Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

Truth in Fire

Tim Georgeson

Roedd y bobl Aboriginaidd yn gwybod fod y tanau yma’n dod ers amser maith. Dewisodd pobl i beidio â gwrando. Wnaethon nhw ddim edrych am yr arwyddion. Cawsom ddigon o arwyddion ac roeddem yn gwybod fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd… Mae tân yn un o’r elfennau. Rydym yn parchu’r ddaear, yr aer, y dŵr a thân. Heb dân ni fyddem yn goroesi. (Vivian Mason, un o Henaduriaid Cenedl yr Yuin, Chwefror 2020)

Dechreuodd Tim Georgeson o Awstralia ar brosiect ‘Truth in Fire’ yn ystod haf 2019-20 mewn ymateb i’r tanau enbyd a thrychinebus a welwyd ar Arfordir De Ddwyrain Awstralia. Cafodd tua 24 miliwn hectar o gynefinoedd naturiol, tiroedd amaethu ac ardaloedd trefol ledled Awstralia eu hamlyncu gan danau’r ‘Haf Du’. Collodd tri deg tri o bobl eu bywydau, ac amcangyfrifir y bu farw biliynau o famaliaid, adar ac ymlusgiaid brodorol – heb gyfrif nifer mwy fyth o bryfed. Drwy ymgynghori â Cheidwaid Tân brodorol, cafodd Georgeson gyfle i ddangos effaith amgylcheddol y gyfres ddigynsail o danau enbyd a achoswyd gan stormydd taranu ar draws Gwlad yr Yuin. Gan ddefnyddio delweddau symudol, sain a ffotograffiaeth mae’r artist yn cyfleu ymdeimlad dwfn pobl y Cenhedloedd Cyntaf o golled a’r camau a gymerwyd ganddynt i iacháu eu cymunedau a’r Wlad drwy seremonïau trawsffurfiol.

Mae tân yn rhan annatod o gylch bywyd nifer o rywogaethau o blanhigion yn Awstralia, ond yr hyn sy’n creu’r amodau gorau posibl ar gyfer adfywiad yw amseroldeb a llymder y gwres. Penderfynodd Georgeson ehangu’r prosiect yn 2021, gan deithio i Kakadu yn Nhiriogaeth y Gogledd lle defnyddir arferion tân y diwylliant brodorol - arferion sy’n seiliedig ar 65,000 o flynyddoedd o wybodaeth a rannwyd o genhedlaeth i genhedlaeth. Ar ôl cwrdd â Victor Cooper (Guruwalu), un o bobl falch y Minitja, cafodd yr artist gyfle i dystio i’r cydadweithio teimladwy rhwng y bobl Aboriginaidd a’r Wlad drwy’r arfer o ‘losgi claear’ (‘cool burning’). Mae’r delweddau yma’n dangos sut y gall dynoliaeth ddefnyddio tân i gynnal ac adfywio cydbwysedd ecolegol, yn ogystal â’r gwair marram, a’r gwahanol fathau o adar sy’n manteisio ar arferion tân i chwilota am fwyd.

Gobaith prosiect Truth in Fire yw ysbrydoli dealltwriaeth traws-ddiwylliannol a chefnogi mudiadau rhyngwladol. Mae’r dull cydweithredol yma o reoli tir yn Awstralia, sy’n parchu gwybodaeth frodorol am Wlad ac arferion tân diwylliannol, yn fodel arwyddocaol ar gyfer parhad bioamrywiaeth ecolegol.

Mae Tim Georgeson yn cydnabod ac yn diolch i bobl Cenhedloedd Cyntaf yr Yuin, Minitja a’r Murumburr yn Awstralia am ei wahodd i’w byd ac am rannu eu gwybodaeth. Mae’r artist yn cydnabod ceidwaid traddodiadol y Wlad a’u cysylltiad parhaus â’r tir, diwylliant a chymuned. Mae Georgeson yn cynnig ei barch i Henaduriaid y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Ni ildiwyd eu sofraniaeth fyth.

Proffil Artist

Portread o Tim Georgeson

Tim Georgeson

Artist gweledol, gwneuthurwr ffilm a ffotograffydd o Awstralia yw Tim Georgeson. Mae ei brofiadau o saethu mewn parthau cymorth dyngarol ac ar strydoedd y byd wedi rhoi amgyffrediad unigryw iddo am argyfyngau amgylcheddol, diwylliannau amrywiol ac agweddau o’r cyflwr dynol sy’n aml yn guddiedig.

Mae’r gwaith pwerus o emosiynol yma wedi ennill cydnabyddiaeth a gwobrau i Georgeson gan ddiwydiannau’r celfyddydau, y cyfryngau a byd ffilm, gan gynnwys World Press Photo, Leica Camera, Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffotograffiaeth (Efrog Newydd), Cannes Lions a National Geographic. Mae wedi arddangos - sioeau unigol a grŵp - yn Ffrainc, Y Deyrnas Gyfunol, Japan, Yr Iseldiroedd, Y Weriniaeth Tsiec, Canada, Unol Daleithiau America ac Awstralia. Mae ganddo weithiau yng nghasgliadau Oriel Bortreadau Genedlaethol Awstralia, orielau rhanbarthol yn Ne Cymru Newydd a chasgliadau preifat ledled y byd.

Cynrychiolir Tim Georgeson gan Oriel Olsen, Sydney