Digwyddiad / 2 Hyd 2021

Imagining The Nation State – Agoriad

Dewch draw i BAYART i gymryd rhan yn agoriad arddangosfa Imaging the Nation State - menter ar y cyd rhwng Ffotogallery a Biennale Chennai Photo.

Mae arddangosfa Imagining The Nation State yn ffrwyth grantiau Galwad Agored a gafodd eu dyfarnnu i ffotograffwyr ac artistiaid lens o India a Chymru. Mewn cyfnod pan fo cysylltiadau rhwng unigolion yn fwy lluosog a byd-eang nag erioed o’r blaen yn ein hanes, mae’r syniad o ‘genedligrwydd’ yn dal yn rym nerthol sy’n uno pobl. Yn aml iawn, er bod yna un ‘genedl wladwriaeth’ ddiffiniedig, mae yna gymaint mwy o ffurfiau o’r genedl wladwriaeth honno’n bodoli yn nychymyg pobl – gan ddibynnu ar eu gogwydd a’u safbwynt.

A yw’n bosib erbyn hyn fod y syniad o hunaniaeth genedlaethol a ddiffinir gan iaith, hanes a diwylliant cyffredin yn tynnu’n groes i natur gymleth, lluosogaethol a chyfnewidiol cenhedloedd?

A yw’r term ‘cenedl wladwriaeth’ yn gysyniad rhy hen ffasiwn a chynhennus bellach ar gyfer trefnu pobl a thir, neu a yw’n dal i fod yn berthnasol yn ein byd cyfoes?

A allwn ni greu fersiwn newydd a chynhwysol o genedligrwydd sy’n gydnaws â’n cyfrifoldebau byd-eang?

Sut y gallwn sicrhau fod mentrau arloesol, ffurfiau diwylliannol, cyfoeth ac adnoddau cenedl yn cael eu harneisio er lles pawb, ac nid dim ond er budd y rheini sy’n byw o fewn ei ffiniau?

Rhoddwyd gwahoddiad i’r ffotograffwyr / artistiaid lens yma ymateb i’r cwestiynau hyn drwy greu dychmygion perthnasol, parhaus a chyfredol o’r syniad o genedl wladwriaeth. Roedd ymdrechu i gysyniadau’r ymdeimlad o unfathrwydd a gwahaniaeth (o ran yr hyn a dderbynnir fel templed ar gyfer y genedl wladwriaeth) yn ystyriaeth benodol wrth roi’r broses greadigol yma ar waith. Dewisodd yr artistiaid a gymerodd ran yn y broses amryw o wahanol foddau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) naratif, materoldeb, symboliaeth, ffenomenoleg, ffantasi, digwyddiadau a hapddigwyddiadau. Wrth galon y gwaith mae parodrwydd i arbrofi’n gysyniadol ac ymdeimlad o drafod yn feirniadol.

Trefnir y grant a’r arddangosfa gan Sefydliad Biennale Chennai Photo, mewn cydweithrediad â Ffotogallery, gyda chefnogaeth ariannol gan y British Council a Chyngor Celfyddydau Cymru. Beirniaid y gystadleuaeth oedd yr artistiaid a haneswyr nodedig o India a Ffrainc, Damarice Amao, Monica Narula, a Sheba Chhachhi.