Parade
John Rea, Huw Talfryn Walters
Arddangosfa o waith o osodwaith ymdrwythol aml-gyfrwng gwreiddiol, a gomisiynwyd gan Lyfrgell y Maendy, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
“Yng nghanol y ddinas y mae’r henebion ond, gan mwyaf, nid dyna ble mae bob yn byw eu bywydau…” Guido Guidi.
Mae fy ngwaith creadigol wedi ei ysbrydoli gan leisiau pobl Cymru. Rwyf wedi canolbwyntio ar natur felodig, a gweadau gwahanol dafodieithoedd ac ieithoedd; yn enwedig ein tafodieithoedd Cymreig ac Eingl-gymreig brodorol, a sut y cânt eu hadlewyrchu yn ein hamgylchedd, a’u diffinio ganddi.
Treuliais amser yn y Maendy, Casnewydd, yn cyfarfod a gwrando ar straeon pobl, ochr yn ochr â’r ffilmiwr a ffotograffydd Huw Talfryn Walters. Wedi dod i adnabod llawer o’r bobl hynny oedd yn byw, gweithio ac addoli yno, a chipio oriau o ffilm, cyfweliadau, ac ymateb i’w synau, cyflwynais y deunydd vérité yma, yn osodwaith ymdrwythol safle-benodol: profiad ar y cyd wedi ei leoli yn y gymuned; a phorth ar-lein; perthynas ‘un-wrth-un’ mwy agos atoch.
Mae’r gwirioneddau a’r realiti ddaw i’r golwg, o’u gweld ar y cyd, yn mynegi ymdeimlad cryf o le, ac o’r hyn mae’n ei olygu i berthyn, a realiti byw yn Ne-ddwyrain Cymru drefol. Mae’n giplun o fywyd yn y Maendy, fel y gwelsom ni ef yn 2019.
Gan ddefnyddio dull cinéma vérité¸a ddylanwadwyd gan y gwneuthurwr ffilmiau dogfen, Pierre Perrault, mae’r gwaith yn ymwneud â goblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol yr hyn sy’n cael ei ddal ar ffilm.
Proffil Artistiaid
John Rea
Mae John yn gyfansoddwr ac artist aml-gyfryngol sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirlun Cymru, ac mewn cysylltiadau trawsddiwylliannol a chydweithrediadau. Ei ddiddordeb yw ymateb i le, cymuned, ac archwilio dulliau cyflwyno rhyngddisgyblaethol newydd.
Yn 2018 cyflwynodd John waith safle-benodol arwyddocaol mewn cydweithrediad ag archifau Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn cyfuno recordiadau hanesyddol gyda naratif cerddorol wedi ei chyfansoddi, a ffilm. Ail-ddychmygwyd hyn yn ddiweddarach ar gyfer comisiwn Ffotogallery ar gyfer Gŵyl Diffusion ‘Llun a Sain’ yn 2019.
Ar hyn o bryd mae John yn datblygu cydweithrediad amlddisgyblaethol gyda’r offerynnwr taro enwog y Fonesig Evelyn Glennie; gwaith dan ddylanwad ‘sbectrol’ sydd yn cyfuno sain ymdrwythol, gyda pherfformiad a ffilm sain-adweithiol.
Huw Talfryn Walters
Roedd gweithio gyda John Rea ar y prosiect hwn yn gyfle prin i ddod â lluniau symudol a’r ddelwedd lonydd at ei gilydd. Rwyf wedi adnabod John ers ein dyddiau ysgol ac mae cydweithio ag ef ar hwn, ac yn y gorffennol ar y prosiect Atgyfodi, wedi bod yn ymadawiad gwych â’m gwaith masnachol. Mae’n gyfle i gyfathrebu â chamera mewn ffordd hollol wahanol ac weithiau mewn ffordd ddigon digymell sy’n rhyddhaol iawn.
Fel sinematograffydd, mae gen i dair gwobr Bafta Cymru ond fy nghariad cyntaf yw
ffotograffiaeth Fformat Mawr, sydd yn aml yn defnyddio deunyddiau hen ffasiwn fel ffilm Polaroid math 55 a gwneud Printiau Platinwm. Fy newis bwnc yw Tirwedd Cymru.