Arddangosfa / 27 Medi – 24 Hyd 2021

Tin Works

Hilary Powell

Portreadau tunteip o weithiwr diwydiannol wedi’u llunio a’u creu ar y deunydd diwydiannol / domestig, tun.

Lluniau o dirluniau diwydiannol a dynnwyd gyda chamerau pin wedi’u gwneud o ganiau tun.

Chwyldro ym myd ffotograffiaeth gynnar sy’n asio deunydd ac ystyr, gan greu pentyrau simsan o ganiau/wynebau mewn tirlun metelaidd a grewyd gan yr artist.

Mae’r Gwaith Tun olaf yn Ne Cymru wedi bod yn gweithio’n ddi-baid drwy gydol y pandemig i ateb y cynnydd anferth yn y galw am fwydydd mewn tuniau. Mae’r prosiect yma’n dilyn siwrne Hillary Powell i ganol y tirlun cymdeithasol-economaidd cyfoes hwn, ac i hanes diwydiannol/domestig tunplat. Cafodd y gwaith ei sbarduno gan linach deuluol yr artist o weithwyr tun Cymreig.

Pan oedd yn fachgen yn y 1950au, byddai tad yr artist wedi gwylio’r prosesau ffotograffig a ddefnyddiwyd i farcio’r tun wrth greu deunydd pacio wedi’i frandio; ac fe welodd chwalu hen weithiau tun yr ardal hefyd; tra bu gor ewythr yr artist yn gyfrifol am ddyfeisio medrydd i fesur trwch tunplat. Drwy’r prosiect yma mae’r artist yn dilyn trywydd ei diddordeb byw yn holl alcemeg hanes y metelig a’r metelaidd, lle mae deunydd, cyd-destun a chysyniad yn toddi’n un, drwy adfywio hen dechnegau ffotograffiaeth tunteip i gofnodi tirlun cyfoes mewn cyfnod o drawsnewid.

Caiff portreadau safle-benodol/deunydd-benodol eu dinoethi ar ganiau tun gan
ddefnyddio proses plât gwlyb lle mae delwedd bositif yn cael ei chreu ar ddalen fetel lacrog wedi’i thaenu â hylif collodion arian sy’n sensitif i olau. Er bod caniau enwog Warhol yn gyfeirnod ar gyfer y delweddau/gwrthrychau a gafodd eu creu yma, mae yna gyfosodiad llwyr rhyngddynt hefyd. Os oedd ei ganiau ef yn cyfeirio at nwyddau, masgynhyrchu a gweithgynhyrchu, mae’r delweddau/gwrthrychau tun yma’n cyfeirio at y deunydd crai, hanes cymdeithasol a’r llafur - drwy gydweithrediad uniongyrchol gyda’r diwydiant, y gymuned sy’n gweithio yn y diwydiant, a’r deunydd crai y maent yn ei drin.

Proffil Artist

Portread o Hilary Powell

Hilary Powell

Wrth droi at hanes ei theulu o lafur (gweithgynhyrchu, amaethu a gwasanaeth domestig) mae gwaith Hillary Powell yn bwrw golau ar hanesion, straeon a brwydrau cudd sy’n ein bwrw yn nwfn ein perfedd drwy ei hymarfer o ‘fyfyrio drwy greu’. Boed hynny drwy arbrofion gyda phrintio â chemegau neu olygfeydd o sglefrolio torfol, mae deunydd ac ystyr yn asio drwy broses o gribinio a dod at ein gilydd a chydweithio i achub, arbed ac arbrofi.

O droi gwaith epig Wagner, Cylch y Fodrwy ar ei ben ar gyfer tirlun o wastraff a harddwch gwyllt...i greu llyfr sbonc ffrwydrol am hanes safle gemau Olympaidd Llundain, mae gwaith Powell yn ei chymell i feithrin cysylltiad dwfn â safleoedd trefol –.eu hanes, deunyddiau, pobl, barddoniaeth a gwleidyddiaeth. Mae hi newydd orffen prosiect cydweithredol o’r enw, Bank Job – a oedd yn cwmpasu ffilm (a gafodd ei chynnnwys ar restr fer gwobr Grierson 2021), gwneud printiau, cyfranogiad, cymuned, llyfr, castio mewn metal, diddymu dyled a ffrwydradau. Mae Bank Job yn cael ei ddilyn yn syth gan POWER - prosiect sy’n archwilio pŵer cymuned, celf a’r haul.