Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

Welsh from Everywhere

Rhys Webber

Cafodd fy mhrosiect Welsh from Everywhere ei ysbrydoli gan linell mewn cerdd o’r enw Maindee gan Susan Lewis, a oedd yn rhan o arddangosfa ‘Straeon Maendy / Maindee Stories’ gan yr artist Marion Cheung a oedd yn gweithio gyda grŵp amlddiwylliannol o fenywod sy’n cyfarfod yn Community House.

Dyma’r llinell: "It will be, What we make it. Us, together. Welsh from everywhere". Mae cerdd Susan yn amlygu amrywiaeth ddiwylliannol anhygoel ardal Maendy yng Nghasnewydd, lle mae’r ysgol gynradd leol yn dathlu’r ffaith y siaredir 30 o wahanol ieithoedd fel iaith gyntaf ar aelwydydd cartrefi plant yr ysgol. Beth bynnag fo’u treftadaeth ddiwylliannol, fel trigolion y gornel fach yma o Gymru, maent yn cael eu croesawu fel "Cymry o Bobman" – "Welsh from Everywhere".

Cefais gyfle i sefydlu stiwdio mewn sawl digwyddiad yn Community House – adeilad sy’n guriad calon i gymuned amlddiwylliannol Maendy – gan gynnig tynnu portreadau o unrhyw un a oedd yn dymuno. Mewn llond dwrn o sesiynau rwyf wedi cwrdd â phobl o dros 30 o wledydd ac wedi cael cyfle i glywed eu straeon a thynnu eu lluniau. Maen nhw’n bobl o bob rhan o’r byd - o Jamaica i Rwmania, o Mawritiws i Bangladesh. Mae’r ffotograffau yma’n dangos Cymru newydd, Cymru lle mae amlddiwylliannaeth yn cyfoethogi hen wlad fy nhadau.

Proffil Artist

Portread o Rhys Webber

Rhys Webber

Fe dyfodd Rhys i fyny yng Nghasnewydd gan dreulio’i ieuenctid yn tynnu ffotograffau o’i ffrindiau, a gwario’i arian poced ar ffilm, papur a chemegau. Ar ôl ennill gradd mewn Ffotograffiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol Westminster, bu’n dilyn dau lwybr gyrfa – yn gweithio’n llawrydd ym maes dylunio a ffotograffiaeth a dysgu mewn colegau a phrifysgolion yn Llundain.

Dychwelodd i Gasnewydd yn 2004 gan sefydlu cwmni Webber Design a Webber Photo – yn gwneud gwaith i gleientiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a thynnu ffotograffau o unrhyw beth y byddai’r cleientiaid yn ei dalu i wneud (heblaw priodasau).

Yn 2009, dechreuodd Rhys ar ei brosiect hirdymor, ‘Newportraits’. Nod y prosiect oedd dogfennu holl amrywiaeth bendigedig pobl Casnewydd. Ar y pryd, roedd Casnewydd yn teimlo fel dinas ‘ddirwasgedig’, ‘isel ei hysbryd’ a oedd yn barod iawn i gredu’r sylw anffafriol a roddwyd iddi yn y wasg. Dechreuodd Rhys y prosiect fel ffordd o fwrw golau cadarnhaol ar drigolion y ddinas...a dangos y gymuned fel y mae ef yn ei gweld hi, a holl botensial y bobl sy’n byw yno.

Tynnwyd y rhan fwyaf o’r portreadau mewn digwyddiadau fel Gŵyl Maendy a’r Sblash Mawr, lle estynodd Rhys wahoddiad agored i bawb gael tynnu eu llun – tynnodd bron i 100 o bortreadau ym mhob sesiwn. Cafodd llawer o’r portreadau yma eu tynnu ym Maendy, un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghasnewydd – lle mae aelodau cymuned yr ysgol gynradd leol yn siarad 30 o wahanol ieithoedd fel ieithoedd cyntaf. Yn anad dim, mae Rhys yn gwerthfawrogi’r cyfle i feithrin cysylltiad gyda’r bobl y mae’n tynnu eu ffotograffau – pwy bynnag ydynt ac o ba le bynnag y maent yn dod – ac mae hynny’n disgleirio drwy’i waith.