Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

Man as an Object / Man as an Animal

Fatoumata Diabaté

Mae’r syniad ar gyfer y gyfres hon wedi ei gysylltu â’r straeon a’r hanesion a glywais yn fy mhlentyndod ac sy’n dal i’m dilyn i bob man heddiw. Mae’r rhain yn straeon sydd wedi eu neilltuo ar gyfer y “plentyn du”, fel y dywedodd Senghor. Ar gyfer y ffotograffau hyn, rwy’n cael fy ysbrydoli gan y straeon sydd yn fy mhen ac yna rwy’n creu gwrthrychau i wasanaethu’r straeon hynny. Weithiau bydd syniadau’n dod i mi yn y nos, pan fyddaf yn gorwedd yn fy ystafell. Cyn mynd i gysgu, byddaf weithiau’n breuddwydio gyda fy llygaid yn agored. Rwy’n edrych, rwy’n ymbalfalu ychydig bob tro. Maen nhw’n bortreadau gweddol syml, sy’n symboleiddio un agwedd o stori. Mae fy nefnydd o wrthrychau fel ategolion neu wisgoedd i ddynion yn gysylltiedig hefyd â’r mygydau Affricanaidd, wedi eu creu mor wych, sydd wedi eu cadw heddiw mewn amgueddfeydd. Rwy’n gadael cyd-destun y mwgwd Affricanaidd traddodiadol, sydd wedi ei gysylltu â defodau a chredoau penodol, ac yn symud ymlaen tuag at rywbeth sydd fwy ar lun gwastraff. Yn aml iawn, rwyf hyd yn oed yn gofyn i’r model greu’r gwrthrych mwgwd hwn ei hun. Mae’n rhaid iddo fod yn wrthrych artisan, mae hynny’n bwysig iawn. Rwyf i, fel ffotograffydd, yn gosod y ddyfais hon yn ei lle, er mwyn rhoi’r straeon yr wyf wedi eu clywed y tu ôl i fygydau, y mae’r bobl ifanc rwy’n tynnu eu lluniau wedi eu creu drwy ailwampio pethau a ganfuwyd. Mae’r rhain yn straeon nad wyf erioed wedi eu byw, mae’r rhain yn straeon a adroddwyd i mi, straeon fel breuddwydion. Pan fyddwn ni’n breuddwydio, rydym yn credu ein bod yn byw rhywbeth yn llawn, ac yna, pan fyddwn yn deffro, rydym yn sylweddoli nad oedd yn realiti, a dydyn ni ddim bellach yn gwybod beth oedd yn ddwfn a beth oedd ar yr wyneb. Felly, mae hyn ychydig bach fel y ‘Dyn fel Gwrthrych’ : mae’r rhain yn straeon fel breuddwydion, ond maen nhw’n gweithio fel gwersi moesegol, straeon sy’n ein dysgu ni sut i ymddwyn mewn bywyd. Sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n gorwedd o’n blaenau, beth allai ddigwydd. Ac hefyd beth yw’r cysylltiad rhwng dyn a gwrthrych. Trwy gyfrwng straeon y gallwn ni ddysgu i deimlo anwyldeb at wrthrychau, anifeiliaid, coed, natur, a mwy.

Proffil Artist

Portread o Fatoumata Diabaté

Fatoumata Diabaté

Ganed Fatoumata Diabaté yn Mali yn 1980 ac mae wedi cael ei gwahodd i nifer o wyliau o amgylch y byd ac wedi ennill nifer o wobrau. Mae hi’n cymryd rhan yn y “Rencontres photographiques de Bamako", yng ngŵyl ffotograffau "La
Gallicy", y Rencontres d’Arles a’r Biennale de Dakar. Mae ei gwaith i’w weld mewn llawer o arddangosiadau grŵp ac unigol yn Mali, Ffrainc ac yn rhyngwladol. Yn ei hieuenctid, roedd hi’n gynorthwyydd i Malick Sidibé ac, yn 2013, creodd ‘Le Studio Photo de la Rue, sef stiwdio ffotograffig deithiol sy’n cael ei gwahodd gan lawer o fannau a gwyliau diwylliannol, a’r Cartier Foundation ym Mharis yn arbennig. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o wahanol orielau, yn fwy diweddar Oriel 31Project yn Ne Affrica. Cafodd ei henwi’n enillydd 2020 Preswylfeydd Ffotograffig Amgueddfa Quai Branly y mae eu prosiect newydd fod ar waith yn Mali ac sy’n ymwneud ag enwaediad merched. Mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Montpellier yn Ffrainc a Bamako yn Mali."