I Am A Survivor
Jacques Nkinzingabo
Y cwbl y mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ar y cyfryngau am Rwanda, yn arbennig ffotograffau, yn ei wneud yw tanlinellu ei delwedd fel gwlad mewn trafferthion mawr ac ynddi bobl yr un mor gythryblus. Mae’r ffotograffau hyn yn dangos oedolion a aned cyn ac ar ôl 1994, ac mae’n eu dangos nhw’n symud ymlaen ar ôl goroesi eu trafferthion i greu eu hunaniaethau eu hunain. Maen nhw’n bobl sy’n dathlu eu cyflawniadau er gwaethaf yr erchyllterau, ac rwy’n fy nghyfri fy hun ymysg eu nifer – cefais innau hefyd fy ngeni yn y flwyddyn honno a bu farw fy nhad yn ystod yr hil-laddiad yn erbyn y Tutsi pan oeddwn i’n ddim ond 10 diwrnod oed. Felly, rwy’n fy ystyried fy hun yn gydweithredwr, galluogwr, rhywun sy’n cerdded y llwybr creadigol ochr yn ochr â’r bobl sydd yn fy lluniau. Er mai fi ddarparodd y gwisgoedd, y goroeswyr benderfynodd sut roedden nhw eisiau eu cyflwyno eu hunain, sut roedden nhw eisiau dangos eu balchder a’u gwydnwch.
Mae’r llythyrau a ddaw ochr yn ochr â’r rhain yn cynnig ffordd o anfon negeseuon at eu teuluoedd a chysylltu â’r meirw. Mae Ndizeye yn ysgrifennu yn ei lythyr: “Rwyf wedi tyfu i fod yn debyg iawn i chi, a dyna atgofion hyfryd iawn ohonoch chi sydd yn y byd hwn. Wrth ddweud hyn rwy’n golygu eich bod chi’n dal i fyw drwof fi. Meddyliais amdanoch heddiw, ond dydy hynny’n ddim byd newydd. Meddyliais amdanoch chi ddoe a’r dyddiau cyn hynny hefyd.”
Mewn ffordd, mae pob aelod o genhedlaeth 1994 yn oroeswr, mae pob un ohonom wedi tyfu dan effeithiau’r trais a rwygodd ein gwlad yn ddarnau. Heddiw, drwy fy ngwaith a thrwy sefydlu Canolfan Ffotograffiaeth Kigali, rwy’n cyfrannu at y ffordd yr adroddwn ein straeon ein hunain, drwy greadigedd, chwarae, ailddyfeisio a gwrthsafiad.
Proffil Artist
Jacques Nkinzingabo
Mae NKINZINGABO yn DJ, Cynhyrchydd Cerddorol a ffotograffydd a ddysgodd ei hun. Cafodd ei eni yn Kigali ac mae wedi ei seilio yno heddiw. Sefydlodd Sefydliad Celf Kwanda gyda’r bwriad o adeiladu cymuned ffotograffiaeth yn Rwanda drwy ei sefydlu, ei haddysgu, gwella eu gwybodaeth a hyrwyddo’r gymuned a’r diwydiant celf yn Rwanda mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.
Sefydlodd Ganolfan Ffotograffiaeth Kigali, fel oriel a lle hyfforddi i alluogi i bobl
gyfnewid, myfyrio, cwrdd, gwrando, ac hefyd arfer a datblygu gwaith newydd. Mae ei waith yn canolbwyntio ar amrywiaeth ddiwylliannol, mudo, atgofion a materion yn
ymwneud â hunaniaeth, ac mae ei waith wedi cael ei arddangos drwy’r byd i gyd.