The Betrayal Cycle
Joāo Saramago
Mae’r Gylchred Frad yn gyfres newydd sbon o ymyriadau ar y dirwedd sydd wedi eu dogfennu i ddatgelu gweithredoedd brad dynolryw.
Wedi eu hysbrydoli gan gamau adfer trawma a galar, mae’r Gylchred Frad wedi ei rhannu’n naratif strwythuredig sydd yn rhoi llwyfan i faterion amgylcheddol fel cyfeiriad awgrymog at berthnasau personol ac agos, gan gwestiynu gweithredoedd ymddygiad llygredig dynol, a’u heffaith hirdymor ar y dirwedd.
Proffil Artist

Joāo Saramago
Artist sy’n dod yn wreiddiol o Lisbon ym Mhortiwgal ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae ei ymarfer creadigol yn archwilio syniadau o fregusrwydd a gwydnwch drwy ffilm, ffotograffiaeth, perfformiad, darlunio a gosodiadau safle-benodol.
Mae’n creu gwaith chwareus, ystyrlon a chynaliadwy gan ddefnyddio’r dirwedd i fyfyrio ar effaith dyn ar yr amgylchedd.