Blue
Wafaa Samir
Ystyriwch beth ofnwch chi fwyaf Ymdrochwch ynddo Gadewch iddo ymdreiddio i’ch enaid nes y bydd yn rhan ohonoch Po fwyaf y croesawch eich ofnau, y mwy y byddan nhw’n troi’n serenedd glas.
Mae Blue yn gyfres o hunanbortreadau sy’n ystyried y profiad o ofn fel petai’n lle ffisegol. Trwy gamu i mewn i’r lle hwn, ei archwilio ac ymgysylltu ag o, rwy’n dechrau ei ddeall. Mewn amser ac wrth ymgyfarwyddo, daw’n lle diogel wrth i mi integreiddio ag o. Fel metamorffosis, mae’n broses sy’n dod â chi allan yr ochr arall.
Mae’r lluniau’n ffordd o olrhain y broses hon o gyfuno gyda’m hofnau personol a gadael i mi fy hun gael eu trochi ynddynt. Mae’r gyfres yn ceisio ateb y cwestiwn a yw ofn a heddwch yn gyferbyniol, neu ydy hi’n bosibl eu bod nhw’n eu cyflenwi ei gilydd? Mae’n defnyddio’r lliw glas i gynrychioli ofn, ond mae hefyd yn symbol o’r serenedd y gallem ei ganfod pan awn i gwrdd ag ofnau yn lle eu hosgoi nhw. Cafodd y gyfres ei harddangos yng ngŵyl Nord Art yn yr Almaen (2015). Cafodd un o’r lluniau ei ddewis fel poster swyddogol ar gyfer gŵyl ffilmiau Moov yng Ngwlad Belg.
Proffil Artist

Wafaa Samir
Mae Wafaa Samir (g.1990) yn ffotograffydd ac artist gweledol sy’n byw ac yn gweithio yn Cairo. Mae ei gwaith yn archwilio dau brif lwybr; ein perthynas gyda bywyd dinesig a lleoedd ffisegol, a chynrychioliad ffigurol o emosiynau a chyflyrau’r meddwl. Mae hi’n cyfnewid ei sylw rhwng y bydoedd allanol a mewnol hyn, gan ymdrin â phob un yn wahanol iawn.
Enillodd Samir ei gradd Bagloriaeth mewn Pensaernïaeth o’r Gyfadran Celfyddyd Gain yn Cairo yn 2013. Ochr yn ochr â hynny, datblygodd ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac arddangosodd ei gwaith yn frwd mewn nifer o arddangosiadau grŵp yn Cario, yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc a Dubai.