Arddangosfa / 1 Hyd – 31 Hyd 2021

I’m afraid of violence, but I’ve often submitted to it

Gareth Phillips

A yw trais yn rhan annatod o’r cyflwr dynol? A yw trais yn anochel mewn cymdeithas egalitaraidd? A yw ein hamgylchedd o gyfryngau torfol yn creu siambr atsain o weithredoedd a dial treisgar? Mae I’m afraid of violence, but I’ve often submitted to it yn osodwaith llyfr sy’n canolbwyntio ar berthynas fechnïol cymdeithas gyda thrais. Mae’n annog y sawl sy’n edrych arno i gwestiynnu ei rôl fel gwyliwr neu lygad- dyst, wrth ddod wyneb yn wyneb â thrais, ac yn gofyn a yw’r penderfyniad hwnnw, yn ymwybodol ai peidio, yn cyfrannu at barhad y trais mewn cymdeithas gyfoes. Gan ddefnyddio golygfeydd go iawn a welodd yn ninas Caerdydd, mae’r llyfr hwn, sy’n 106 o dudalennau yn cwestiynnu’r rolau traws-beillio sydd gan y ffotograffydd, y sawl sydd dan sylw, a’r gwyliwr, wrth iddyn nhw drosglwyddo rhwng bod yn wyliwr neu’n dyst.

Proffil Artist

Portread o Gareth Phillips

Gareth Phillips

Mae Gareth Phillips wedi ei seilio yng Nghaerdydd, y DU, ac mae’n ffotograffydd sefydledig sy’n gweithio’n bennaf drwy gyfrwng llyfrau ffotograffau a gosodwaith. Mae ganddo gefndir eang mewn arddangosfeydd rhyngwladol ac mae’n parhau i weithio gyda chleientiaid fel Saatchi & Saatchi, The Guardian, Sunday Times Magazine, The Wall Street Journal ac FT Weekend Magazine. Graddiodd yn 2007 mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol Cymru, Casnewydd, ac mae ei waith wedi ei gydnabod gan nifer o wahanol wobrau. Mae detholiad o’i waith i’w weld yn awr yng Nghasgliad David Hurn yn Amgueddfa Cymru.