ELMINA
Nana Kofi Acquah
Mae ELMINA yn brosiect tymor hir yr wyf yn gweithio arno. Dyma’r fan lle profais gariad am y tro cyntaf, lle claddwyd fy llinyn bogail, a lle bu fy nain yn canu caneuon i’m corff bach tew ond gwanllyd am fawredd fy nhynged.
Elmina yw’r fan lle adeiladwyd y castell caethweision cyntaf yn Affrica Is-Sahara, ac y cefais fy mwydo am y tro cyntaf gan fy mam 200 metr o’r daeargelloedd lle clowyd miloedd o gaethweision Affricanaidd, a lle mygodd neu y llwgodd llawer ohonynt i farwolaeth. Cychwynnais y prosiect hwn, yn gwybod yn iawn na all unrhyw beth a wnaf neu a ddywedaf heddiw, ddatrys anghyfiawnder y gorffennol. Ond credaf fod rheidrwydd arnom ni, er parch i’r miliynau sydd wedi eu caethiwo heddiw yn y diwydiant rhyw, yn gaethweision domestig neu sy’n dioddef unrhyw fath o gaethiwed, i godi ein lleisiau a thaflu goleuni, nid yn unig ar anghyfiawnder y gorffennol ond hefyd ar y rhai niferus yn ein byd ni heddiw.
Proffil Artist
Nana Kofi Acquah
Fy enw yw Nana Kofi Acquah. Cefais fy ngeni yn Elmina, Ghana; 200 metr o’r fan lle adeiladwyd y castell caethweision cyntaf yn Affrica Is-Sahara. Cefais fy magu yn Tema ac Accra, ac yn 12 oed syrthiais mewn cariad â barddoniaeth, a pheintio yn fuan wedyn. Dechreuais ymddiddori mewn ffotograffiaeth pan weithiais yn y byd hysbysebu. Cefais lwyddiant fel ffotograffydd masnachol ond sylweddolais yn sydyn iawn y gallwn wneud mwy gyda fy ffotograffau na gwerthu sebon a rhyw. Heddiw, rwy’n teimlo fy mod yn llais sy’n helpu i newid y ddelwedd ystrydebol o Affrica, un stori ar y tro.