Lions and Unicorns
John Crerar
Cyhoeddwyd y byddai Gŵyl Prydain yn 1951 yn ‘Donig i’r Genedl’ gydag addewid bod gwell dyfodol a gwell cymdeithas ar y gorwel agos – cymdeithas a fyddai’n fwy cyfiawn i bawb. Roedd hefyd yn sioe i arddangos dyfodol Prydain fel gwlad fodern wedi’i hymrwymo i syniadaeth o gynnydd gwyddonol a thechnolegol. Daeth Gŵyl Prydain yn symbol o gonsensws cymdeithasol wedi’r Ail Ryfel Byd a barodd tan yr 1970au. Cafodd etifeddiaeth adeileddol yr Ŵyl ei hadlewyrchu yn y gwaith cynllunio ac adeiladu eang a welwyd – yn enwedig o ran yr adeiladau cyhoeddus, ystadau tai cyhoeddus, trefi newydd a’r isadeiledd cymdeithasol sy’n gysylltiedig â chymdeithas ddemocrataidd-gymdeithasol fodern.
Ond, yn ôl safonnau heddiw, roedd y ddelfryd Eingl-ganolog o genedligrwydd a hybwyd gan yr ‘Ŵyl’ yn golygu nad oedd llawer o le i unrhyw syniadau cyfochrog am hunaniaeth - ac eithrio ail-bwysleisio ystrydebau cenedlaethol a rhanbarthol. Prin oedd y sôn am gymlethdodau trefedigaethol enbyd o ddinistriol Prydain ychwaith. Yn ogystal, methwyd rhagweld effeithiau dinistriol cymhwyso gwyddoniaeth a thechnoleg, yn enwedig o ran datblygu arfau niwclear a’r prosesau a deunyddiau sy’n achosi’r llygredd sydd wedi esgor ar argyfwng yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.
Yn naturiol, mae mwy nag un wedd ar hanes yr Ŵyl a mwy nag un stori i’w hadrodd. Mae prosiect ‘Lions and Unicorns’ yn defnyddio dull aml-gyfrwng sy’n cwmpasu cydadwaith rhwng elfennau gweledol a thestunol i geisio bwrw golau ar wrthgyferbyniadau cynhenid llwybr Prydain wedi’r Ail Ryfel Byd; ac wrth nodi 70 mlynedd ers cynnal Gŵyl Prydain, mae’n gyfle hefyd i ail-werthuso’r cyfnod yma yn hanes diweddar Cymru.
Ystâd Gaer.
Yn 1951, yng Ngŵyl Prydain, rhoddwyd gwobr gynllunio a phensaernïaeth i ystâd o dai cyngor oedd ar ororau Casnewydd yn Sir Fynwy a gerllaw caer o’r Oes Haearn. Roedd strydoedd yr ystâd a enillodd y wobr, Ystâd Gaer, wedi eu henwi ar ôl awduron Saesneg enwog, yn cynnwys Shakespeare, Byron, Shelley a Kipling. Er nad oedd rhaid enwi’r strydoedd fel hyn ar gyfer ennill y wobr, roedd hyn yn ddiarwybod yn adlewyrchu un o ddaliadau sylfaenol yr Ŵyl; dathlu gweledigaeth o’r dyfodol oedd yn cynnwys cysylltiad dwfn â thir Prydain a hanes a diwylliant y tir hwnnw. Cafodd y syniad rhamantus a bron yn fytholegol o genedligrwydd ei greu pan gyfunwyd elfennau diwylliannol – yn amrywio o’r pictwrésg i foderniaeth Bauhaus, methodistiaeth a sosialaeth iwtopaidd – ac y cawsent eu tymheru gan yr angen i wynebu realiti materol y cyfnod yn dilyn y rhyfel. Ond, cafodd y consensws cymdeithasol a barhaodd hyd yr 1907au a oedd wedi gosod yr hawl i gael tŷ digonol wrth wraidd rhaglennu cymdeithasol ei ddisodli gan bolisi ‘Hawl i Brynu’ yr 1980au.
Adeiladwyd Ystâd Gaer ar ffermdir oedd yn edrych allan dros Fôr Hafren a chafodd ei phrynu gan Gyngor Tref Casnewydd o ganlyniad i Ddeddf Tai 1946. Roedd yr ystâd a’r ysgol gynradd a ddyluniwyd gan bensaer bwrdeistref Casnewydd, Johnson Blakett, gan ddilyn egwyddorion cymdogaeth cynllunio trefol, yn un o ddim ond 19 gwobr a gyflwynwyd gan yr Ŵyl ledled Prydain. Mae plac cofaol i’w weld hyd heddiw ar flaen 1 Vanbrugh Gardens.
HMS Campania
Roedd Gŵyl Prydain 1951 yn arddangosiad oedd ag estyniad cenedlaethol go iawn. Er bod prif safle’r ŵyl ar lannau deheuol yr Afon Tafwys yn Llundain, cafodd llu o ddigwyddiadau swyddogol ac answyddogol eu dathlu drwy gydol misoedd hwyr y gwanwyn a misoedd yr haf ymhob twll a chornel o’r wlad. Roedd HMS Campania yn llong awyrennau o’r ail ryfel byd a gafodd ei haddasu i ddal fersiwn llai o brif atyniadau Llundain, ac ymwelodd â nifer o ddinasoedd a threfi porthladd yn cynnwys Caerdydd. Roedd wedi ei pheintio’n gwbl wyn ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda’r geiriau “Festival of Britain” yn addurno ei hystlys. O fewn y llong roedd esiamplau niferus o eiconograffi atomig, dyluniadau a gwybodaeth a ddefnyddiwyd yn eang drwy gydol yr Ŵyl ac a fu o gymorth i gyfreithloni’r weledigaeth ddomestig o ddyfodol Prydain wedi’i bweru gan ffrwyth yr ymchwil atomig.
Yn fuan wedi i’r Ŵyl ddod i ben, cafodd Campania ei hailgomisiynu gan y Llynges Frenhinol a daeth yn llong reolaeth ar gyfer y prawf bom atomig cyntaf gan Brydain a ddigwyddodd yn Ynysoedd Monte Bello, wrth arfordir gogledd-orllewinol Awstralia, ar 3 Hydref 1952. O ystyried enw cod y prawf, Operation Hurricane, ei ddiben oedd asesu’r effaith y gallai bom atomig ei gael ar Borthladd Llundain a chanfod a allai Prydain adeiladu bom yn annibynnol.
Roedd bom atomig Prydeinig yn ei le’n barod at ddefnydd milwrol yn 1953.
Proffil Artist
John Crerar
Ganed John Crerar yn Llundain yn 1957. Mae’n ffotograffydd dogfennol, yn wneuthurwr ffilm ac yn ddarlithydd sy’n byw yng Nghasnewydd yn Ne Cymru. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn eang dros y ddwy ddegawd ddiwethaf yn ogystal â chael ei gynnwys yng nghasgliadau nifer o sefydliadau, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae ei waith ffotograffig yn adlewyrchu ei ddiddordeb byw mewn testunau sy’n adlewyrchu datblygiad tirluniau ôl-ddiwydiannol De Cymru.
Ers ymddeol o ddysgu ym mis Gorffennaf 2014 mae John wedi gweithio ar gyfres o wahanol brosiectau gan gynnwys cyhoeddi cyfrol o ffotograffau o hen adeiladau sinema De Cymru. Mae hefyd wedi datblygu arddangosfa o’r enw ‘The Rookery’, a gafodd ei dangos am y tro cyntaf yn Oriel Y Dyfodol, yn Y Pierhead ym Mae Caerdydd ym mis Mai 2019.
Ym mis Gorffennaf 2019 derbyniodd grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei brosiect diweddaraf, ‘Lions & Unicorns’.