Cymryd rhan

Gwirfoddoli

Hoffech chi chwarae rhan yn Diffusion? Rydym yn edrych am bobl frwdfrydig sy’n fodlon rhoi o’u hamser a’u gwybodaeth arbenigol i helpu i gynllunio a darparu’r ŵyl.

Gallai gwirfoddoli gynnig profiad gwerthfawr i chi mewn meysydd fel:

  • bod yn dywysydd byw i’r ŵyl
  • gosod arddangosfeydd a’u tynnu i lawr
  • dogfennu (tynnu ffotograffau, ffilmio a golygu)
  • stiwardio digwyddiadau

Bydd Diffusion yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ac mae gennym gyfleoedd a fydd yn gweddu i amrywiaeth eang o ymgeiswyr o bob cefndir. Does dim gofynion penodol ar gyfer gwirfoddoli ac eithrio diddordeb angerddol mewn ffotograffiaeth gyfoes ac awydd i wirfoddoli.

Ymholiadau Addysg

029 2034 1667