Last Orders
Ron McCormick
Cafodd y diwydiant lletygarwch ei daro’n arbennig o galed a bu’n rhaid i dafarndai arllwys miloedd o beintiau o gwrw i lawr y draen cyn cau am fisoedd lawer. Cafodd staff eu diswyddo neu eu rhoi ar ‘ffyrlo’ gyda llai o gyflog, a bu’n rhaid i lawer o fusnesau gau eu drysau’n barhaol. Pan ganiatawyd i dafarndai a thai bwyta agor eto, rhoddwyd cyfyngiadau ar eu horiau agor, ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol llym a oedd yn golygu lleihau eu cronfa cwsmeriaid o 75%. Cafodd y newidiadau ym mhatrymau cymdeithasol pobl a’r newid cyson yn y rheolau a orfodwyd gan y llywodraeth effaith arwyddocaol ar hyfywedd llawer o fusnesau bach. Yn gynyddol, roedd y dyfodol yn edrych yn ansicr i lawer ohonynt, ac roedd pryder gwirioneddol y byddai tafarndai bach lleol, fel The Red Lion, yn gorfod cau am byth.
Mae Last Orders yn croniclo sut yr ymatebodd un dafarn draddodiadol yng Nghasnewydd i gyfyngiadau’r cyfnod clo, y cyfyngiadau ar oriau agor a’r cyfyngiadau ar nifer y cwsmeriaid. Mae tafarn The Red Lion yn Stow Hill yn croesawu cymysgedd gosmopolitan o gwsmeriaid – dynion canol oed sy'n weithwyr, selogion cwrw go iawn a gemau tafarn traddodiadol, dilynwyr pêl-droed a rygbi iau, pensiynwyr sydd wedi ymddeol a theuluoedd lleol. Er gwaethaf Covid, mae ysbryd traddodiadol y dafarn fel canolfan i’r gymuned ddod at ei gilydd yn parhau - ond gyda chwistrellau gwrthfacterol a hylif diheintio dwylo ar hyd a lled y lle, gofyniad i gofrestru pob ymwelwr (hyd yn ddiweddar iawn) a dim hawl i sefyll wrth y bar. Am fisoedd lawer 'gwasanaeth bwrdd yn unig' oedd ar gael, ac roedd yn rhaid cadw pellter cymdeithasol rhwng y byrddau hefyd. Ac roedd dryswch o hyd ymysg cwsmeriaid am y rheolau a oedd yn newid mor gyson.
Hyd yma, ni chofnodwyd unrhyw achosion o heintiadau Covid oedd â chysylltiad â’r Red Lion.