r hunaniaeth fenywaidd, hanes cymuned o Dde Asia ym Mhrydain a’r syniad o gartref a pherthyn. Mae hi wedi cael ei chomisiynu i greu ffotograffau i’r Guardian, Financial Times, Prifysgol Metropolitan Manceinion a The People’s Picture, ymysg eraill.