Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

<Truth DeQay>

Richard Jones

Mae <Truth DeQay> yn archwilio effaith y pandemig ar berthynas cymdeithas gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Pan oedd dinasyddion yn ail gychwyn eu perthynas gyda natur, roedden nhw hefyd yn cyrchu llifoedd diddiwedd o wybodaeth, wrth i’r cyfryngau cymdeithasol fynd yn wyllt.

Roedd llawer o’r wybodaeth yn ffeithiol anghywir ond ysgogodd farn gref.

Dydy algorithmau’r cyfryngau cymdeithasol ddim yn gwahaniaethu rhwng gwirionedd ac anwiredd. Mae’r algorithmau’n tynnu ar emosiwn dynol ac yn gwthio defnyddwyr i mewn i dyllau cwningod tra bo Technoleg Fawr yn elwa i’r eithaf ar broffiliau digidol y defnyddwyr. Model a ddisgrifiwyd fel “cyfalafiaeth goruchwyliaeth”.

Mae’r ffin ddigidol, lle mae’r byd naturiol a’r byd digidol yn cwrdd, yn cynrychioli “dirywiad gwirionedd” ac yn gofyn y cwestiwn: O le ydyn ni’n cael ein gwybodaeth ac a ydyw’n ddibynadwy?

Mae safbwynt gwybodegol y prosiect yn adwaith i’r cynnydd mewn grwpiau sy’n ymwneud â chynllwyniau sydd yn aml yn cyfochri â phoblyddiaeth ac yn gweithredu heb eu rheoleiddio.

Mae’r dorch flodau, sy’n ganolog i <Truth DeQay>, wedi ei chreu o gwmwl pwyntiau dwys, sy’n cynnwys 40 miliwn o bwyntiau data, wedi eu cyfrifo ag algorithm y meddalwedd. Er ei fod yn debyg i’r dorch go iawn, mae’n amlwg bod gwallau yn y fersiwn 3-d a grewyd gan algorithm y meddalwedd.

Maer fideo “cefn-dir”, wedi ei gyfansoddi’n bennaf o olygfeydd o stormydd y gaeaf diwethaf, a chafodd ei recordio wrth i ail don y pandemig ymchwyddo ac wrth i’r Arlywydd Trump geisio tanseilio’r broses ddemocrataidd.

Mae’r seinlun yn cymysgu seiniau naturiol a recordiadau maes gyda chlipiau newyddion ac ymadroddion mewn llais robot deallusrwydd artiffisial, a oedd wedi eu trefnu’n drac sain a gyfansoddwyd ac a gynhyrchwyd gan Phil a Jai Reeve.

Proffil Artist

Portread o Richard Jones

Richard Jones

Nod y Cymro, Richard P Jones, yw dangos sut mae pobl yn cael eu heffeithio gan gymdeithas a’u hamgylchiadau. Mae Richard wedi symud o “ffotograffiaeth draddodiadol” i archwilio’r ymraniad digidol, y parth trothwyol, lle mae’r bydoedd ffisegol a’r digidol yn cwrdd.

Mae Richard yn gweithio gyda ffotogrametreg (ffotograffiaeth 3-d), fideo, ffotograffiaeth, llais wedi recordio, sain amgylcheddol a phrint.

Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn DOX, Prague, Y Smithsonian, Washington a Senedd Cymru.

Tan 2012, roedd Richard yn gweithio fel ffotograffydd dogfennol yn China a Japan lle enillodd Wobr Ffotograffwyr y Wasg Cenedlaethol (UDA), Gwobrau’r Wasg Hawliau Dynol (Asia) ac roedd yn agos i’r brig yng Ngwobrau’r Wasg yn y DU.