Cathays Community Photogram
Yn ystod haf 2021, cynhaliodd Ffotogallery dri gweithdy Cymunedol Dros Dro rhad ac am ddim mewn amrywiol leoliadau o amgylch ardal Cathays yng Nghaerdydd. Roedd gennym gazebo ac ychydig o fyrddau ac roedden ni’n cynnig cyfle i bobl oedd yn pasio greu ffotogram cyflym gyda ni, i’w gynnwys yn rhan o’r arddangosfa hon. Roedd oedran ein hartistiaid yn amrywio o 2 i 90 rhywbeth ac roedd pobl yno o lawer o wahanol gefndiroedd.
Mae ffotogram yn llun a gynhyrchir gyda deunyddiau ffotograffig, fel papur sy’n sensitif i olau, ond heb gamera. Dewisodd ein hartistiaid wahanol wrthrychau a defnyddiau i’w gosod ar bapur sy’n sensitif i olau a adawyd wedyn yn yr haul am rywfaint o amser i adael i’r golau newid y papur. Yn dilyn hynny, cafodd y ffotogramau eu golchi a’u gosod gan greu ffotograffau haniaethol ac etheraidd. Y delweddau a gafwyd ar y diwedd yw’r rhai a welwch wedi eu harddangos.
Roedd yn brofiad gwobrwyol iawn i estyn allan i’n cymuned leol o amgylch Ffotogallery yn Fanny Street, Cathays, i gwrdd â’n cymdogion a gweithio gyda nhw i greu gweithgaredd creadigol a chyffrous! Edrychwn ymlaen at gynnal prosiectau cymunedol tebyg gyda’n cymdogion yn Cathays yn y dyfodol!