Arddangosfa / 30 Hyd 2024

Tourist in Between

Justin Teddy Cliffe

Mae Tourist In Between yn ymchwiliad parhaus sy’n defnyddio elfennau cyffredin yr atyniadau i dwristiaid yng Nghasnewydd fel pwynt mynediad i mewn i ddeialog ddyfnach am yr hyn mae Casnewydd yn ei olygu i bobl yn fewnol ac yn allanol.

Gan gydbwyso theatr gyda chelfyddyd fyw, mae’r gwaith yn defnyddio hanesion ffug i ddangos cymeriadau abswrdaidd mewn mannau real, pob dydd. Trwy sicrhau bod y perfformiwr a’r gynulleidfa’n cwrdd yn y lle trothwyol hwn rhwng realiti a ffuglen, gallwn ni geisio creu twll dros dro yn ffabrig yr hyn rydyn ni’n credu y ‘gallai fod yn real’ a’r hyn rydyn ni’n gobeithio ‘y gallai fod yn bosibl’.

Iteriad cyntaf y gwaith oedd ffilm fer (a gomisiynwyd gan Gaerdydd Creadigol) oedd yn defnyddio mannau poblogaidd eiconig i dwristiaid yng Nghasnewydd fel cefndir ar gyfer perfformiadau stryd lled-ryngweithiol a rhyngweithiau wedi eu seilio ar gymeriadau. Roedd yn wahoddiad chwareus i thesis ehangach y gwaith, ac yn ddechreuad i arolwg swrealaidd o ddiwylliant, dyfodol a dinasyddion Casnewydd.

Yn ystod y cam cychwynnol hwn o’r gwaith, cefais fy hun yn dadlau gyda menyw am wir werth y safle roeddwn i wedi ei greu i mi fy hun, a dyna pryd y cefais hyd i’r peth yr oedd gen i’r diddordeb mwyaf ynddo. Dyna pryd y daeth y gwaith yn archwiliad ag iddo ffocws dynol yng nghymuned Casnewydd, fel pobl sy’n byw mewn dinas y maen nhw naill ai’n ei chasáu neu’n ei charu.

Trwy berfformiad stryd a chlownio ysgafn rwy’n ceisio creu perthnasau digymell gyda dieithriaid ar y stryd. Unwaith y mae hyn wedi digwydd gallwn ni ddechrau archwilio cwestiynau mwy, mwy uniongyrchol a mwy ffrwythlon.

Byddwch yn gweld y gwaith wedi ei gynrychioli fel ffotograffiaeth a ffilm o fewn lle cyhoeddus/oriel, a hefyd byddwch yn gallu rhyngweithio ag o bob Dydd Sadwrn ym mis Hydref mewn amrywiol leoliadau o amgylch Casnewydd.

Proffil Artist

Portread o Justin Teddy Cliffe

Justin Teddy Cliffe

Rwy’n Artist sydd wedi ei seilio yn Ne Cymru ac sy’n gweithio mewn amrywiol fathau o gelfyddydau fel unigolyn a chyd-weithredwr sy’n creu celf fyw, perfformiad theatr a ffilm.

Dros yr 11 mlynedd ddiwethaf rwyf wedi creu fy ngwaith fy hun yn ogystal â datblygu a pherfformio gwaith yn y DU ac yn rhyngwladol gyda; Tin Shed Theatre Co, The Bristol Old Vic, Theatr Genedlaethol Cymru, Oriel Gelf Qube, China Plate, Canolfan Gelfyddydau Battersea, San Diego Fringe, Alma Alter: Bwlgaria, ac REP Birmingham.

Rwy’n creu gwaith abswrdaidd, doniol ac aflafar sy’n archwilio’r profiad dynol, iechyd meddwl, athroniaeth, diwylliant pop a chelf drwy fath cyfoes o glownio. Mae popeth a wnaf wedi ei ganoli o amgylch y bod dynol gyda ffocws ar gysylltiad, cymuned a llawenydd.

Rwyf hefyd yn hyrwyddwr gweithdy llawrydd sy’n canolbwyntio ar weithio gyda phlant a phobl ifanc i archwilio eu bywydau drwy greu theatr ddyfeisiedig, perfformio hanesion hunangofiannol, a dysgu creadigol/arbrofol.