Spectacle
John Briggs
Rhywdro yn yr 1980au cafodd tref Casnewydd ei disgrifio’n anffafriol fel ‘anialwch’ a ‘lle heb unrhyw gynlluniau’ (‘a no man’s land, a no plans land’). Bryd hynny roedd prosiectau fel canolfan siopa Friars Walk y tu hwnt i bob dychymyg. Ta waeth am hynny, fe wnes i fabwysiadu Casnewydd fel cartref yn 1976. Ar y pryd, roeddwn yn cychwyn fy ngyrfa fel athro, a llawn mor bwysig â hynny, yn dechrau fy ngyrfa fel ffotograffydd – yn eiddgar i fwrw’r strydoedd gyda fy SLR, yn barod i archwilio gwead trefol y gymdeithas a’r ddynoliaeth yno. Yn fuan iawn, fe ffeindiais fod gan dref Casnewydd rhyw apêl ffotograffig hynod nad oeddwn wedi dod ar ei draws yn fy nhref enedigol yn America, nac ychwaith yng Nghaerdydd, lle’r oeddwn newydd dreulio dwy flynedd. Mae pob dinas yn cynnig posibiliadau di-ben-draw i unrhyw un sy’n cael ei gymell i dynnu ffotograffau o bobl. Ond yr hyn y mae Casnewydd yn llwyddo i’w wneud mor dda yw dod â nifer fawr o bobl at ei gilydd mewn mannau cymharol fach – boed hynny yng nghanol y ddinas neu ar draws ei chymunedau amrywiol. O fy nghartref, gyda fy nghamera yn fy llaw, gallaf gerdded i ganol y ddinas mewn llai na deg munud; neu i Baneswell neu Maendy, Pilgwenlly neu Ridgeway. Chwarter awr ar y bws...ac rwyf yng nghwmni trigolion Bettws neu Ringland. Doedd dim rhaid i fi grwydro’n rhy bell i ffeindio testunau ar gyfer fy nghyfrol gyntaf, ‘Newportrait’ (Seren 2009). Os oedd y sioe ryfeddol o
ddynoliaeth ar strydoedd y ddinas, er yn amrywiol, ychydig yn fwy rhagweladwy ddegawd yn ôl, mae digwyddiadau nodedig y blynyddoedd diwethaf yn golygu eich bod yn dod ar draws pobl dra gwahanol ar ei strydoedd heddiw. Mae digwyddiadau fel Cwpan Ryder (2010), Cynhadledd NATO a’r protestiadau a ddaeth yn ei sgil (2014) a phrotest Black Lives Matter (2020) wedi hybu’r newid yma. Heddiw, mae pobl o bob math - nid trigolion Casnewydd yn unig, ond pobl o bob rhan o’r byd – wedi cymryd rhan mewn cynulliadau dynol na welwyd eu tebyg o’r blaen yn y ‘Port’. Mae’r defnydd cyferbyniol o ddu a gwyn analog yn erbyn delweddau lliw digidol yn dramateiddio’r dilyniant drwy amser o hen senarios i rai mwy diweddar. Mae dilyn y sioe ryfeddol yma o ddynoliaeth yng Nghasnewydd wedi cydio yn fy nychymyg dros y deugain mlynedd ddiwethaf. A nawr, wrth i ni wynebu heriau ein pandemig a’r modd y mae wedi staenio’r dyfodol a’r effaith y mae’n mynd i’w gael ar bob un ohonom, bydd fy archif yn parhau i dyfu ac ehangu.
Proffil Artist
John Briggs
Mae John Briggs yn ffotograffydd o Minnesota sydd wedi byw yn Ne Cymru ers yr 1970au. Mentrodd allan i strydoedd Caerdydd gyda’i SLR am y tro cyntaf yng nghanol yr 1960au pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg yr Iwerydd. Yn niwedd y 60au dychwelodd i Minnesota i fynd i’r brifysgol, ac yna bu’n gweithio fel ffotograffydd rhan-amser i bapur y Minnesota Daily ym mlynyddoedd cynnar y 70au. Dychwelodd i Gymru yn 1974 i wneud cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu’n athro Ffrangeg mewn ysgolion uwchradd am 24 mlynedd. Yn ystod yr un cyfnod, bu’n tynnu ffotograffau’n gyson ymysg cymunedau’r dociau a’r gweithfeydd dur yng nghanol dinas Caerdydd yn ogystal ag yng Nghasnewydd – ei gartref mabwysiedig. Mae’n awdur pedair cyfrol (a gyhoeddwyd gan Seren) sy’n dogfennu’r newidiadau a welwyd yng Nghaerdydd a Chasnewydd dros y pedair degawd ddiwethaf. Yn ogystal â’i weithiau cyhoeddedig, mae wedi arddangos ei ffotograffau’n helaeth yng Nghaerdydd a Chasnewydd.