Women of Newport Project
Kamila Jarczak
Helo, Alison ydw i, cyfaill i’r Iesu, athrawes ESOL lleol i’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches hyfryd sy’n byw yng Nghasnewydd, a Gofalwr Maeth i blant mewn angen. Cefais fy magu yn y system ofalu am fy mod o gartref oedd wedi chwalu. Mae fy mywyd wedi bod yn llawn o enydau anhygoel. Trwy ffydd, rwyf wedi goresgyn naw mlynedd o gaethiwed i heroin a chrac cocên. A nawr, rwy’n mwynhau fy mywyd ac yn frwdfrydig iawn ynglŷn â helpu pobl eraill.
Pam ydw i. Dechreuais hyfforddi mewn crefftau ymladd pan oeddwn i’n 36 oed – rhoddais gynnig ar nifer o wahanol rai, ond fy hoff un oedd Tae Kwon-Do ac yn y grefft hon y cefais fy ngwregys du pan oeddwn i’n 40 oed. Yn ystod y cyfnod pan oeddwn i’n cystadlu, deuthum yn bencampwr Cymru, Lloegr, Yr Alban, Prydain ac, yn y diwedd, y Byd pan oeddwn i’n 44 oed. Pan oeddwn ynghanol fy 60au, ymunais ag asiantaeth gastio ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio fel artist cynorthwyol ar ffilmiau mawr a chyfresi teledu poblogaidd; byddaf yn 72 oed ym mis Tachwedd.
Helo, fy enw yw Aysia. Rwy’n addysgu plant sydd ag anghenion cymhleth ac rwy’n mwynhau pob munud o’r diwrnod gyda nhw. Rwyf hefyd yn rhoi fy amser i helpu’r henoed a’r bregus yn ein cymuned drwy wirfoddoli yng nghronfa fwyd Feed Newport. Rydym yn helpu unrhyw un sydd angen ein cymorth gyda pharseli bwyd, dillad ac, yn ddiweddar, rydym wedi lansio ein cronfa fabanod hefyd.
Ni yw menywod Dinas Casnewydd ac mae ein hoedran yn amrywio o 16 i 45. Yn ein bywydau pob dydd mae ein swyddi’n amrywio o weithio i’r GIG i weithio mewn archfarchnad.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n croesawu pob gallu a’n bod yn grŵp o ferched hynod o gyfeillgar a chroesawgar. Ar y dechrau roedd 11 ohonom, ond erbyn hyn rydym yn 48 o fenywod rhagorol sy’n caru bod yn rhan o’r tîm. Rydym yn ennill ynghyd ac yn colli ynghyd, rydym yn chwerthin ynghyd ac yn llefain ynghyd. Ni yw Dinas Casnewydd!
Helo, fy enw yw Rhiannon. Dechreuais godi pwysau er mwyn helpu i ddod dros anhwylder bwyta a dydw i erioed wedi cymryd cam yn ôl.
Mae cymaint o fanteision i godi pwysau ac mae wedi rhoi’r cryfder a’r hyder i mi i wneud y gorau posib y gallaf ohonof fy hun.
Os nad ydw i yn y gampfa, dw i’n hoffi . . . . arhoswch funud, dw i yn y gampfa drwy’r amser!
Fy enw yw Jo, dw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant cadw’n heini am fwy na 10 mlynedd a thros y blynyddoedd rwyf wedi gweithio gyda chleientiaid hynod ac ysbrydoledig.
Fy mhrif fwynhad fel Hyfforddwr personol yw tywys pobl tuag at ddull iachach o fyw. Mae pob corff yn unigryw; a chan bob un ei gryfderau a’i gyfyngiadau ei hun.
Am fy mod yn fam i 2 fachgen bach, rwy’n cymryd fy ysbrydoliaeth gan yr holl ferched rhagorol o’m cwmpas. Mae gan bob menyw stori brydferth i’w dweud ynghyd â chyngor, arweiniad a harddwch a dyma sy’n sbarduno fy mrwdfrydedd bob dydd.
Helo fy enw yw Corie-Mya, rwyf wedi bod yn gweithio gyda G-Expressions ers 18 mis erbyn hyn. Dydy fy swydd ddim yn hawdd – yn 16 oed deuthum yn Swyddog cyfieithiadau Cymraeg i’r cwmni, a fi yw’r unig siaradwr Cymraeg; fy nghyfrifoldeb i yw rheoli’r holl ddogfennau a chyfieithiadau Cymraeg, ond mae fy nhîm yn gweithio mor galed i’m cefnogi fi ymhob ffordd y gallant a, gyda’n gilydd, rydym wedi adeiladu perthynas waith lwyddiannus. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld lle bydd y daith hon yn fy nghymryd.
Fy enw yw Danielle, symudais i Gasnewydd bron i ddwy flynedd yn ôl i weithio ar fy astudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru. Dim ond ychydig fisoedd sydd ar ôl yn awr nes byddaf yn gorffen fy MA.
Am fy mod yn rhywun sydd wedi byw gyda gwahaniaeth corfforol, rwy’n ymfalchïo ac yn cymryd ysbrydoliaeth o’r ffaith fy mod yn gwneud gwahaniaeth i mi fy hun ac i’r rheiny rwy’n gweithio â nhw. Yn gynharach eleni, cyhoeddais lyfr yn arddangos ac yn hyrwyddo dealltwriaeth gadarnhaol plant o amrywiaeth a chynhwysiad a, thrwy fy mlog, dewisais ddefnyddio fy nhaith fy hun fel adnodd lle gallai eraill ganfod eu teithiau nhw eu hunain.
Rydym yn gydweithfa o 12 o fenywod sy’n ymarferwyr iechyd yn gweithio fel cymuned ysbrydolgar o unigolion sy’n caru yoga ac sydd eisiau dod â newid cadarnhaol i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill.
Ers i ni agor ein drysau ym mis Medi 2017, mae Hot Yoga Health wedi tyfu o fod yn stiwdio yoga poeth i fod yn ganolfan un alwad ar gyfer iechyd gyda chydweithfa o fenywod oll yn rhannu un nod; grymuso’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu i wneud y gorau glas ohonyn nhw eu hunain drwy fod mor heini yn gorfforol ac mor gryf yn feddylliol ag y gallent fod, a hynny drwy gyfrwng ein gweithgareddau.
Ni yw Stephanie a Nicky – chwiorydd a sefydlwyr HMO Heaven a Rent 2 Rent Success yng Nghasnewydd. Doedden ni erioed wedi ystyried cydweithio fel chwiorydd, ond dyma ni yn awr ac mae ein sgiliau’n cyfateb mor berffaith ar gyfer ein busnes gyda’n gilydd, mae’n teimlo’n hollol naturiol bod hyn wedi digwydd.
Rydym yn bobl fusnes ac yn siaradwyr, rydym yn rhannu ein gwybodaeth gydag eraill, cynhaliwn weithdai, rydym yn tywys, yn addysgu a hefyd, yn 2020, aethom ati i gyhoeddi llyfr hynod boblogaidd am fuddsoddi mewn eiddo! Rydym yn teithio i bobman ym Mhrydain ac yn helpu pobl eraill i lwyddo mewn busnesau eiddo.
Proffil Artist
Kamila Jarczak
Daw Kamila Jarczak o Wlad Pwyl yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng
Nghasnewydd ers 2017. Fe ddysgodd ffotograffiaeth ar ei liwt ei hun, ac mae wedi bod yn ffotograffydd proffesiynol ers 2018. Pobl yw prif ysbrydoliaeth ei gwaith. Er ei bod yn gallu addasu ei thechneg i amrywiaeth o destunnau, mae’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, portreadau a phrosiectau cymunedol yn bennaf. Bu’n gweithio’n barhaus ar brosiect gyda Marchnad Casnewydd am fisoedd lawer, gan dynnu ffotograffau o fywyd bob dydd yno – yr ymwelwyr a’r masnachwyr. Yn ogystal, mae wedi cymryd rhan mewn prosiectau’n dathlu ffeministiaeth yng Nghasnewydd wedi’r Ail Ryfel Byd, Gwyliau Gwrthryfel Casnewydd, a mwy. Dechreuodd Kamila ei phrosiect, ‘Menywod Casnewydd’ (Women of Newport) yn 2019. Mae testunau’r gwaith yn cynnwys: menywod ym myd celf, meddyliau creadigol, ysgrifenwyr, arweinwyr busnes, pobl sy’n gwneud gwahaniaeth, cerddorion a llawer mwy. Ei nod yw parhau i ddatblygu ei sgiliau proffesiynol a dal i fanteisio ar gyfleoedd i weithio ar arddangosfeydd a phrosiectau newydd, gan archwilio testunau fel materion iechyd meddwl yn ogystal â datblygu platfform ‘Menywod Casnewydd’ a’r prosiect cysylltiedig, ‘Pobl Casnewydd’ (People of Newport).