Digwyddiad / 30 Hyd 2021

Goleubeintio

Andy O'Rourke

Mae goleubeintio yn fath o ffotograffiaeth lle mae olion goleuadau’n cael eu cofnod mewn ffotograffiaeth ddinoethiad hir; fel creu siapiau gyda ffyn gwreichion ar Noson Tân Gwyllt.

Mae gen i ryw 50 o ‘Frwshys Golau’ ac rwy’n annog llawer o gyfranogaeth gan y gynulleidfa, gan ganiatáu i bobl o unrhyw allu greu portreadau rhyfeddol a pheintiadau golau haniaethol bywiog, darluniau animeiddiadau a graffiti. Rwyf hefyd yn defnyddio ffyn LED rhaglenadwy sy’n gallu ychwanegu testun neu unrhyw ddelweddau digidol i’r lluniau.

Mae pob delwedd yn cymryd tua 20 eiliad i 1 funud i’w creu. Mae’r llun sy’n datblygu’n ymddangos mewn amser real ar sgrin llechen neu daflunydd fel bod pawb yn gallu gweld y canlyniadau ar unwaith.

Proffil Artist

Portread o Andy O'Rourke

Andy O'Rourke

Rwy’n artist, yn ddylunydd, hwylusydd ac yn ddablwr llawn-amser. Mi wnes i sefydlu Malarky Arts yn 1997 fel hwylusydd celfyddydol, ac rwyf wedi gweithio gyda miloedd o gyfranogwyr i ddatblygu creadigaethau rhyfedd a rhyfeddol yn Sbaen, Gran Canaria, Malta, Emiraethau Arabaidd Unedig ac ar draws Gymoedd De Cymru. Yn ystod fy ngyrfa fel artist rwyf wedi datblygu, ac yn parhau i archwilio, amrywiaeth eang o dechnegau. Ar unrhyw adeg mi allwn i fod yn gweithio ar ddyluniad i lyfr, murlun enfawr, ffotograffiaeth paentio â golau, animeiddiad, Realiti Rhithwir, Realaeth Estynedig, dyluniadau 3D, gweithiau goleuni, cerfluniaeth ac ystod o gelfyddydau perfformio ac eraill ag iddynt sail amser.