IRIS Prize LGBT+ Film Festival
IRIS Prize
Mae gwneuthurwyr ffilm o bob rhan o’r byd yn dod i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl Ffilm
LHDT+ Gwobr Iris. Yn ystod yr ŵyl cyhoeddir enillydd Gwobr Iris – gwobr fwyaf y byd am ffilm fer - sy’n werth £30,000. Mae’r wobr nodedig yma’n derbyn cefnogaeth gan Sefydliad Michael Bishop, ac mae’n rhoi cyfle i’r enillydd wneud ei ffilm fer LHDT+ nesaf yma yng Nghaerdydd.
Bydd Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yn digwydd wyneb yn wyneb mewn canolfannau
yng Nghaerdydd rhwng dydd Mawrth 5 Hydref a dydd Sul 10 Hydref. Os dymunwch, gallwch fynychu’r ŵyl yn rhithwir gan y byddwn yn cyflwyno’r digwyddiadau ar-lein hefyd o ddydd Mawrth 5 Hydref tan ddydd Sul 31 Hydref 2021.
Proffil Artist
IRIS Prize
Mae Gwobr Iris yn dathlu ffilmiau LHDT+ anhygoel drwy’r flwyddyn. Dros 15 mlynedd mae Gwobr Iris wedi tyfu i fod yn un o’r lleisiau mwyaf blaenllaw sy’n hybu ffilmiau byrion LHDT+ ac yn un o ddigwyddiadau nodedig calendr gwyliau ffilm Prydain.
Mae Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd bob mis Hydref.
Yn ogystal â bod yn ŵyl lle gall ffilmiau Prydeinig gymhwyso ar gyfer BAFTA, mae Iris hefyd yn dyfarnnu Gwobr Iris sy’n werth £30,000 - gwobr fwyaf y byd am ffilm fer. Mae’r wobr yn galluogi’r enillydd i wneud ffilm fer newydd. Gallwch wylio rai o ffilmiau cyn enillwyr Gwobr Iris yma.
Mae Iris hefyd yn cynnal dangosiadau o ffilmiau LHDT+, gwyliau bach, a phrosiectau allgyrch drwy gydol y flwyddyn.