Holding On
Lydia Panas
Mae fy ngwaith yn ddeialog rhwng y gorffenol a’r presennol. Wrth archwilio fy is- ymwybod, rwy’n ystyried yr hyn yr oeddwn yn dyheu amdano fel plentyn, yr hyn yr oeddwn yn ei ofni, a’r trawsffurfiad o fod yn ferch i fod yn fenyw. Wrth edrych drwy’r lens, rwy’n ailffurfio hanes. Ond y tro yma, fi sy’n dal y camera. Wrth grwydro’n ddwfn i fy enaid mae’r broses yn goleuo pethau, gan fy nwyn yn agosach at fy hunan, a chynnig ymdeimlad o reolaeth.
Mae Holding On yn ymwneud â’r pethau yr ydym yn dal gafael ynddynt – ffrindiau, teulu, gobeithion, ofnau, siomedigaethau, methiant, dyhead, llawenydd. Mae’n gleddyf deufin. Ar y naill law, gall dal gafael mewn pethau ddod ag atgofion cynnes - o enydau a phobl. Ond gall ein cymell i dderbyn dulliau hesb a hen agweddau hir sefydlog sy’n ffrwyno twf personnol a chynnydd cymdeithasol. Mae’r menywod yn Holding On yn cyffwrdd â’i gilydd ac yn gafael yn ei gilydd. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd. Mae hon yn gyfres o weithiau am symud ymlaen gyda’n gilydd.
Mae’r delweddau yma’n gweithio fel hunan-bortreadau; gan gyfleu’r hyn y mae fy llygaid yn ei weld yn ystod y cyfarfyddiad clos ond diysgog gyda’r modelau. Mae’r ffigurau yma’n sefyll o’n blaenau, yn ymgorfforiadau diriaethol o’n gorffennol – ein gorffennol torfol ac unigol. Mae’r menywod hunan-ymwybodol yma a minnau yn edrych i fyw llygaid ein gilydd wrth i ni ddechrau tynnu ein haenau tenau allanol, a deall ein gilydd yn berffaith. Mae’n ffenest o gysondeb, lle mae popeth dianghenraid yn ildio i freuder a chryfder.
Mae fy ngwaith yn ymdrin â phwysigrwydd pherthnasoedd teuluol a hanes a phrofiad ar draws y cenedlaethau; mae fy ngwaith yn stori am gariad, pŵer ac ymddiriedaeth.
Proffil Artist
Lydia Panas
Mae Lydia Panas yn gweithio gyda ffotograffiaeth a fideo i archwilio ein perthynas
gymdeithasol dorfol â menywod. Mae ei gwaith yn rhoi sylw i’r enaid a’r hyn sydd
islaw’r wyneb gan ymchwilio i gwestiynau am bwy ydym ni, a’r hyn yr ydym eisiau bod. Mae gwaith Panas wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol ac wedi ymddangos mewn nifer o gyfnodolion gan gynnwys, The New Yorker, The New York Times Magazine a Hyperalergic. Mae ganddi raddau o Ysgol y Celfyddydau Gweledol yng Ngholeg Boston, a Chanolfan Ffotograffiaeth Ryngwladol Prifysgol Efrog Newydd (NYU/ICP). Mae wedi derbyn Cymrodoriaeth Astudio Annibynnol Amgueddfa Whitney a Chymrodoriaeth y Ganolfan ar gyfer Artistiaid Gweledol sy’n dechrau dod i’r Amlwg (CFEVA) yn Philadelphia. Mae ganddi ffotograffau mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys Amgueddfa Brooklyn, Amgueddfa’r Bronx, Amgueddfa’r Celfyddydau Cain yn Houston, Amgueddfa Gelf llentown ac Amgueddfa Ffotograffiaeth Gyfoes Chicago. Mae wedi cyhoeddi dau fonograff sef, ‘The Mark of Abel’ (Kerher Verlag, 2012) a ‘Falling From Grace’ (Conveyor Arts, 2017). Bydd yn cyhoeddi ei thrydydd, ‘Sleeping Beauty (MW Editions) ym mis Rhagfyr 2021.