Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

It’s Hard to Report a Stolen Bike, Stolen

Nik Roche

Mae It's Hard to Report a Stolen Bike, Stolen yn ail bennod sy’n dilyn The Budgie Died Instantly a gyhoeddwyd yn 2020. Yn wreiddiol, fe ddechreuodd y corff yma o waith fel ymateb i brofiadau bywyd ac atgofion plentyndod; ond yna, drwy gyfres o gyfarfyddiadau ar hap fe ddatblygodd i fod yn archwiliad o gyfeillgarwch, gwrthdaro, hiwmor a dynoliaeth. Mae’n edrych ar berthnasoedd, cydnabod a derbyn, ac ymddiriedaeth mewn cymuned glos a thynn. Mae dyheadau iwtopaidd yn bodoli yn y lle hwn – yn y ffenestri wedi’u haddurno â blodau, a thu ôl i ddrysau caeëdig mewn mannau gwaharddedig sy’n llawn balchder ymddangosiadol lle mae pwysau diniweidrwydd coll a breuddwydion sy’n pylu yn drwm.

Maen nhw wedi eu dal mewn cylch sy’n eu cadw’n ddifreintiedig – nid o ran cyfoeth fel y cyfryw, ond o ran gwybodaeth a’r posibiliad o wirioneddau gwahanol. Mae hwn yn bortread gonest sy’n cydio yn eich perfedd - o bobl a bywydau sy’n pendilio rhwng caethiwed a rhyddid.

Mae agosrwydd y delweddau yma’n taflu goleuni ar y gwrthdrawiad rhwng y posibl a realiti’r sefyllfa, a’r enydau annelwig o obaith sy’n bodoli rhyngddynt. Mae atgofion hiraethus a hanesion am bethau’n mynd ar chwâl yn cydblethu’n gomedi arswydus.

Mae’r gwaith yn adlewyrchu cymlethdodau bywyd a’r angen cynhenid i oroesi a cheisio ymdeimlad o berthyn a chariad, waeth beth fo’r gost. Mae’n dangos cymuned sydd wedi cael ei chlwyfo a’i gwthio drwy orfodaeth a dicter i ymylon cymdeithas, lle mae ei gwytnwch a’i phatrymau ymddygiad yn ddi-ildio yn wyneb storm o arferion gofal iechyd meddwl annoeth, trawma a diffyg newid systemig hirdymor.

Mae cyd-ymddiried a chyd-ddealltwriaeth yn hollbwysig wrth rannu’r enydau hyn ym mywydau pobl. Dyw sefyll ar y cyrion ddim yn opsiwn.

Proffil Artist

Portread o Nik Roche

Nik Roche

ganed: 1970, Castell Nedd, De Cymru

Fe ffeindiodd Nik fod ganddo angerdd am ffotograffiaeth pan oedd ar ganol gyrfa lwyddiannus yn cynllunio gerddi. Yn ddiweddar, enillodd Radd Meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru. Yno, fe ddatblygodd ddull trochol iawn o greu delweddau dan ddylanwad ei ddiddordeb mewn newid cymdeithasol ac effaith sefydliadau ar ymddygiad yr unigolyn.

Mae ganddo ddull dyngarol o greu gwaith.

Cyhoeddwyd ei fonograff cyntaf, The Budgie Died Instantly, gan Setanta Books yn 2020. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar yr ail bennod, It’s hard to report a stolen bike, stolen.