Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

The Oddfellows Pigeon Club

Dilip Sinha

Cafodd Clwb Colomennod yr Oddfellows ei sefydlu’n ôl yn y chwedegau. Byddai aelodau’r clwb yn cwrdd yn nhafarn yr Oddfellows Arms ym Maendy yng Nghasnewydd. Yn fwy penodol, byddent yn cwrdd mewn adeilad haearn crychiog mawr â tho cromen yng ngardd gefn y dafarn – i ddangos eu colomennod. Ar un adeg roedd gan y clwb dros naw deg o aelodau, ond erbyn 2016 roedd yr aelodaeth wedi dirywio’n sylweddol i ddim ond rhyw ddeg neu bymtheg ar gyfartaledd. Gan mai nifer fach iawn o aelodau oedd yn mynychu’r cyfarfodydd, roeddynt yn gwario llai a llai o arian yn y bar.

Ac felly, nid oedd cefnogi’r clwb yn gwneud synnwyr economaidd i’r dafarn. Yn y pendraw, penderfynodd y landlord y byddai’n well defnyddio’r adeilad yng ngardd gefn y dafarn at bwrpasau eraill. Erbyn 2017, gwaetha’r modd, nid oedd y clwb yn bodoli.

Tyfodd cadw colomennod rasio yn hobi poblogaidd iawn ymysg dynion dosbarth gweithiol yn bennaf; ac roedd diwylliant rasio colomennod yn ei anterth yn ystod diwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau. Dirywiodd ei boblogrwydd law yn llaw â dirywiad dramatig y diwydiannau trwm.

Yn ei anterth, roedd dros ugain o glybiau bridwyr colomennod yng Nghasnewydd; ond dim ond llond dwrn sydd wedi goroesi. Gan fod cyn lleied o bobl ifanc yn ymddiddori mewn rasio colomennod, cyn bo hir bydd yn ddiwylliant sy’n perthyn i’r gorffennol yn unig.

Ond, wedi’r pandemig, mae landledi newydd y tu ôl i’r bar: Mae Jo Harridence wedi bod yn un o selogion y dafarn ers dros dri deg o flynyddoedd, a bellach mae hi wedi ail-sefydlu’r clwb colomennod. Mae’n ymddangos y bydd yr hobi’n goroesi am beth amser eto.

Proffil Artist

Portread o Dilip Sinha

Dilip Sinha

Ganed yn Chesterfield yn 1963 i rieni o India. Roedd ei dad yn beiriannydd mwyngloddio ym meysydd glo Sheffield a Stoke on Trent. Mae profiadau Dilip o dyfu i fyny yng nghymunedau clos ystadau’r gweithfeydd glo yn y saithdegau a’r wythdegau, ynghyd â hiraeth am y gorffennol a chwilfrydedd am newid wedi gyrru ei ddyhead i archwilio cymunedau, cwrdd â phobl a chreu lluniau. Cafodd ei ddiddordeb mewn crefydd a ffydd ei danio yn ystod ei blentyndod hefyd – cerdded i’r gwasanaeth yn gynnar ar fore Sul, ac eistedd yn yr hen eglwys mewn parchedig ofn o’r bensaernïaeth a’r gerddoriaeth gorawl.

Pan oedd yn 16 oed, teithiodd Dilip i India am y tro cyntaf. Yno, daeth i gysylltiad â Hindŵaeth, crefydd ei rieni; profiad a seliodd ei ddiddordeb mewn crefydd - sydd wedi bod yn ffocws i lawer o’i waith yn y gorffenol yn ogystal â’i brosiectau cyfredol yng Nghymru ac India.

Enillodd radd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd yn 2016, ac ers hynny mae wedi dangos ei waith mewn sawl arddangosfa grŵp ac un arddangosfa unigol yn Ne Cymru.