Atomic Ed
Janire Najera
Mae Atomic Ed yn olrhain siwrne Ed Grothus - o weithio yn Labordy Cenedlaethol Los Alamos ym Mecsico Newydd i fod yn ymgyrchydd di-flewyn-ar-dafod yn erbyn ynni niwclear.
Sefydlwyd Los Alamos gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd; gan ei fod mewn lleoliad mor ddiarffordd, cafodd ei ddewis fel un o’r prif safleoedd ar gyfer gwaith dirgel Prosiect Manhattan. Dyma’r safle lle llwyddodd gwyddonwyr i harneisio pŵer yr atom, gan ddatblygu’r arfau niwclear a ddefnyddiwyd yn Hiroshima a Nagasaki. Danfonwyd Ed Grothus i’r ganolfan wyddonol bellenig a dirgel yma am y tro cyntaf yn 1949 - i weithio fel peirianydd labordy. Cafodd Rhyfel Fietnam ddylanwad mawr ar Ed; wrth weld rhyfel a ystyriai’n anghyfiawn yn rhygnu ymlaen, fe adawodd y labordy a dod yn un o brotestwyr gwrth-niwclear mwyaf di- flewyn-ar-dafod yr Ugeinfed Ganrif.
Yn ystod y pedwar degawd wedi hynny, casglodd Ed beth wmbredd o ddeunydd dros ben o’r labordy a’i gadw mewn hen siop groser a elwid ‘Y Twll Du’ (The Black Hole). Daeth yr adeilad yn Fecca i ddarfodiad technolegol; ac fe dyfodd yn gronfa unigryw o arteffactau gwyddoniaeth niwclear a oedd yn atynnu eitemau’n ddi-baid drwy ryw rym disgyrchol, gan greu casgliad a oedd yn tra rhagori, o ran maint ac amrywiaeth, ar gasgliad unrhyw amgueddfa.
Mae’r arddangosfa yn Diffusion 2021 yn cynnwys dogfennau archif, hen ffotograffau a rhai mwy diweddar, a detholiad o blith hanner canrif o lythyron rhwng Ed Grothus â gwleidyddion, gwyddonwyr, y cyfryngau ac aelodau o’i deulu, sy’n ein cario yn ôl ac ymlaen drwy hanes ynni niwclear yn yr Unol Daleithiau.
Proffil Artist
Janire Najera
Mae Janire yn artist aml-gyfrwng, ffoto-newyddiadurwr, curadur a chynhyrchydd sy’n arbenigo mewn defnyddio cyfryngau trochol i adrodd straeon. Astudiodd newyddiaduraeth ym Madrid a Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd. Mae ei phrosiectau, sydd wedi cael eu dangos a’u harddangos yn rhyngwladol, yn aml yn tynnu sylw at gymunedau sydd wedi cael eu dadleoli, a chwestiynu’r hanes a’r amgylcheddau sy’n llunio ein bywydau. Yn 2019, sefydlodd Labordy CULTVR i hybu datblygiad celfyddydau digidol, perfformiadau byw a sinema cryndo (fulldome) yn ogystal â dulliau o’u cynhyrchu a’u cyflwyno.
Yn 2018 bu’n artist preswyl yng Nghymdeithas y Celfyddydau a Thechnoleg ym Montreal yng Nghanada; ac yn 2017 bu’n Ysgolor Ymchwil yng Ngholeg Wilkinson ar gyfer y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Chapman yng Nghaliffornia. Mae Janire wedi cyhoeddi dwy gyfrol gyda RM Publishing sef, Moving Forward, Looking Back ac Atomic Ed.