Prosiect

Where's My Space

Abby Poulsen, Gilbert Sabiti, Chelagat

Ledled y byd, oherwydd y pandemig mae canolfannau celfyddydol a diwylliannol wedi gorfod cau am gyfnodau maith - y mannau lle’r ydym yn dod at ein gilydd, fel canolfannau celfyddydau, clybiau ieuenctid, canolfannau cymunedol, neuaddau dawns a theatrau. Mae’r pandemig hefyd wedi cyfyngu ar ein rhyddid i ymgasglu a sgwrsio mewn mannau cyhoeddus, caffis, bariau a hyd yn oed yn ein cartrefi ein hunain; mannau a llefydd lle’r oeddem yn rhannu straeon a chymdeithasu gyda theulu a ffrindiau. Ym myd y celfyddydau, bu’n rhaid inni greu cyfleoedd eraill i gymdeithasu, perfformio, arddangos, cyfnewid a rhannu mewn mannau rhithwir.

Mae Where’s My Space? yn brosiect digidol cydweithredol sydd wedi dod â dau sefydliad at ei gilydd – y naill o Genia, sef PAWA254, a’r llall o Gymru, sef Ffotogallery. Gyda’i gilydd maent wedi creu man cyfarfod rhithiol, neu ‘Base Noma’ (â rhoi iddo’i enw Ceniaidd), lle daeth pobl ifanc greadigol o’r ddwy wlad bartner at ei gilydd i gydweithio i gynllunio a datblygu gofod unigryw ar gyfer adrodd straeon gweledol. Rhoddodd y prosiect gyfle i ddau sefydliad diwylliannol deinamig gydweithio i gynllunio a datblygu gofod unigryw ar gyfer adrodd straeon gweledol yn ogystal â chysylltu pobl ifanc greadigol o Genia a Chymru.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda phedwar o bobl greadigol blaengar ac arloesol, dau o Gymru a dau o Genia, yn ogystal â myfyriwr ar ei bedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a fu’n gyfrifol am y gwaith dylunio 3D a gwireddu gweledigaeth bensaernïol Where’s My Space?

Mae Nancy Cherwon, a adnabyddir hefyd fel Chela, yn beintiwr, artist graffiti a darlunydd o Genia. Prif themâu ei gwaith yw diwylliant, ysbrydegaeth a hunaniaeth. Mae hi’n defnyddio symboliaeth, lliw a phatrymau i osod y cywair ar gyfer pob paentiad. Mae Gufy yn fardd ac artist gair llafar, sinematograffydd a ffotograffydd o Genia. Artist ffotograffig a gafodd ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin yng ngorllewin Cymru yw Abby Poulson. Mae ei gwaith yn archwilio syniadau am ei mamwlad, yn ogystal ag ymateb i hunaniaeth Gymreig, pryderon amgylcheddol, y gwledig, y cof a naws am le. Mae Gilbert Sabiti yn artist a darlunydd sy’n defnyddio’i waith yn bennaf i ymchwilio i’w dreftadaeth Rwandaidd a Phrydeinig a’i brofiadau fel dyn du’n tyfu i fyny ym Mhrydain; mae llawer o’i waith yn ymddangos mewn e-gyhoeddiadau lle mae’n defnyddio cyfryngau golygyddol, technegau darluniadu a theip i greu cynnwys. Bu ein dylunydd/pensaer 3D, James yn defnyddio meddalwedd SkethchUp a Vray i wireddu gweledigaeth bensaernïol y gwahanol fannau rhithwir yn ogystal â chreu’r cyfleadau terfynnol. Cafodd y delweddau panoramig o’r cyfleadau hynny eu pwytho at ei gilydd a’u troi’n vista 3D i greu’r gofod rhithwir gorffenedig gan ddylunydd llawrydd Ffotogallery, Oliver Norcott. Cafodd y prosiect ei guradu gan Cynthia MaiWa Sitei, Cynhyrchydd Creadigol yn Ffotogallery Cymru a Njeri Mwangi, Cyd-sylfaenydd menter PAWA ac Arweinwyr Prosiectau Arbennig PAWA254.

O ran y pedwar artist, nid oedd unrhyw ffiniau creadigol i’r prosiect yma; ac fe gymeron nhw fantais lawn o hynny drwy wthio eu hunain i adfeddiannu ac ail- ddychmygu’r mannau sy’n eu cynrychioli nhw, eu hunaniaeth, eu hymarfer a’u bodolaeth.

Ymweliad Hub

Proffil Artistiaid

Portread o Abby Poulsen

Abby Poulsen

Mae Abby Poulson yn artist ffotograffig. Cafodd ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin yng ngorllewin Cymru. Mae’n defnyddio technegau di-gamera, prosesau amgen, gosodweithiau a cherflunwaith gan roi ei phroses ar waith yn eang ac arbrofol wrth archwilio syniadau am ei mamwlad, yn ogystal ag ymateb i hunaniaeth Gymreig, pryderon amgylcheddol, y gwledig, y cof, a man a lle. Mae Abby hefyd yn guradur gweithredol ac yn gynhyrchydd creadigol, ac mae wedi arddangos a chyhoeddi ei gwaith ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol.

Portread o Gilbert Sabiti

Gilbert Sabiti

Rwy’n ddylunydd graffeg llawrydd aml-ddisgyblaethol wedi fy seilio ym Mryste. Mae llawer o’r gwaith a wnaf wedi ei sbarduno gan y cynnwys a’r stori. Yn ei hanfod, mae adrodd stori wrth wraidd fy nghreadigedd ac mae hynny wedi ei ysbrydoli’n bennaf gan faterion byd. Rydw i’n defnyddio cyfryngau golygyddol a theip i ddarparu’r cynnwys, yn bennaf ar ffurf e-gronau.

Portread o Chelagat

Chelagat

Cafodd Chelagat ei geni yn Nairobi, Cenia yn 1992.

Mae’n gweithio gyda phaent yn bennaf; acryligion ar gynfas a phapur.

Mae hefyd yn defnyddio paent aerosol a darluniadau digidol fel cyfryngau mynegiant.

Cefndir proffesiynol

Enillodd Chelagat ei gradd bagloriaeth ym Mhrifysgol Nairobi yn 2015, lle bu’n astudio dylunio gan arbenigo mewn darluniadu.

Mae wedi arddangos rhai o’i gweithiau yn yr Alliance Francaise yn Nairobi, stiwdios Subtopia yn Sweden, Oriel Kerry Parker Civic yn Awstralia, Logale House yn Juba, The Baobab House yn Juba, menter gydweithredol Bega kwa Bega yn Babadogo ac Ibuka yn y Brifysgol. Mae wedi creu celf stryd ar waliau oriel Kerry Parker Civic yn Awstralia, Amgueddfa Genedlaethol Wganda, Parc Sglefrfyrddio Kitintale (Kampala), Mamba yn Kigali, Jericho, Eastleigh a llawer mwy.

Prif themau ei gwaith yw Diwylliant, ysbrydegaeth a hunaniaeth. Mae hi’n defnyddio symboliaeth, lliw a phatrymau i osod y cywair ar gyfer pob paentiad.