Prosiect

Maryam Wahid and Coffee & Laughs Portraits

Maryam Wahid, Coffee and Laughs

​Mae Maryam Wahid (g. 1995) yn artist gwobrwyol. Gan ddefnyddio celfyddyd ffotograffiaeth mae gwaith Wahid yn fywgraffiadol ac yn archwilio ei hunaniaeth fel menyw Fwslimaidd Pacistanaidd Brydeinig.

Mae hi’n mynegi gwreiddiau’r gymuned Bacistanaidd yn ei thref enedigol, Birmingham (DU) drwy archwilio ei hanes teuluol ei hun sydd â gwreiddiau dwfn; ac integreiddiad torfol mewnfudwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae ei chefndir academaidd mewn Celf, Ffotograffiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ochr yn ochr â’i diddordeb mewn gwybyddiaeth ddiwylliannol ac ideolegau crefyddol yn dylanwadu fwyfwy ar ei gwaith. Mae ei gwaith yn archwilio benywdod, hanes cymuned De Asia ym Mhrydain a’r syniad o gartref a pherthyn.

Daeth Maryam ar draws merched Coffee and Laughs y tro cyntaf pan ddaethant i weld ei harddangosfa solo yn Ffotogallery, Caerdydd. Mi wnaethon nhw rannu straeon ac archwilio hanesion unigol a chyfunol wrth i Maryam ddod i’w hadnabod yn well a, ynghyd â Maryam, fe aethant ymlaen i gynllunio eu portreadau eu hunain: beth oeddent am wisgo, os oeddent am gynnwys ffotograffau o’r teulu a sut hoffant gael eu cynrychioli, eu gweld a’u cofio. Yna trefnodd Maryam y sesiynau tynnu llun gyda’r grŵp i osod a chipio’r portreadau yr oedden nhw wedi eu cynllunio.

Mae’r portreadau a grëwyd yn helpu i adrodd hanes y menywod: eu cefndiroedd, teuluoedd, llwyddiannau a phrofiadau. Maent yn bersonol ac yn ddadlennol gan gynnig mewnwelediad i sut mae’r menywod yma am gael eu gweld gan y bobl o’u hamgylch. Wrth weithio ar y prosiect lluniwyd sawl cyfeillgarwch, ac roedd hi’n fraint i bawb gymerodd ran gael gwrando ar y straeon a rannwyd.

Proffil Artistiaid

Portread o Maryam Wahid

Maryam Wahid

Mae Maryam Wahid (ganed 1995) yn artist llawrydd sydd wedi ennill gwobrau ac mae ei gwaith yn archwilio ei hunaniaeth fel merch Fwslimaidd Bacistanaidd Brydeinig. Mae hi’n mynegi gwreiddiau’r gymuned Bacistanaidd yn ei dinas gartref, Birmingham (DU) drwy archwilio ei hanes teuluol sydd â gwreiddiau dwfn yno; a’r integreiddio mawr gan ymfudwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae ei chefndir academaidd mewn Celf, Ffotograffiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ochr yn ochr â’i diddordeb mawr mewn gwybyddiaeth ddiwylliannol ac ideolegau crefyddol wedi dylanwadu’n gynyddol ar ei gwaith. Mae ei gwaith yn archwilio’r hunaniaeth fenywaidd, hanes cymuned o Dde Asia ym Mhrydain a’r syniad o gartref a pherthyn. Mae hi wedi cael ei chomisiynu i greu ffotograffau i’r Guardian, Financial Times, Prifysgol Metropolitan Manceinion a The People’s Picture, ymysg eraill.

Portread o Coffee and Laughs

Coffee and Laughs

Elusen a grŵp cyfeillgarwch yw Coffee and Laughs ar gyfer menywod o bob oedran, ffydd a diwylliant. Mae’r grŵp yn rhedeg gweithdai rheolaidd gyda’r gymuned. Maent hefyd yn cefnogi elusennau lleol gan gynnwys Alice Foundation a Baby Bundles.

Mae’r grŵp wedi gweithio gyda’i gilydd ar sawl prosiect celfyddydau cymunedol gwobrwyol gydag artistiaid gan gynnwys Marion Cheung, Naseem Syed, Antonia Osuji a mwyaf diweddar, Maryam Wahid.

Mae Coffee and Laughs yn cwrdd pob dydd Iau yng nghanolfan Tŷ Cymunedol, Maendy. Maent yn dod ynghyd i ganfod cyfeillgarwch; i rannu syniadau; datrys problemau; gwneud brodwaith rhyfeddol; gwaith crefft i godi arian i elusennau; dysgu Saesneg neu sgiliau TG; ymweld â mannau o ddiddordeb diwylliannol; dysgu coginio prydau rhyngwladol gyda menywod o bob ffydd a dim ffydd o gwbl.

Mae Tŷ Cymunedol yn ganolfan gymunedol amlddiwylliannol, aml-ffydd yng Nghasnewydd, ac yn gwasanaethu cymunedau Maendy a thu hwnt. Eu cenhadaeth yw adeiladu cymuned ofalgar a chryfach gyda’i gilydd. Maent yn gwneud hyn drwy bŵer cyfathrebu, dysgu gan ei gilydd a thrwy weithio gyda’i gilydd mewn modd heddychlon.

Mae Tŷ Cymunedol yn dwyn pobl ynghyd o bob oedran, cefndir, hil a chrefydd. Boed hynny’n chwerthin dros baned o goffi, codi arian ar gyfer achos da neu goginio gyda’n gilydd, rydym ni wastad yn croesawu ffyrdd newydd i gysylltu â phobl.