Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

A Lockdown Landscape

Ron McCormick

Wrth i 2019 ddirwyn i ben, ychwanegodd arbenigwyr Sefydliad Iechyd y Byd yr argoelus “Haint-X” i’w rhestr o flaenoriaethau, gyda rhybudd y dylai’r byd baratoi am bandemig posibl wrth i adroddiadau ledu am fath ‘newydd’ o Coronafirws a oedd yn effeithio trigolion dinas Wuhan yn Tsieina.

Erbyn gwanwyn 2020, roedd y firws, a elwid bellach yn Covid-19, wedi lledu i wledydd eraill. Roedd ysbytai yn yr Eidal, Sbaen, Brasil ac America yn brwydro yn erbyn cynnydd dyddiol yn nifer yr achosion. Ym Mhrydain, roedd wardiau ysbytai'n cael eu cau i driniaethau nad oeddynt yn rhai brys oherwydd y nifer cynyddol o gleifion â Covid-19; ac roedd y sianeli newyddion cenedlaethol yn dangos darlun brawychus o ledaeniad heintiadau a nifer fawr o farwolaethau.

Ar 23ain o Fawrth, daeth “Cyfyngiadau Symud” cenedlaethol i rym wrth i'r Prif Weinidog annerch y genedl “...O heno ymlaen, rhaid imi roi cyfarwyddyd syml iawn i bobl Prydain – rhaid i chi aros adref.” Nid oedd pobl yn cael gadael eu cartrefi ac eithrio at 'ddibenion cyfyngedig iawn” fel siopa am nwyddau angenrheidiol, ymarfer corff dyddiol neu deithio i'r gwaith. Rhoddwyd gorchymyn i gau busnesau nad oeddent yn hanfodol yn ogystal â siopau, tafarndai ac ysgolion. Gwaharddwyd aelodau o wahanol aelwydydd rhag cyfarfod a chafodd digwyddiadau cymdeithasol gan gynnwys priodasau a mynychu angladdau eu hatal. Yn sydyn, roedd strydoedd Prydain yn dawel fel y bedd, heblaw am ambell redwr a'r ciwiau o bobl yn cadw pellter cymdeithasol y tu allan i archfarchnadoedd. Parodd y drefn o orfodi cyfnodau clo yn ysbeidiol am y pymtheg mis nesaf.

Yn ystod y cyfnod yma dewisodd y ffotograffydd o Gasnewydd, Ron McCormick, ddefnyddio’r diffiniad newydd yma o'i ‘hawl i ymarfer’ i fentro allan am droeon hir gyda'i gamera - i archwilio'r strydoedd a'r mannau agored a oedd mor dawel bellach, a thynnu ffotograffau o'r digwyddiadau a'r golygfeydd hynod a welodd. Cyflwynir y delweddau hynny yn 'Lockdown Landscapes'. Mae’n gofnod arwyddocaol o'r cyfnod cythryblus yma yn ein hanes a'r patrymau newydd o ymddygiad cymdeithasol a ddaeth yn ei sgil.

Proffil Artist

Portread o Ron McCormick

Ron McCormick