Prosiect

Antonia Osuji and Coffee & Laughs Portraits

Coffee and Laughs

Mae Antonia Osuji (g. 1998) yn ffotograffydd dogfennol o’r DU, sy’n byw yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio cwrs BA Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ei diddordebau a’i gwaith yn gorwedd mewn anthropoleg ddiwylliannol a chynwysoldeb. Mae prosiectau yn y gorffennol megis Commonalitŷ a Family Portraits (Between Two Fires) yn canolbwyntio ar wahaniaethau diwylliannol ac ar gynnwys pob hil a chefndir ethnig.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar interniaeth gyda RCC (Race Council Cymru). Gweithiodd Antonia gyda menywod grŵp Coffee and Laughs Tŷ Cymunedol Casnewydd i archwilio a datblygu technegau ffotograffiaeth. Gan ddechrau gydag ymweliad ag awyrgylch hardd Gerddi Dyffryn, defnyddiodd y menywod gamerâu digidol i greu gwahanol effeithiau gyda’u delweddau, a chwarae gyda gludwaith o bapur a blodau. Rhoddodd y grŵp hyd yn oed gynnig ar greu camerâu twll pin, a chipio delweddau oedd bron yn haniaethol o’r Ardd Heddwch yng nghanolfan Tŷ Cymunedol.

Yna casglwyd holl ddelweddau’r grŵp at ei gilydd mewn ffolder cydweithredol, gan ddethol rhai ar gyfer arddangosfa. Defnyddiwyd y ffotograffau yma hefyd i greu byntin trawiadol gyda ffotograffau ar bob triongl bychan i addurno Tŷ Cymunedol ar gyfer gŵyl Maendy.

Proffil Artist

Portread o Coffee and Laughs

Coffee and Laughs

Elusen a grŵp cyfeillgarwch yw Coffee and Laughs ar gyfer menywod o bob oedran, ffydd a diwylliant. Mae’r grŵp yn rhedeg gweithdai rheolaidd gyda’r gymuned. Maent hefyd yn cefnogi elusennau lleol gan gynnwys Alice Foundation a Baby Bundles.

Mae’r grŵp wedi gweithio gyda’i gilydd ar sawl prosiect celfyddydau cymunedol gwobrwyol gydag artistiaid gan gynnwys Marion Cheung, Naseem Syed, Antonia Osuji a mwyaf diweddar, Maryam Wahid.

Mae Coffee and Laughs yn cwrdd pob dydd Iau yng nghanolfan Tŷ Cymunedol, Maendy. Maent yn dod ynghyd i ganfod cyfeillgarwch; i rannu syniadau; datrys problemau; gwneud brodwaith rhyfeddol; gwaith crefft i godi arian i elusennau; dysgu Saesneg neu sgiliau TG; ymweld â mannau o ddiddordeb diwylliannol; dysgu coginio prydau rhyngwladol gyda menywod o bob ffydd a dim ffydd o gwbl.

Mae Tŷ Cymunedol yn ganolfan gymunedol amlddiwylliannol, aml-ffydd yng Nghasnewydd, ac yn gwasanaethu cymunedau Maendy a thu hwnt. Eu cenhadaeth yw adeiladu cymuned ofalgar a chryfach gyda’i gilydd. Maent yn gwneud hyn drwy bŵer cyfathrebu, dysgu gan ei gilydd a thrwy weithio gyda’i gilydd mewn modd heddychlon.

Mae Tŷ Cymunedol yn dwyn pobl ynghyd o bob oedran, cefndir, hil a chrefydd. Boed hynny’n chwerthin dros baned o goffi, codi arian ar gyfer achos da neu goginio gyda’n gilydd, rydym ni wastad yn croesawu ffyrdd newydd i gysylltu â phobl.