Arddangosfa / 1 Hyd – 22 Hyd 2021

Brauning El Otoño

Sebastián Bustamante

Ar 11 Medi 1972, dan arweiniad y Cadfridog Augusto Pinochet, cipiodd gwrthryfel dinesig-milwrol reolaeth ar wlad Chile, gan ddod â “Llwybr Chile tuag at Sosialaeth” Salvador Allende i ddiwedd disymwth. Cychwynnodd trefn Pinochet ymgyrch helaeth o frawychu yn erbyn yr adain chwith, a chyn-gefnogwyr Allende. Daeth breuddwydion am gymdeithas fwy egalitaraidd i ben y diwrnod hwnnw. Roedd trais economaidd yn adlais o gieidd-dra eang y wladwriaeth gan gynnwys herwgipio, arestiadau mympwyol, artaith, dienyddiad a diflaniadau gorfodol. Llwyddodd yr alltudion hynny fu’n ddigon ffodus i ddianc i gynnal breuddwyd arbrawf sosialaidd byrhoedlog Allende. Fe wnaeth fy mhrofiad i fel alltud o’r ail genhedlaeth feithrin hiraeth am Chile ynof fi. Yn ystod ymweliad â Chile yn 2006, bu farw Augusto Pinochet wythnosau ar ôl imi gyrraedd, gan atseinio gyda nofel Gabriel Garcia Márquez, The Autumn of the Patriarch - El Otoño del patriarca (1986), sydd yn adrodd hanes bywyd a marwolaeth unben diddarfod.

Mae deunydd a gyflwynir yn yr arddangosfa yma yn perthyn i ofod gwagleol alltudiaeth. Mae fy ymdrechion i ddeall cymhlethdodau’r lle a’r amser toredig yma yn adlewyrchu nofel arloesol 1968 Julio Cortasar, Rayuela (Hopscotch), a dorrodd ffiniau drwy actifadu darllenwyr a gwneud iddynt lamu drwy’r llyfr, yn neidio o bennod i bennod. Mae’r bobl y des i ar eu traws yn Chile, megis perthnasau’r diflanedig, yn byw mewn cyflwr trothwyol gwahanol, yn methu â chladdu a galaru eu perthnasau sydd ar goll, perthnasau y mae eu tynged yn parhau i fod yn anhysbys, 30 mlynedd ar ôl i’r unbennaeth ddirwyn i ben. Mae El Otoño yn ymgais i anrhydeddu’r colledig, y rhai hynny arhosodd, y rhai hynny adawodd, a’r rhai hynny sy’n dal i geisio adeiladu dyfodol gwell.

Proffil Artist

Portread o Sebastián Bustamante

Sebastián Bustamante

Mae Sebastián yn artist-ffotograffydd Prydeinig-Chileaidd, yn guradur ac ymchwilydd sy’n byw yn Y Fenni a Birmingham. Mae Sebastián wedi arddangos mewn lleoliadau amrywiol yn y DU gan gynnwys yn Llundain, Essex a Bryste, ac mae ei ffotograffiaeth wedi ei gyhoeddi yn y cyfryngau newyddion. Hefyd mae ei ymchwil ar gelfyddyd wedi ei gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd ac mewn blogiau academaidd ar-lein. Prif ffocws ymchwil Sebastián yw’r cof, lle, archifau, a
hunaniaeth. Gweithiodd Sebastián ar Gasgliad Essex o Gelf o America Ladin o 2015-2018 ble bu’n ymchwilio ac addysgu ar gelf o America Ladin yn ogystal â churadu sioeau ac arddangosfeydd. Yn 2006 dechreuodd Sebastián brosiect trawswladol hydredol yn archwilio ei hunaniaeth a gwaddol unbenaethau yn America Ladin gan ddefnyddio deunyddiau archifol a’i ffotograffiaeth, gan gorffori ei ysgolheictod ar y gwagle sy’n bodoli rhwng celfyddyd, y cof a gweithredaeth yn ei brosiect El Otoño.