Mynd â Matres Am Dro
Kajagoogoo Squadron
Bydd y daith yn dechrau yng ngorsaf fysiau Casnewydd. Yno, bydd Sgwadron
Kajagoogoo yn camu ar fwrdd bws rhif 30 gyda matres ddwbl. Ar ôl cyrraedd Caerdydd, fe fyddan nhw’n troi rownd a cherdded yr holl ffordd yn ôl i Gasnewydd - gan ddilyn llwybr taith bws rhif 30, a llusgo’r fatres gyda nhw.
Proffil Artist
Kajagoogoo Squadron
(paste text here) Roedd effaith eang y pandemig ar draws y genedl wedi achosi amodau perffaith i greu pâr o arsylwyr diwylliannol ffuglennol - Kajagoogoo Squadron. Yr unig rai yn y sgwadron oedd General Panache a Nurse Apropos, ac roedden nhw’n cyflwyno beirniadaeth ddiwylliannol ddyfnach a mwy lliwgar oedd yn cyferbynu’r sylwadau “O cariad, mae’n wych!” yr oedd y mwyafrif o bobl yn eu dweud drwy gydol Cyfnod y Pandemig.
Mae Kajagoogoo Squadron yn defnyddio ymyriadau dinesig i fonitro canlyniadau artistig Casnewydd yn rheolaidd. Nodau eraill y gweithgareddau y maen nhw wedi eu gorfodi arnynt eu hunain yw curadu dinesig, gweithgareddau allgyrsiol, ymgyrchu drwy gelfyddyd stryd, gwneud ffilmiau, cyfeillgarwch a thynnu nifer o luniau. Mae eu gwaith wedi cael ei arddangos ar nifer o wahanol gyfrifon ledled platfform Instagram ac mae wedi bod yn bwnc trafod rhwydd mewn tafarnau a chaffis o fewn ac o amgylch Casnewydd.
Mae Kajagoogoo Squadron yn edrych ymlaen at weld Casnewydd yn dod yn Ddinas Diwylliant yn 2025, os nad cynt.