Land / Sea
Mike Perry
Mae gwaith yr artist Mike Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol arwyddocaol ac argyfyngus, yn arbennig y tensiwn rhwng gweithgareddau ac ymyriadau dynol yn yr amgylchedd naturiol, a breuder ecosystemau’r blaned (p’un a ydyw’n fôr neu’n dir).
Mae Land/Sea yn dod â dau gorff diweddar o waith at ei gilydd: Wet Deserts sy’n canolbwyntio ar leoliadau daearol ym Mhrydain sydd o dan oruchwyliaeth yn aml iawn, ac sy’n aml mewn mannau yr ydym yn cyfeirio’n gyffredin atyn nhw fel ardaloedd o harddwch naturiol, ein parciau cenedlaethol, ond lle mae tystiolaeth glir o effaith dyn; a Môr Plastig, sef corff parhaus o waith sy’n categoreiddio gwrthrychau a olchwyd i’r lan gan y môr i mewn i grwpiau – Poteli, Esgidiau, Gridiau, gan ddangos y manylion diddorol ar yr wyneb gyda chamera cydraniad uchel.
Yn gofalu am y gwaith mae Mike Perry, ac mae wedi ei addasu o Arddangosfa Deithiol Ffotogallery, Land/Sea, a drefnwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery a Ben Borthwick.
Proffil Artist
Mike Perry
Mae ffotograffau Mike Perry yn archwilio’r rhyngweithiad rhwng tirweddau, natur a’r gymdeithas ddiwydiannol. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ei ymarfer ar Barciau Cenedlaethol Prydain – ac yn gynyddol ar amgylchedd ei filltir sgwâr yn Sir Benfro, lle mae’n byw a gweithio – gan gwestiynu’r fytholeg ramantaidd sy’n cyflwyno’r parciau cenedlaethol fel manau gwyllt o harddwch naturiol. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth fformat mawr i gyfleu naws arlunyddol a harddwch esthetig arwyneb y tirlun gan ddangos ar yr un pryd yr effaith y mae pobl wedi ei gael wrth ymelwa ar natur er budd masnachol. Mae ei gyfres o ffotograffau llai (graddfa 1:1) yn dangos effeithiau prosesau naturiol ar arwyneb deunyddiau a gynhyrchwyd drwy brosesau diwydiannol. Wrth drafod y tensiwn rhwng ansawdd arwynebol-ddeiniadol a chynnwys cythryblus ei waith, mae’n dweud: ‘..yn ogystal ag amlygu’r gorddefnydd a’r llygredd, maent hefyd yn dangos gallu natur i siapio ein byd – pa un a ydym ni, fel pobl, yma neu beidio’.