Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

Devotees of Rock

Paul Adrian Davies

Cychwynnodd fy nhaith at roc a rôl pan welais Bob Dylan yn fyw pan oeddwn i’n bymtheg oed. Yn y degawdau sydd wedi dilyn hynny rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld cannoedd o sioeau byw, yn bennaf roc a rôl ond hefyd reggae, pync, hardcore, soul, rhythm a blues, blues, canu gwlad ac ysgeintiad o jazz.

Un o’r agweddau mwyaf hwyliog o’r profiad o sioeau byw i mi yw’r cyfle i gwrdd â chefnogwyr eraill o bob cefndir. Rydw i wedi cwrdd â nhw wrth aros tu allan i safleoedd cyngherddau, yn y sioe ei hun ac, yn ôl yn y gorffennol pell, wrth aros mewn llinell ar y stryd i brynu tocynnau.

Mae perthynas dda rhwng y cefnogwyr, gallech chi hyd yn oed ei alw’n solidariaeth, oherwydd eu cyd-gariad at yr artist ac effaith yr artist hwnnw ar eu bywydau. Mae cefnogwyr yn fwy na bodlon rhannu eu profiadau. Maen nhw’n hoffi siarad am sioeau cofiadwy yr aethon nhw iddynt, y ffaith eu bod nhw wedi cwrdd â’u cariadon mewn sioe, sut maen nhw’n awr yn mynd i sioeau gyda’u plant neu hyd yn oed y ffaith eu bod nhw wedi enwi eu plant ar ôl artist neu gân gan artist. Mae nifer o Roslitas i’w cael sy’n ferched i gefnogwyr Bruce Springsteen.

Tua deng mlynedd yn ôl, dechreuais dynnu lluniau’r cefnogwyr roeddwn i’n eu cwrdd naill ai’n unigol neu mewn grwpiau bach. Rydw i wedi cwrdd â phobl ddiddorol o bob cwr o’r byd yn y broses ac wedi clywed straeon gwych.

Proffil Artist

Portread o Paul Adrian Davies

Paul Adrian Davies

Cafodd Paul Adrian Davies ei eni yng Nghaerdydd, Cymru ac mae’n byw erbyn hyn yn ninas Efrog Newydd.

Mae’n ffotograffydd stryd yng nghyd-destun ehangaf y disgrifiad hwnnw. Gallai’r “stryd” fod yn isffordd yn Efrog Newydd, yn deml yn India, yn farchnad yn Mecsico neu’n brotest yn Barcelona. Mae ganddo ddiddordeb cryf mewn portreadau a hefyd mewn celfyddyd stryd a graffiti.

Mae hefyd yn cael ei ddenu at bobl sydd wedi eu huno â’i gilydd gan gysylltiad cyffredin. Mae’r bobl hyn yn cynnwys cefnogwyr roc, perfformwyr stryd a phobl sy’n mynd i orymdeithiau.

Mae wedi addysgu ffotograffiaeth yng Nghlinig Seiciatrig Payne Whitney yn Ninas Efrog Newydd.