Digwyddiad
/ 1 Hyd 2021
More Than a Number - Cynhadledd
Gallwch wylio’r gynhadledd yn fyw ar Facebook hefyd, neu gallwch wylio recordiad o’r sesiwn a fydd ar gael ar alw wedi’r gynhadledd.
Mae arddangosfa More Than a Number yn archwilio’r ffyrdd yr ydym yn meddwl am wledydd Affrica, sydd wedi’u dal rhwng moderniaeth a thraddodiad; a sut y mae gwahanol ddiwylliannau yn creu ystyr drwy ddelweddau. Trwy gyfres o weithdai gydag artistiaid, cynadleddau, a chynnwys ar-lein, mae More Than a Number yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno â’r sgwrs am y casgliad yma o waith eithriadol sy’n procio’r meddwl gan 12 o ffotograffwyr o wledydd Affrica: Amina Kadous, Brian Otieno, Fatoumata Diabaté, Jacques Nkinzingabo, Maheder Haileselassie Tadese, Nana Kofi Acquah, Sarah Waiswa, Salih Basheer, Steven Chikosi, Tom Saater, Wafaa Samir and Yoriyas Yassine Alaoui. Mae’n ein hannog i edrych ar wyneb yr unigolyn o’n blaenau yn fanwl a chlir, a dechrau sgwrs. Yng ngeiriau Elbert Hubbard, “Pe bai dynion yn gallu dod i adnabod ei gilydd, ni fyddent yn eilunaddoli nac yn casáu”.Mae More Than a Number yn canolbwyntio ar dair thema: Cynrychioli Eofndra, Parthau Cysylltu, a Chymdeithasoldeb Radicalaidd. Mae’r gynhadledd wyneb yn wyneb yn gwahodd curaduron ac artistiaid o wledydd Affrica, Cymru a’r Deyrnas Unedig i gyd i archwilio’r drafodaeth feirniadol sydd ei hangen i leoli a gwerthuso’r gwaith a gynhyrchir gan ffotograffwyr o wledydd Affrica, yn ogystal â thrafod materion yn ymwneud a chynrychioli a dangos eu gwaith. Mae’n gwahodd y gynulleidfa a fydd yn bresennol yn adeilad Ffotogallery i gymryd rhan yn y sgwrs am Ffotograffiaeth ac Affrica.